Yn TUC Cymru roeddem yn falch i lansio ein Cynnig Cymraeg llynedd. Mae’r Cynnig yn nodi’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael yn Gymraeg wrth gyfathrebu â TUC Cymru.
Heddiw, ar ddiwrnod ein nawdd sant, mae TUC Cymru yn falch i lawnsio ein ‘Gwasanaeth Cyfarch Dwyieithog ar y Ffôn’.
Fe gewch eich cyfarch ar y ffôn gan ddysgwr Cymraeg, siaradwr Cymraeg iaith gyntaf neu gan aelod di-Gymraeg o’r tîm yng Nghymru sy’n falch i ymroi i wasanaethu undebau, aelodau, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn ddwyieithog.
Mi allwn ddelio gyda’ch ymholiad un ai yn y Gymraeg neu’r Saesneg, a gall aelod o’r tîm eich galw yn ôl er mwyn siarad Cymraeg gyda chi os bydd angen gwneud hynny.
Mae TUC Cymru yn sefyll dros hawliau siarad Cymraeg yn y gweithle a thros hawliau derbyn gwasanaethau Cymraeg yn y trydydd sector, gan adeiladu ar yr hawliau i ddefnyddio’r iaith Gymraeg wrth ddelio gyda chyrff cyhoeddus.
Wedi’r cyfan, mae cynnig a derbyn gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o gydraddoldeb yng Nghymru a gofynnwn i bawb wneud eu rhan i barhau i ddatblygu a defnyddio gwasanaethau Cymraeg.
Cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno â’r Fforwm y Gymraeg
Ehangu ein gwasanaeth yw ein ffordd ni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant, ein traddodiadau Cymreig a’n hiaith Gymraeg. Chwifiwn faner yr iaith Gymraeg ar Ddydd ein nawddsant a chofiwn mai mewn undod mae nerth!