Y rheswm pam fy mod i’n ailddysgu Cymraeg yn fy chwedegau

Dyddiad cyhoeddi
Ers i mi ymuno â TUC Cymru, rydw i wedi dechrau meddwl am fy ngwreiddiau yng Nghymru, ac yn Llanelli. Ac rydw i wedi penderfynu fy mod i’n barod i ailgysylltu â’r Gymraeg.

Ymunais â TUC Cymru y llynedd, tua’r un amser â Mandy James, y Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog. Mae ein desgiau’n eithaf agos at ei gilydd, felly rydyn ni’n cael llawer o sgyrsiau am y Gymraeg, am gyfleoedd i staff ddysgu Cymraeg, am Gynllun Datblygu’r Gymraeg gan TUC Cymru, yn ogystal â’r cynllun ‘Cynnig Cymraeg’.

Ond, roeddwn i’n teimlo mod i eisiau gwybod mwy am sut i ddysgu Cymraeg yn y gweithle. Rydw i eisiau ailgysylltu â fy ngwreiddiau Cymreig yn Llanelli, neu ‘Llanelly’ fel yr oedd yn cael ei galw o’r blaen, lle cefais fy magu pan oeddwn i’n blentyn.

O’r Punjab i Lanelli: Y rheswm pam fy mod i eisiau ailgysylltu â’r Gymraeg

O’r Punjab i Lanelli

Daeth fy nhad-cu i’r Deyrnas Unedig ym 1948 ar ôl i India gael ei rhannu, ac i’r rhan honno gael ei galw wedyn yn Bacistan. Daeth fy nhad i’r Deyrnas Unedig ym 1951, ac wedyn fy mam yn ei ddilyn ym 1959. Roedd fy nhad-cu a fy nhad yn byw yn Lerpwl am gyfnod byr yn ystod y 1950au.

Wedyn, pan ddechreuodd y gymuned honno wasgaru i leoedd fel Birmingham, Manceinion a’r Alban, teithiodd fy nhad-cu, fy nhad a rhai o’u ffrindiau a’u perthnasau i wlad arall.

Cymru oedd y wlad honno.

Roedden nhw wedi penderfynu ymgartrefu yng Nghaerfyrddin.

Oherwydd eu bod nhw’n arbenigo mewn gwerthu nwyddau o ddrws i ddrws, roedden nhw’n gweld hyn fel cyfle i werthu eu nwyddau i ffermwyr, y cymunedau cyfagos a gwersylloedd gwyliau ledled Cymru, gan gynnwys Pwllheli, Bryste, Abertawe a’r dociau yng Nghaerdydd.  Yn ddiddorol, Caerfyrddin oedd â’r gymuned Sikh fwyaf yng Nghymru ar un adeg.

Erbyn canol y 1950au, symudodd fy nhad-cu a’m tad i Lanelli, tua wyth milltir o Gaerfyrddin. Dechreuodd aelodau eraill o’r gymuned symud i Gaerdydd a Bryste.

Cefais i fy ngeni yn ysbyty Treforys, Abertawe ym 1962. Bryd hynny, roedd fy rhieni’n byw ym Mhorth Tywyn, ac roedd fy nhad-cu a’m mam-gu ar ochr fy nhad yn byw gerllaw yn Llanelli. Roedd fy nheulu wedi gwneud Llanelli yn gartref iddyn nhw, ac roedd y gymuned yn eu parchu nhw’n fawr. Un rheswm am hyn yw mai nhw oedd yr unig deulu Sikh yn y dref, a’r rheswm arall yw eu bod nhw’n siarad Cymraeg.

Dysgu Cymraeg ar gyfer gweithio a siopa

Roedd fy hen ewythr a’m hen fodryb wedi dysgu Cymraeg er mwyn sgwrsio â’u cymdogion ac er mwyn gwerthu eu nwyddau yn y marchnadoedd. Roedd angen i ni siarad Cymraeg i weithio ac i fod yn rhan o’r bywyd bob dydd o’n cwmpas.

Gallai fy nheulu siarad Cymraeg sylfaenol. Pan gefais i’m magu ym Mhorth Tywyn a Llanelli, fy atgofion o fyw yno yw cael fy annog i ddysgu a siarad Cymraeg. Roedd hyn yn arbennig o ddefnyddiol pan oeddwn i’n cael fy anfon i’r siopau lleol i nôl siwgr, llaeth, te rhydd a bara! Rydw i’n cofio dweud “Bore da” neu “Prynhawn da” a “Gallai gal bara, llath a siwgur plîs?” ac wedyn dweud “diolch” yn hyderus.

Mae gen i atgofion melys o chwarae gyda ffrindiau a chymdogion a oedd yn siarad Cymraeg. Hyd yn oed yr adeg honno, roeddwn i’n gwybod fod angen i mi barchu’r Gymraeg, sef yr iaith o’m cwmpas, er mwyn cael fy mharchu fy hun ac i fod yn rhan o’r gymuned.

Colli fy Nghymraeg ar ôl symud i’r ddinas fawr

Ar ddiwedd y 1960au, pan fu farw fy nhad, symudodd fy nheulu’n barhaol i Gaerdydd. Tua naw oed oeddwn i ar y pryd, ac roedd Caerdydd yn wahanol iawn i Lanelli. O ganlyniad i hyn, collais fy Nghymreictod a’m Cymraeg. Rydw i’n difaru hyn yn fawr iawn, a dydw i erioed wedi anghofio hyn. Felly, rydw i’n annog fy wyrion fy hun i fanteisio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg a bod yn ddwyieithog. Anrheg ydy’r Gymraeg, ac rydw i’n gobeithio y byddan nhw’n barod i ddysgu’r iaith.

Erbyn hyn, rydw i’n sylweddoli bod siarad Cymraeg fel plentyn yn Llanelli wedi fy nghysylltu â’r gymuned leol ac wedi rhoi ymdeimlad o berthyn i mi yng Nghymru. Wedi’r cwbl, pan fyddwch chi’n teithio i unrhyw le yn y byd, rydych chi’n disgwyl clywed yr iaith ac yn dysgu am ddiwylliant brodorol y gwledydd hynny.

Yn barod i ddechrau dysgu eto yn fy chwedegau

Ers i mi ymuno â TUC Cymru, rydw i wedi dechrau meddwl am fy ngwreiddiau yng Nghymru, ac yn Llanelli.

Ac rydw i wedi penderfynu fy mod i’n barod i ailgysylltu â’r Gymraeg. 

Learning Welsh to work

Mae gen i’r cyfle nawr i wireddu fy nod o ddysgu’r Gymraeg yn y gweithle. Pwy â ŵyr, efallai y bydd hyn yn arwain at siarad Cymraeg yn y gymuned hefyd.

Rydw i hefyd yn cael fy atgoffa bod crefydd Sikh yn ein hannog ni i barhau i ddysgu drwy gydol ein bywydau ac i barchu cymuned, iaith a diwylliant y wlad rydyn ni’n byw ynddi. Mae hyn yn bwysig iawn i mi.

Bydd fy nhaith i ddysgu’r Gymraeg yn gyffrous, yn ddiddorol, yn hwyl ac yn esblygu. Rydw i am fynd ati gam wrth gam i osod fy nodau fy hun ac i weithio o fewn fy amserlenni fy hun. Un o’r heriau rydw i wedi’u gosod i mi fy hun yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn fy mlogiau am fy nhaith dysgu Cymraeg. Bydd y blogiau’n dangos yr elfennau gorau a’r elfennau mwyaf heriol!!

Er fy mod i bellach yn 60 oed, rydw i’n barod i gamu ymlaen a manteisio ar y cyfle i siarad Cymraeg yn y gweithle.
A phwy â ŵyr, os ydych chi’n ffonio swyddfa TUC Cymru, efallai mai fi fyddai’r un sy’n eich ateb chi’n ddwyieithog ar y ffôn rywbryd yn fuan. 

Gallwch chithau ddysgu Cymraeg yn y gweithle hefyd

Mae sawl ffordd o ddysgu Cymraeg yn y gweithle, fel Dysgu Cymraeg a Say Something in Welsh. Mae’n bosibl y byddwch chi hefyd yn gallu dysgu Cymraeg drwy ddefnyddio Cronfa Ddysgu Undebau Cymru p’un a ydych chi’n aelod o undeb ai peidio - cysylltwch â’r undeb yn eich gweithle i gael rhagor o wybodaeth