Cipolwg ar ddealltwriaeth gweithwyr yng Nghymru o AI

Awdur
Ceri Williams
Policy officer - Wales TUC
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
AI Cynhyrchiol: Dimensiwn newydd
AI cynhyrchiol, sy’n cael ei boblogeiddio gan ChatGPT a modelau testun-i-ddelwedd fel DALL-E, yw’r math o AI sydd wedi llwyddo i ddal sylw’r cyhoedd a gwleidyddion.

Dangosodd y gwaith ymchwil fod proffil uchel AI cynhyrchiol, a'i arwyddocâd ar gyfer sectorau penodol, wedi golygu bod aelodau'n mynegi pryder ynghylch y newidiadau i'w bywydau gwaith.

Esboniodd swyddog ar gyfer Equity, undeb y celfyddydau perfformio ac adloniant, adeg pan oedd edmygwr

“wedi cysylltu ag aelod i ddweud, ‘fe wnes i fwynhau gwrando arnoch chi’n darllen y nofel benodol hon’. Ond nid yr aelod oedd wedi gwneud y llyfr llafar. Roedd yr edmygwr wedi ymweld â gwefan lle’r oeddent wedi gofyn am ‘y llyfr hwn, gan yr actor hwn’ ac fe gafodd drawsgrifiad llawn, oherwydd bod modd cyrchu llais yr actor. Nid oedd yr actor yn gwybod dim am y llyfr. Roedd wedi cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio AI ar ôl cymryd ‘olion bysedd’ ei lais.”

Mynegodd un o swyddogion yr NUJ bryderon ynglŷn â llwyth gwaith a sgiliau proffesiynol, gan gyfeirio at hysbyseb swydd a oedd yn mynnu bod newyddiadurwr yn cynhyrchu 50 o erthyglau y dydd drwy ychwanegu at y testun a gynhyrchwyd gan offer AI cynhyrchiol.

Tynnodd ffotograffydd sylw at allu AI i greu delweddau ffotograffig gan ddefnyddio amrywiadau neu synthesisau o waith dynol, gan ddweud mai

“math o ddwyn mewn sawl modd yw crafu cynnwys o’r we”.

Roedd addysgwyr yn poeni am yr heriau y mae AI cynhyrchiol yn eu hachosi. Problem newydd sy’n wynebu addysgwyr ar hyn o bryd yw sut y dylid asesu gwaith myfyrwyr sydd wedi defnyddio AI cynhyrchiol.

Cyfeiriodd darlithwyr at gyngor croes gan reolwyr a rheoleiddwyr arholiadau ar y pwnc hwn. Ar ben hynny, roedd cwestiynau am yr effaith hirdymor ar ansawdd addysg pe bai mwy o offer AI yn cael eu cyflwyno.

O ganlyniad i’r materion uchel eu proffil ac amlwg hyn, mae mwy o frys a datblygiad yn yr ymatebion. Er enghraifft, cyfeiriodd y swyddog o Equity at ymgyrch yr undeb i ddiweddaru cyfreithiau hawlfraint  i ddiogelu crewyr a’r hyn a ddysgwyd o’r gweithredu diwydiannol a wnaed gan awduron ac actorion yn Hollywood ynglŷn â defnyddio deallusrwydd artiffisial.

Mwy o'r TUC