Mae Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru yn rhaglen arweinyddiaeth heb ei thebyg

Dyddiad cyhoeddi
Lansiwyd Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru ym mis Mawrth 2023.

Mae Tansaim Hussain-Gul yn un o 9 cyfranogwr ar y rhaglen ac mae hi wedi bod yn sôn wrthyf am ei phrofiadau hyd yn hyn a sut mae'r rhaglen hon yn wahanol i raglenni arweinyddiaeth eraill y mae hi wedi bod yn rhan ohonynt.

Tansaim Hussain-Gul

Tansaim Hussain-Gul

Mae fy mywyd yn dyst i gydraddoldeb a thegwch, gwerthoedd yr wyf yn credu ynddynt ac yn eu hyrwyddo yn fy ngweithle a’m bywyd personol. Rwy'n neilltuo fy amser i helpu pobl.

Rwy'n eirioli'n ddiflino dros degwch a chyfiawnder sy'n gwneud i mi deimlo fel unigolyn arbennig ac rwy'n anelu at adael effaith barhaol ar y rhai rwy'n dod ar eu traws.

Fy enw i yw Tansaim Hussain-Gul ac rwy'n weithiwr proffesiynol ymroddedig sy'n gweithio yn y sector preifat. Rwy'n weithgar o fewn Unsain yn dal sawl swydd gan gynnwys Cadeirydd Cydraddoldeb Cymru/Wales a Chadeirydd y Pwyllgor Anabledd.

Y tu allan i'r gwaith a chyfrifoldebau undeb, rwy'n fenyw benderfynol sy'n cydbwyso ei bywyd proffesiynol â rôl mam ymroddedig i bedwar o blant.

Rwy'n fenyw falch a aned yng Nghaerdydd.
 

Disgwyliadau’r rhaglen, a’r realiti

Ymunais â rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru * yn gynnar yn 2023 gan feddwl y byddai'r rhaglen hon fel unrhyw raglen arweinyddiaeth arall yr wyf wedi dod ar ei thraws o'r blaen.

Mae'r rhain yn sôn am arweinwyr a sgiliau arwain ac yna does dim byd yn digwydd.

Roeddwn i'n anghywir.  Mae'r rhaglen hon wedi buddsoddi'n helaeth mewn dod i fy adnabod i a fy nghydweithwyr. Roedd yn rhoi cyfle i ni weithio ar ein pryderon gyda’n gilydd ac yn unigol.

Ar y rhaglen buom yn trafod yr anghyfiawnder a'r hiliaeth a welwn yn ddyddiol a phroblemau yr ydym wedi bod yn eu hwynebu wrth geisio datblygu ein hunain yn ein gweithleoedd. Rydym i gyd ar ryw adeg wedi taro wal frics neu wedi cael gwybod na chawsom swydd gan ein bod wedi gor-gymhwyso neu ein bod wedi methu o 2 bwynt, ac ati.

Adeiladu'r rhaglen ein hunain

Y peth rydw i'n ei hoffi fwyaf am y rhaglen hon yw ei bod yn seiliedig ar yr hyn yr ydym am ei gyflawni o'r rhaglen ac nid yr hyn y mae eraill am i ni ei wneud a'i gwblhau.

Rydym wedi cael y cyfle i'w hadeiladu ein hunain, i ddweud yr hyn yr ydym ei eisiau neu ei angen.

Adeiladu'r rhaglen ein hunain

Mae'r rhaglen hon wedi bod yn wych ac mor ddifyr. Mae gennym ystod eang o wybodaeth amrywiol gan wahanol grwpiau oedran, gwahanol gefndiroedd gwaith a bywydau cartref. Ac rydym wedi gallu rhannu amrywiaeth o straeon bywyd.

Mae tîm TUC Cymru a lansiodd y rhaglen hon - Humie, Amarjite a Flick - wedi bod yn wych. Maent wedi ymgysylltu â ni ar lefel bersonol drwy gynnal cyfarfodydd un-i-un a dod i wybod beth yw ein barn am y cwrs a'r hyn yr hoffem ei gynnwys yn y modiwl nesaf.

Pan fydd y peilot hwn wedi'i orffen ac yn symud ymlaen i raglen newydd, bydd o fudd i bob aelod o undeb Pobl Dduon Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i'w helpu i gyflawni eu huchelgais yn eu bywyd personol a gwaith.

Dyma pam fod ymuno ag undeb mor bwysig - gall roi'r holl wybodaeth a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn bywyd.

Anelu at fod yn Aelod Seneddol neu Aelod o’r Senedd

Rwy'n gweithio tuag at ymgymryd â rôl arwain yn fy undeb. Ond rwyf hefyd yn edrych ar ddatblygu fy hun yn fy mywyd cyhoeddus gan fy mod yn teimlo nad oes digon o gynrychiolaeth Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn Llundain nac yn ein Senedd.

Ar hyn o bryd rwy'n ymgeisydd dros Lafur Cymru ac yn sefyll fel AS dros Gaerfyrddin ac rwyf wedi llwyddo i basio'r cyfweliad rhestr hir a'r cyfweliad rhestr fer.

Byddaf yn mynychu hysting, lle bydd aelodau'n pleidleisio, gan fy mod yn un o dri ymgeisydd cryf sy'n sefyll dros Lafur.

Nodweddir fy ymrwymiad i'm gwaith gan fy mhenderfyniad diwyro i sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed a thrwy ymdrechu’n ddi-baid i gefnogi a grymuso eraill.

Mae hwn wedi bod yn brofiad anhygoel i mi hyd yn oed os nad ydw i wedi cael fy newis. Rwy'n fwy na hapus fy mod wedi cael y profiad hwn o fentro i sefyllfa nad wyf yn gyfforddus ynddi.

Mae wedi rhoi sgiliau mwy buddiol i mi sy'n cydgysylltu â fy undeb, fy ngwaith, a bywyd cyhoeddus fel ymgeisydd. Fy nod hirdymor yn y dyfodol yw dod yn aelod o'r Senedd a bod yn llais i aelodau fy undeb a'm cymuned a sicrhau fy mod yn chwalu'r rhwystrau i bobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill yng Nghymru i ddilyn y llwybrau hyn.


*Gall defnyddio'r term Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wrth drafod hiliaeth yn erbyn grŵp o bobl ar y cyd, gan ddefnyddio termau neu acronymau fod yn ddefnyddiol wrth ddangos profiad cyfunol hiliaeth.
Fodd bynnag, pan fyddant mewn gweithleoedd neu wasanaethau - mae parchu mynegiant person o'i hunaniaethau personol yn y ffordd y mae'n dewis yn bwysig. Rydym yn ystyried adborth yr ymgynghoriad a gafodd Llywodraeth Cymru yn eu Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth. Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r term llawn pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wrth gyfeirio at grŵp. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod, i bobl Sipsiwn a Theithwyr, pobl Iddewig a phobl o'r ffydd Islamaidd, fod pryderon ynghylch i ba raddau y mae'r term hwn yn cynnwys eu hunaniaethau.