Mae trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal yn rhan o ymrwymiad TUC Cymru i gydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym yn cydnabod bod Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg ac rydym am i bawb allu cyfathrebu â ni yn eu dewis iaith.
Rydym am fod yn glir ynghylch pa wasanaethau y gallwch ddisgwyl eu derbyn gennym ni yn Gymraeg. Felly rydym yn falch o fod yn un o ddim ond 55 o sefydliadau yng Nghymru i dderbyn cymeradwyaeth Comisiynydd y Gymraeg i'n Cynnig Cymraeg.
Wrth gyfathrebu â TUC Cymru gallwch ddisgwyl:
Gweld bod llawer o wefan TUC Cymru yn ddwyieithog
Gallu siarad ag aelod o staff sy’n gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith yn Gymraeg
Derbyn ein e-gylchlythyrau yn ddwyieithog
Anfon e-bost neu lythyr atom yn Gymraeg – byddwn yn ymateb yn yr un iaith
Ein gweld yn defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol ac yn ymateb i’ch sylwadau Cymraeg yn Gymraeg
Yn o gystal â'r pwyntiau yn ein Cynnig Cymraeg gallwch ddisgwyl i ni ateb y ffôn yn ddwyieithog.
Byddwn yn ymdrechu i gynyddu'r cyfathrebu dwyieithog a gynigiwn dros y blynyddoedd nesaf.
Rydym yn disgwyl i fwy a mwy o aelodau undebau llafur fod eisiau cyfathrebu â ni yn Gymraeg yn y blynyddoedd i ddod.
Ar hyn o bryd, mae un o bob tri pherson yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Ym mis Rhagfyr 2021, y ffigur swyddogol oedd 892,200 a disgwylir i'r nifer hwn gynyddu ymhellach gan fod gan Lywodraeth Cymru darged o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Nid yn unig y mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn cynyddu, ond mae'r agwedd tuag at yr iaith yn newid ymhlith siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg. Yn ôl ymchwil gan Gomisiynydd y Gymraeg, mae 86% o boblogaeth Cymru yn teimlo bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo. Ac mae 94% o siaradwyr Cymraeg yn teimlo bod darparu gwasanaethau Cymraeg yn helpu cwmni i wneud argraff dda.
Mae'r gallu i siarad Cymraeg wedi'i ganoli'n helaeth mewn grwpiau oedran iau. Yn ôl y cyfrifiad diweddaraf yn 2011, roedd y dwysedd uchaf o siaradwyr Cymraeg ymhlith pobl ifanc 10-14 oed. Rhain bydd gweithwyr ifanc heddiw – cynulleidfa darged allweddol i bob undeb.
Felly mae cyfathrebu'n ddwyieithog nid yn unig yn rhywbeth dylen ni fod yn gwneud, ond mae hi hefyd yn arf pwerus posibl i undebau llafur ddenu aelodau newydd, iau.
Yn ein Cyngres ym mis Mai 2022 trafodwyd yr angen i gynyddu'r gefnogaeth Gymraeg i'n cynrychiolwyr undebau llafur hefyd.
Mae llawer o weithleoedd yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae'n well gan lawer o gynrychiolwyr gyfathrebu â chydweithwyr a rheolwyr am fusnes undebau llafur yn Gymraeg. Felly, penderfynwyd sicrhau bod deunyddiau cymorth y TUC ar gyfer cynrychiolwyr undebau llafur sy'n gweithio yng Nghymru ar gael, ac yn cael eu hyrwyddo'n gyfartal, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu cyfathrebu Cymraeg ar draws mudiad yr undebau llafur, nid dim ond o fewn TUC Cymru. Os ydych yn gweithio i undeb a hoffech gynyddu eich defnydd o'r Gymraeg cysylltwch â mi ar fdean@tuc.org.uk