Trefnwch Nawr: Cynhadledd i undebwyr llafur yn yr 21ain ganrif
Ymunwch â ni am ddiwrnod o sgyrsiau ysbrydoledig a gweithdai ymarferol i’ch helpu i drefnu yn eich gweithle.
Mae’r digwyddiad hwn yn agored i gynrychiolwyr ac ymgyrchwyr o bob undeb a sector yng Nghymru. Mae'n rhoi cyfle i wneud y canlynol:
Dysgu tactegau trefnu newydd
Gwrando ar brofiadau cynrychiolwyr a swyddogion
Rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda i undebwyr llafur mewn undebau a gweithleoedd eraill
Gwrando ar siaradwyr ysbrydoledig o bob rhan o’n mudiad
Byddwn yn cyhoeddi'r siaradwyr cyn bo hir ond byddent yn trafod y pynciau perthnasol o:
Mynd i'r afael â'r dde eithafol
Trefnu digidol
Ymgysylltu â gweithwyr ifanc
Trefnu mewn mannau newydd
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a darperir cinio.
Mae gan gynrychiolwyr undebau llafur hawl i gael amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith gyda thâl i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant. Gofynnwch i’ch undeb am ragor o gyngor os oes angen cymorth arnoch i gael amser i ffwrdd i fynychu.
Holiday Inn, Cardiff City Centre
Castle Street
Cardiff
CF10 1XD
Y Deyrnas Unedig
Rydym am i bawb sy'n mynychu digwyddiadau TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.