Mae TUC Cymru yn falch o gefnogi Diwrnod Hawliau’r Gymraeg ar 7 Rhagfyr. Rydyn ni’n dathlu statws swyddogol y Gymraeg ac yn sefydlu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg wrth ddelio â sefydliadau cyhoeddus.
Yn gynharach eleni, fe wnaethom lansio ein Cynnig Cymraeg. Mae’r Cynnig yn nodi’r hyn y gallwch ddisgwyl ei gael yn Gymraeg wrth gyfathrebu â TUC Cymru. Roeddem yn falch iawn o fod yn un o’r 55 sefydliad Trydydd Sector cyntaf yng Nghymru i dderbyn cydnabyddiaeth Comisiynydd y Gymraeg am ein Cynnig Cymraeg.
Yn ogystal â’r Cynnig Cymraeg, mae gennym gynlluniau beiddgar i ddatblygu ein darpariaeth Gymraeg drwy ein Cynllun Datblygu’r Gymraeg.
Yn TUC Cymru, rydyn ni hefyd yn mynd ati i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith ac mae gennym lawer o aelodau o staff sydd eisoes wedi dechrau neu’n bwriadu dechrau dysgu Cymraeg.
Darllenwch flog Marion am ddysgu Cymraeg a sut mae wedi bod o gymorth iddi mewn ffyrdd nad oedd hi’n eu disgwyl, gan gynnwys ei helpu i ddisgyn i gysgu yn y nos!
Cydraddoldeb y Gymraeg ac yn y gweithle
Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth.
Ac un o’r ffyrdd rydym yn datblygu cefnogaeth y Gymraeg i’n hundebau cysylltiedig yng Nghymru yw drwy lansio Fforwm y Gymraeg yn Ionawr 2023.
Mae’r Fforwm hwn yn agored i holl aelodau undebau ledled Cymru a bydd yn rhoi cyfle i aelodau wneud y canlynol:
Rwy’n edrych ymlaen yn arw at y cyfle y bydd y Fforwm newydd yn ei roi i ni ac aelodau ein hundebau yng Nghymru i drafod, datblygu, esblygu a thrawsnewid ein hymgysylltiad ag aelodau a’r cyhoedd drwy ddangos pa mor falch rydyn ni'n cynnig a chefnogi gwasanaethau yn Gymraeg. Wedi’r cyfan, mae ‘Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi’ yn taro tant gyda ni i gyd!
Beth am ddathlu’r Gymraeg gyda’n gilydd - ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon!
Cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno â’r Fforwm y Gymraeg neu cysylltwch â mi ar MJames@tuc.org.uk os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.