Mae hyn yn adlewyrchu delweddaeth diwylliant poblogaidd a sut mae chymwysiadau’n cael eu marchnata, eu datblygu a’u defnyddio. Er enghraifft, mae digideiddio yn broses o adeiladu set o offer digidol rhyngweithiol i greu ‘pentwr’. Mae hyn yn cynnwys ychwanegu at dechnolegau digidol cyfarwydd nad ydynt yn ymwneud ag AI, fel e-bost neu GPS.
Er i ni nodi ystod o ddealltwriaeth, gwelwyd yn y grwpiau ffocws bod gwahanol fathau o dechnolegau a chysyniadau yn aml yn cael eu cyfuno a’u defnyddio’n gyfnewidiol: digideiddio, robotegeiddio, awtomatiaeth, a deallusrwydd artiffisial. Roedd hyn yn dangos diffyg eglurder ynghylch a oedd AI yn cael ei ddefnyddio ai peidio.
Fel y dywedodd un cynrychiolydd o’r sector cyhoeddus:
“Weithiau mae’n anodd dweud a yw AI yn cael ei ddefnyddio ai peidio, gan mai meddalwedd yw hwn sy’n rhedeg ar feddalwedd rydym ni’n ei ddefnyddio’n barod.”
Er y bydd offer yn rhannu swyddogaethau, bydd pob rhaglen neu broses AI yn cael effaith benodol ar brofiad y gweithiwr. Bydd angen i undebwyr llafur allu nodi ffurfiau ac effeithiau penodol digideiddio, a datblygu dealltwriaeth fwy cynnil o’r technolegau a’u heffeithiau. Fel y dywedodd un cyfranogwr:
“Mae’n bwysig bod pobl yn deall nad robotiaid yn unig yw AI, ond meddalwedd.”
Gall datblygu dealltwriaeth fwy arwahanol ac wedi’i thargedu rymuso gweithwyr i fynd i’r afael â mater cymhleth ac amlochrog. Bydd yn eu galluogi i ffocysu ar y prif fathau o ddigideiddio ac AI maen nhw’n dod ar eu traws.
Gan ddefnyddio’r grwpiau ffocws, amlinellir y rhain isod.