Mae Cynnig Cymraeg TUC Cymru yn dweud, wrth gyfathrebu â TUC Cymru, y gallwch ddisgwyl:
Gweld bod llawer o wefan TUC Cymru yn ddwyieithog
Gallu siarad ag aelod o staff sy’n gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith yn Gymraeg
Derbyn ein e-gylchlythyrau yn ddwyieithog
Anfon e-bost neu lythyr atom yn Gymraeg – byddwn yn ymateb yn yr un iaith
Ein gweld yn defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymateb i’ch sylwadau Cymraeg yn Gymraeg
Datblygwyd y cynllun Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gwybod pa wasanaethau Cymraeg sydd ar gael iddynt. Dyma hefyd y gydnabyddiaeth swyddogol a roddwyd gan y Comisiynydd i sefydliadau y maent wedi cydweithio â hwy i gynllunio darpariaeth Gymraeg uchelgeisiol.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
"Mae trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn rhan o'n hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydyn ni eisiau i bawb allu cyfathrebu â ni yn eu dewis iaith. Rwyf wrth fy modd bod ein Cynnig Cymraeg wedi cael ei gymeradwyo gan Gomisiynydd y Gymraeg.
"Yr wythnos diwethaf clywsom fod 33,000 o aelodau newydd wedi ymuno ag undebau llafur yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd llawer ohonynt yn siaradwyr Cymraeg ac rydym am iddynt deimlo bod croeso iddynt yn ein mudiad.
"Rydym hefyd yn gobeithio y bydd bod yn agored am ein hymrwymiad i gyfathrebu'n ddwyieithog yn helpu i ddenu mwy o aelodau undeb, yn enwedig gweithwyr iau sy'n fwy tebygol o siarad Cymraeg.
"Gan fod nifer y siaradwyr Cymraeg yn debygol o gynyddu yn y blynyddoedd sydd i ddod, bydd TUC Cymru yn gweithio gydag undebau llafur i sicrhau bod ein mudiad yn gallu gwasanaethu ein cynrychiolwyr a'n aelodau yn eu dewis iaith.
"Yn ein Cyngres yr wythnos diwethaf gwnaethom ailddatgan ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn cefnogi cynrychiolwyr undebau llafur i allu cynnal eu busnes undebol yn y Gymraeg drwy gynhyrchu a hyrwyddo deunyddiau cymorth dwyieithog."
Dywedodd Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg:
"Mae logo Cynnig Cymraeg yn gydnabyddiaeth swyddogol o ymrwymiad sefydliad i ddefnyddio'r Gymraeg. Pan fydd TUC Cymru yn defnyddio'r logo hwn ar-lein ac mewn digwyddiadau bydd yn rhoi hyder i bobl ddefnyddio'r Gymraeg."
Darllenwch mwy am ein hymrwymiad i gyfathrebu yn ddwyieithog