Cipolwg ar ddealltwriaeth gweithwyr yng Nghymru o AI

Awdur
Ceri Williams
Policy officer - Wales TUC
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Rhagair

Lluniwyd yr adroddiad hwn gan Connected by Data, a gefnogir gan TUC Cymru, a Dr Juan Grigera, Coleg y Brenin Llundain.

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn rhoi cipolwg ar brofiad cyfredol gweithwyr yng Nghymru o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI). Y nod yw llywio ymateb yr undeb i AI, a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae undebwyr llafur yng Nghymru yn addasu ac yn dysgu’n gyflym i ymateb i ddefnydd cynyddol o AI. Fodd bynnag, mae angen i ni wneud mwy gyda’n gilydd. Rhaid i weithwyr, undebau, cyflogwyr, technolegwyr a Llywodraeth Cymru weithio law yn llaw i wireddu’r cyfleoedd ac i reoli risgiau AI gyda’i gilydd.

Gyda dull partneriaeth gymdeithasol, gallwn sicrhau bod pawb yn ffynnu yn yr amgylchedd newydd hwn.

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

 Geirfa

Algorithm

Rheol fathemategol yw algorithm. Defnyddir algorithmau mewn llawer o wahanol gyd-destunau, nid mewn technoleg yn unig. Fodd bynnag, mae algorithmau a ddefnyddir mewn technoleg fel arfer yn set o reolau a ddefnyddir gan gyfrifiadur i ddod i benderfyniad.

Awtomatiaeth

Defnyddio neu gyflwyno offer awtomatig mewn gweithgynhyrchu neu broses neu gyfleuster arall.

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (WPC)

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn bartneriaeth rhwng yr undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru. Mae’n cwmpasu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru ac mae’n fforwm ar gyfer materion sy’n ymwneud â’r gweithlu ar draws gwasanaethau cyhoeddus. Penderfynodd yn Nachwedd 2023 i sefydlu grwp ar AI.

Deallusrwydd artiffisial (AI)

Ystyr deallusrwydd artiffisial yw pan fydd cyfrifiaduron yn cyflawni tasgau y byddech fel arfer yn disgwyl iddynt gael eu cwblhau gan fod dynol. Er enghraifft, gwneud penderfyniadau neu adnabod gwrthrychau, lleferydd, a synau.

Deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol

Mae deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (hefyd AI cynhyrchiol neu GenAI) yn ddeallusrwydd artiffisial sy’n gallu cynhyrchu testun, delweddau neu gyfryngau eraill, gan ddefnyddio modelau cynhyrchiol. Mae modelau AI cynhyrchiol yn dysgu patrymau a strwythur eu data hyfforddi mewnbwn ac yna’n cynhyrchu data newydd sydd â nodweddion tebyg.

Digideiddio

Digideiddio neu drawsnewid digidol yw’r broses o fabwysiadu a gweithredu technoleg ddigidol gan sefydliad er mwyn creu cynhyrchion, gwasanaethau a gweithrediadau newydd, neu addasu rhai sydd eisoes yn bodoli, drwy drosi prosesau busnes i fformat digidol.

GPS

System llywio lloeren (neu satnav) y gellir ei defnyddio at ddiben pennu lleoliad, llywio neu olrhain lleoliad rhywbeth sydd â derbynnydd.

Ystyr GPS yw ‘System Leoli Fyd-eang’.

Penderfyniadau awtomataidd

Mae gwneud penderfyniadau awtomataidd (ADM) yn cynnwys defnyddio data, peiriannau ac algorithmau i wneud penderfyniadau mewn amrywiaeth o gyd-destunau, gan gynnwys gweinyddiaeth gyhoeddus, busnes, iechyd, addysg, y gyfraith, cyflogaeth, trafnidiaeth, y cyfryngau ac adloniant, gyda gwahanol raddau o oruchwyliaeth neu ymyrraeth ddynol.

Crynodeb gweithredol

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi themâu allweddol o waith ymchwil a gynhaliwyd gan TUC Cymru ar sut mae undebwyr llafur yng Nghymru yn deall ac yn ymgysylltu â Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn eu gweithleoedd.

Canfu'r gwaith ymchwil fod llawer o ymwybyddiaeth gyffredinol gan weithwyr bod AI eisoes yn effeithio ar eu bywydau gwaith neu y bydd yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae lefelau ymgysylltu ag AI, ac effaith AI, yn benodol i gyd-destun, technoleg a sector. Ceir pryderon trawsbynciol sy’n cwmpasu’r profiad amrywiol hwn, gan gynnwys y goblygiadau o ran cydraddoldeb.

Er bod ymdrechion yn mynd rhagddynt, dywedodd undebwyr llafur nad ydynt ar y cyfan wedi’u grymuso’n ddigonol eto gyda gwybodaeth hygyrch, gyd-destunol a manwl i ddeall y ffurfiau ac effeithiau penodol hyn ar AI y maent yn dod ar eu traws. Mae hyn yn rhwystr i undebwyr llafur ymateb yn effeithiol.

Mae hyn yn cael ei waethygu gan rwystredigaeth eang gyda’r dulliau a’r offer cyfyngedig sydd gan weithwyr i sicrhau bod y trawsnewid AI a digideiddio yn deg ac yn canolbwyntio ar y gweithwyr.

Mae AI yn cyflwyno heriau technegol, cyfreithiol a gweithredol newydd sy’n bygwth dyfnhau anghymesuredd pŵer yn y gweithle ac yn yr economi ehangach.

Fodd bynnag, dylid ystyried y ddeinameg hon yng nghyd-destun cyffredinol rhai o’r cyfreithiau llymaf sy’n llywodraethu cysylltiadau diwydiannol yng ngorllewin Ewrop, a hawliau cyflogaeth nad ydynt wedi’u cynllunio i rymuso gweithwyr i fod yn rhanddeiliaid gweithredol yn eu gweithleoedd, o ran AI neu unrhyw fater arall.

Mae AI wedyn yn gofyn am ymatebion penodol gan y mudiad undebau llafur fel rhan o brosiect ehangach i wella pŵer gweithwyr i siapio technoleg yn eu gweithleoedd a’r economi yn gyffredinol.

Mae’r adroddiad hwn yn dangos y themâu hyn gyda detholiad o ddyfyniadau o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda undebwyr llafur yng Nghymru. Awgrymir cyfres o gamau nesaf ac argymhellion i’w hystyried gan y mudiad undebau yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.

Mynd i’r afael ag AI yn y gwaith
O’r gwŷdd mecanyddol i beiriannau tyllu cardiau IBM, mae gwahanol fathau o awtomeiddio a thechnolegau newydd wedi sbarduno newid yn y gweithle, cysylltiadau cyflogaeth a strwythurau diwydiannol.

Mae AI, sydd wedi bodoli ers y 1960au, bellach yn destun sgyrsiau cyson ar ôl i ChatGPT gael ei lansio ddiwedd 2022. Mae’r proffil gwleidyddol uchel a’r datblygiad technolegol yn cyflwyno nifer o fygythiadau; rhai yn amlwg ac eraill yn ddamcaniaethol. Fodd bynnag, mae’r amhariad hefyd wedi bod yn gyfle i bwysleisio anghenion gweithwyr mewn newid cymdeithasol a thechnolegol, ac i herio goruchafiaeth bresennol – y naratifau, arferion a pholisïau - gan amrywiaeth gul o safbwyntiau a chwmnïau technoleg.

Er gwaethaf y sylw dwys a’r diddordeb mewn AI, nid yw’r sgwrs wedi dod ag eglurder eang i fater technolegol cymhleth. Mae AI yn cynnwys popeth o’r modelau dysgu peirianyddol mwyaf datblygedig i fformiwlâu taenlenni ac algorithmau cyffredin a ddefnyddir bob dydd.

Mae wedi arwain at ddadlau ffyrnig ynghylch ei effaith benodol a chyffredinol ar wahanol sectorau a chymdeithas yn gyffredinol. Mae cael darlun cliriach yn rhagflaenydd hanfodol i weithredu.

Yn dilyn hyn, pasiwyd y Penderfyniad ar Ddata ac AI yng Nghyngres TUC Cymru 2022 i adeiladu ar y dull partneriaeth gymdeithasol sydd ar waith yng Nghymru.

Roedd y penderfyniad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu fframwaith ar gyfer mynd i’r afael ag AI sy’n parchu’r angen am lais y gweithiwr, ‘cyfiawnder data’, a rheoli'r effeithiau andwyol ar swyddi, ymysg agweddau eraill (gweler atodiad isod).

I gefnogi’r penderfyniad hwn, ymrwymodd TUC Cymru i ymchwilio i brofiadau cyfredol undebwyr llafur yng Nghymru. Roedd Connected by Data a Dr Juan Grigera o Goleg y Brenin Llundain yn cefnogi'r fenter hon.

Canfu arolwg a gomisiynwyd gan undeb Prospect, ac a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, fod y rhan fwyaf o weithwyr yn dymuno gweld y llywodraeth yn rheoleiddio AI cynhyrchiol yn y gwaith, ac y byddent yn anghyfforddus bod yn destun technolegau cuddwylio sy’n weithredol ar hyn o bryd mewn llawer o weithleoedd.

Nod y gwaith ymchwil hwn oedd cael mewnwelediad ansoddol a chyd-destunol i ategu'r dystiolaeth sylweddol o bryder cyffredinol gan weithwyr am effaith AI ar swyddi a bywydau gwaith.

Cafodd pum deg chwech o swyddogion undebau, cynrychiolwyr a gweithwyr undebol eu cyfweld mewn saith grŵp ffocws ac un sesiwn briffio a oedd yn rhychwantu 19 o undebau llafur a saith sector economaidd wedi’u diffinio’n fras (y sector cyhoeddus, addysg, gweithgynhyrchu, y diwydiannau creadigol, manwerthu, telegyfathrebu a logisteg).

Roedd y rhaglen ymchwil yn ceisio:

  1. Deall sut mae swyddogion undebau a chynrychiolwyr lleyg yn y gweithle yn profi ac yn cael eu heffeithio gan AI yn eu gweithleoedd.
  2. Deall i ba raddau mae undebau llafur yn cefnogi’r gwaith o negodi technolegau’n effeithiol yn y gweithle, a’r modd sydd gan weithwyr i sicrhau bod AI yn canolbwyntio ar weithwyr. Roedd hyn yn cynnwys arolygu’r ymgysylltiad â deunyddiau hyfforddi ac addysgol a gynhyrchwyd gan Brosiect AI y TUC, a gwaith TUC Cymru ar AI a digideiddio gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu yng Nghymru.

Cyhoeddodd y prosiect bostiadau blog o’r grwpiau ffocws wrth i’r gwaith ymchwil fynd rhagddo. Y nod oedd galluogi’r swyddog undeb llafur a’r gweithwyr a gymerodd ran i rannu mwy o fanylion a chyfraniadau sy’n benodol i’r sector.

Blogiau sydd wedi’u cyhoeddi

Cwmpas yr adroddiad hwn

Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar safbwyntiau a phrofiadau’r gweithwyr undebol, y cynrychiolwyr a’r swyddogion undeb a gymerodd ran yn y gwaith ymchwil rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd 2023.

Cymerodd undebwyr llafur, cynrychiolwyr a swyddogion o’r undebau canlynol ran: BDA, Bectu, Coleg Brenhinol Podiatreg, Community, CWU, Cymdeithas y Radiograffwyr, Equity, FDA, Gild yr Ysgrifenwyr, GMB, NASUWT, NEU, NUJ, PCS, UCAC, UCU, Undeb y Cerddorion, UNSAIN a Unite.

Drwy ymgysylltu ag undebwyr llafur lleyg gweithredol a swyddogion undebau, mae’r gwaith ymchwil hwn yn cynnwys cyfraniadau ansoddol gan y garfan hon, ond o ganlyniad nid oes ganddo lawer o fewnwelediad o ran profiad gweithwyr nad ydynt yn aelodau o undeb neu weithleoedd sydd â chyfraddau isel o undebaeth.

Mae’r sectorau hyn yn cynnwys y rheini y disgwylir i AI gael effaith sylweddol arnynt, ond sydd yn hanesyddol â dwysedd undebol isel. Mae’r sectorau hyn yn cynnwys cyfrifyddiaeth, proffesiynau cyfreithiol a’r sector gwasanaethau, e.e. marchnata. Nid yw’r adroddiad hwn yn ymgysylltu’n benodol â phrofiad gweithwyr yr economi platfformau neu gìg, gan fod gwaith ymchwil sylweddol eisoes yn bodoli am effaith AI ar y sector hwn.

Yn olaf, nid oedd y gwaith ymchwil hwn yn ymchwilio i ddigwyddiadau penodol, gan fod y grwpiau ffocws yn ceisio casglu profiadau a safbwyntiau yr adroddwyd amdanynt gan weithwyr.

Mwy o'r TUC