Gwnaeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ddarpariaeth ar gyfer statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru ac o ganlyniad iddo mae gan bawb:
Mewn sefydliadau sydd o dan ddyletswyddau Safonau’r Gymraeg mae gennych hawliau penodol yn eich gweithle - ffeindiwch allan fwy am hyn oddi isod.
Mae cefnogi hawliau defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle yn rhan allweddol o’n credau mewn gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Fel aelodau undebol rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac rydym am ddiogelu cynhwysiant cymdeithasol yn nhermau’r iaith Gymraeg.
Mae TUC Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas yr Iaith i gefnogi hawliau gweithwyr i siarad a defnyddio, i ddysgu a mwynhau’r Gymraeg yn ddirwystr yn y gweithle. A gyda’n gilydd rydym yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau Cymraeg – gan adlewyrchu eu defnydd ymhob agwedd o fywyd bob dydd – yn cynnwys bywyd hamdden, yn y cartref a'r gymuned.
Mae gwaith teg yn hyrwyddo amodau teg gweladwy yn y gweithle sy’n parchu hawliau gweithwyr. Mae TUC Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr mewn partneriaeth gymdeithasol gyda’r nod o greu Cymru “mwy cyfartal, teg a chyfiawn, gyda gwaith teg yn rhan annatod ohoni”. (Llywodraeth Cymru).
Mae ein hymgyrch am gydraddoldeb i’r iaith Gymraeg yn y gweithle yn rhan o’r agenda gwaith teg:
“Gwaith teg yw gwaith sy’n bodloni hawliau gweithwyr, sy’n cefnogi llesiant gweithwyr, ac sy’n sicrhau bod gan weithwyr lais. Gwaith teg yw presenoldeb amodau gweladwy yn y gwaith sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli’n deg. Gall gweithwyr hefyd ddatblygu mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol lle y rhoddir parch i’w hawliau fel gweithwyr.” (Canllaw i waith teg, Llywodraeth Cymru)
Rhoddodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 y rhyddid i bawb ddefnyddio’r Gymraeg, statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, a chreu swydd Comisiynydd y Gymraeg a Safonau’r Gymraeg - safonau a dyletswyddau ymddygiad sy’n ymwneud â’r Gymraeg, ac mae’n rhaid i’r cyrff sy’n dod o fewn categori a restrir yn y Mesur ac sydd wedi eu henwi’n benodol, gydymffurfio â hwynt wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ac yn ymroi i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg ac yn creu hawliau drwy orfodi dyletswyddau. Mae gan y Comisiynydd hefyd y grym i ymchwilio i achosion o ymyrryd honedig â rhyddid yr unigolyn i ddefnyddio’r Gymraeg mewn amgylchiadau penodol.
Lawrlwythwch daflen y Comisiynydd ‘Byw yn y Gymraeg – Gweithio yn y Gymraeg’
O ganlyniad i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 mae gan bawb:
Y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg
Yr hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg gydag eraill yng Nghymru yn ddirwystr, heb ymyrraeth na dioddef anfantais – gan gynnwys ym mhob gweithle a sector.
Mae’r rhyddid i gyfathrebu yn Gymraeg yn perthyn i bawb.
Mewn sefydliadau sydd o dan ddyletswyddau Safonau’r Gymraeg, mae gennych hawliau fel y rhain:
Gallwch ofyn i’ch cyflogwr pa wasanaethau maen nhw’n eu cynnig drwy’r Gymraeg.
Mae gennych hawl i gwyno wrth Gomisiynydd y Gymraeg, sydd o dan ddyletswydd i ystyried eich cwyn a cheisio sicrhau tegwch i chi, ac nid oes cost i chi wneud hyn.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio ar sail wirfoddol gyda chyrff sector preifat a’r trydydd sector gyda’r nod o gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ynddynt.
Mae TUC Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chymdeithas yr Iaith. Yn ei hanfod, mae’r bartneriaeth - gyda'r amcan o warchod y Gymraeg - yn canolbwyntio ar gefnogi a hyrwyddo ei dyfodol fel iaith fyw yng ngweithleoedd a chymunedau Cymru, a hynny fel rhan o agenda ehangach gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Gyda’n gilydd rydym yn ceisio diogelu rhyddid ac hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle fel rhan o’n nodau gwaith teg, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol.
Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo cyfleoedd i weithwyr ddysgu Cymraeg ac uwchsgilio.
Ac rydym am weld hawliau Cymraeg ychwanegol yn cael eu cyflwyno a’u gweithredu dros amser a’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio ym mhob gweithle yng Nghymru.
Mae TUC Cymru eisiau i bawb gyfathrebu gyda ni yn yr iaith maent yn dymuno gwneud hynny. Rydym yn falch ein bod wedi derbyn cymeradwyaeth ‘Cynnig Cymraeg’ gan Gomisiynydd y Gymraeg. Mae hwn yn esbonio’n glir pa wasanaethau Cymraeg gallwch ddisgwyl eu derbyn gyda ni.
Rydym yn ymroddedig i gynyddu cyfathrebiadau Cymraeg ar draws y symudiad undebol. Os ydych yn gweithio i undeb ac yn dymuno cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg cysylltwch gyda Dr Mandy James ar MJames@tuc.org.uk