Gwrth-hiliaeth yn y gweithle - pecyn cymorth ar gyfer cynrychiolwyr undebau
Fel mudiad undebau llafur, rydyn ni eisiau gweld gweithleoedd gwrth-hiliol. Mae hyn yn golygu gweithredu’n bwrpasol i gyflawni hyn. Mae hiliaeth systemig eisoes yn rhan o ddiwylliant gweithleoedd ac felly mae angen iddynt weithio i gael gwared ohoni.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn tynnu sylw at ffyrdd o wneud hyn mewn partneriaeth ag undebau, ond mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud ar ein siwrnai bersonol hefyd.
Mae undebau llafur ar flaen y gad o ran sicrhau bod gweithleoedd yn darparu gwaith teg, o ansawdd da, i weithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
Mae hyn yn golygu gweithleoedd diogel:
- Lle perchir lleisiau gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a lle gwrandewir ac y gweithredir arnynt
- Lle ceir cyflogau teg, sydd wedi’u cydfargeinio ac sy’n cynyddu yn unol â chwyddiant
- Lle mae telerau ac amodau yn ffafriol i weithwyr, nid ydynt yn gwahaniaethu’n anghymesur ac nid ydynt yn dibynnu ar amodau economi dim oriau nac economi gìg.
- Lle mae cynnydd, datblygiad a dysgu’n cael eu cynnwys ym mhrofiad y gweithwyr er mwyn i’r holl weithwyr allu meithrin eu sgiliau a thyfu yn y gweithle
- Lle mae gweithleoedd yn gweithredu i atal hiliaeth, ac i ddelio â hiliaeth yn gyflym, yn effeithiol a thrwy ddull gweithredu sy’n ystyriol o drawma pan fydd yn digwydd.
Yn ein hymdrechion i hyrwyddo hawliau pob gweithiwr mewn gweithle diogel a pharchus, rhaid i ni weithio i greu a gwreiddio newid diwylliannol sy’n hyrwyddo agwedd dim goddefgarwch tuag at bob math o wahaniaethu a cham-drin ar sail hil.
Rydyn ni’n gwneud hyn gan feithrin ar yr un pryd amgylchedd sy’n dilysu ac yn grymuso’r rheini sydd wedi profi gwahaniaethu ar sail hil i ddod ymlaen a gofyn am gymorth.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau i’ch helpu i wneud y canlynol:
- Nodi gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle a chynnig cefnogaeth effeithiol i’r rheini sy’n ei brofi
- Deall y materion cyfreithiol sy’n ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle
- Llywio sgyrsiau a thrafodaethau gyda chyflogwyr ar ran aelodau sydd wedi profi gwahaniaethu ar sail hil yn y gweithle
- Dal cyflogwyr i gyfrif am eu cyfrifoldeb cyfreithiol i atal gwahaniaethu ar sail hil rhag digwydd mewn gweithleoedd
- Ymgyrchu dros agwedd dim goddefgarwch tuag at wahaniaethu ar sail hil yn y gweithle drwy amrywiol fesurau ataliol
Mae’r pecyn cymorth hwn hefyd yn cael ei ategu gan gynllun 10 pwynt, sef fersiwn fyrrach o’r camau ymarferol y gellir eu cymryd yn y gweithle.