Newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau ar fenywod sy’n gweithio

Dyddiad cyhoeddi
Mae llawer o’r materion rydyn ni’n ymgyrchu drostynt yng Nghymru yn faterion sy’n wynebu gweithwyr ledled y byd. Gall y materion hyn gynnwys cyflogau isel, diogelwch yn y gwaith, y menopos a gwrth-hiliaeth. Ac mae llawer o’r materion hyn yn debygol o waethygu yn sgil newid yn yr hinsawdd.

Wrth i lywodraethau ac ymgyrchwyr ddod â’u trafodaethau am y newid yn yr hinsawdd i ben yn COP28, rydw i wedi bod yn ystyried sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fenywod sy’n gweithio, yn enwedig o ran y menopos, a beth all undebwyr llafur ei wneud i wella bywyd yn y gwaith. 

Newid yn yr hinsawdd a mynediad at ddŵr

Fel y trafodwyd yn COP28 yr wythnos hon, mae newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ar iechyd a llesiant unigolion.   

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi dweud “Mae’r risgiau iechyd hyn sy’n sensitif i’r hinsawdd yn effeithio’n waeth o lawer ar y bobl fwyaf agored i niwed a difreintiedig, gan gynnwys menywod, plant, lleiafrifoedd ethnig, cymunedau tlawd, mewnfudwyr neu bobl sydd wedi’u dadleoli, poblogaethau hŷn, a phobl sydd â chyflyrau iechyd.”   

Mae newid yn yr hinsawdd eisoes wedi lleihau mynediad menywod at ddŵr glân a glanweithdra mewn rhai gwledydd. Mae’r broblem hon yn debygol o waethygu. Mae hyn yn broblem i fenywod, yn enwedig y rhai sy’n mynd drwy’r menopos a’r rhai sydd ar eu mislif.

Newid yn yr hinsawdd ac amgylchedd gwaith cyfforddus

Mae’r cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn broblem am lawer o resymau, ac i fenywod sy’n mynd drwy’r menopos, mae hyn yn gwneud profiad anghyfforddus yn waeth ac o bosibl yn beryglus. 

Gall undebau llafur ddadlau dros bolisïau i gefnogi menywod, fel polisïau’r menopos, sy’n ystyried y cynnydd mewn tymheredd. Er enghraifft, bydd polisi menopos da yn ystyried y canlynol: 

·       Gwell mynediad at gyfleusterau llesiant – dŵr oer, cysgod, eli haul, ystafelloedd oer

·       Telerau contract sy’n gysylltiedig â’r tywydd fel newid shifftiau gweithwyr er mwyn osgoi gwres eithafol

·       Cyfarpar diogelu personol sy’n briodol ar gyfer eithafion tymhorol 

·       Nifer y cyfleusterau sydd ar gael i weithwyr sy’n gweithio mewn eithafion gwres neu oerfel, sy’n fwy tebygol o fyw mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd neu fwy o stormydd.  Dylai’r cyfleusterau allu darparu diogelwch i’r gweithwyr sy’n delio â’r newidiadau tywydd hyn, a’u diogelu rhag yr eithafon. 

Mae hi’n bwysig sylweddoli bod gweithredu’r polisïau hyn yn debygol o helpu menywod sy’n mynd drwy’r menopos yn ogystal â phawb yn y gweithle. 

Ymgyrchu llwyddiannus dros y menopos yng Nghymru 

Lansiodd TUC Cymru ymgyrch menopos yn y gweithle flynyddoedd lawer yn ôl. Daeth yn amlwg yn gyflym faint yr oedd y mater hwn yn taro tant gyda gweithwyr ledled Cymru.  

Mae ein hymgyrch ar thema’r menopos wedi arwain at lawer o fuddugoliaethau, fel trafod newidiadau mewn canllawiau o fewn y sector cyhoeddus datganoledig. Ac addasiadau yn y gweithle o ran gwisg, tymheredd, goleuadau, a llwyth gwaith a lefelau straen.   

Rydyn ni wedi gweithio gyda chyflogwyr i newid y naratif. Rydyn ni hefyd wedi ymgyrchu dros ddiweddaru hyfforddiant i feddygon er mwyn iddyn nhw allu gwella’r cynnig o gymorth meddygol i’r miloedd o weithwyr yng Nghymru sydd ei angen. 

Trawsnewid cyfiawn i economi werdd 

Rydyn ni’n ymwybodol ein bod angen economi sy’n llai carbon-ddwys er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Ond, fel undebwyr llafur, rydyn ni hefyd yn gwybod bod yn rhaid i hyn ddigwydd mewn ffordd sy’n cynnwys ac yn parchu gweithwyr. Gallwn fynnu bod hawliau pob gweithiwr yn cael eu blaenoriaethu a sicrhau trawsnewid cyfiawn i economi carbon isel.  

Ar hyn o bryd, mae’r ffocws ar anghenion menywod wedi cael ei golli, ac mae perygl y byddwn yn colli’r cynnydd sydd wedi’i wneud ar bynciau fel y menopos, drwy beidio byth â’u hystyried mewn cynlluniau yn y dyfodol.  

Rhaid i undebau llafur gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisïau hinsawdd ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Gall undebau llafur hefyd ddadlau dros greu swyddi gwyrdd a throsglwyddo swyddi presennol i arferion mwy cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gweithwyr mewn diwydiannau sy’n symud tuag at arferion ynni adnewyddadwy, arferion effeithlonrwydd ynni ac arferion amgylcheddol gyfeillgar.  

Darllenwch am ymgyrch TUC Cymru dros drawsnewid cyfiawn i economi werdd

Hyfforddiant sgiliau gwyrdd 

Er mwyn trawsnewid i economi werdd, rydyn ni angen gweithwyr sydd wedi’u hyfforddi ar gyfer swyddi gwyrdd. 

Gall undebau weithio gyda chyflogwyr a llywodraethau i sicrhau bod gweithwyr yn cael yr hyfforddiant sydd ei angen arnynt. Gall hyn gynnwys addysg a datblygu sgiliau. Neu gynlluniau ailhyfforddi, i roi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen ar weithwyr mewn marchnad swyddi sy’n datblygu.  

Darllenwch sut mae Unite wedi gweithio gyda Chyngor Abertawe i hyfforddi staff i gynnal a chadw cerbydau trydanol. Mae hyn wedi sicrhau swyddi ac wedi’u cadw’n fewnol, ac wedi helpu’r Cyngor i leihau ei ôl troed carbon. 

Mae menywod ledled y byd yn gweithio’n hirach nag erioed o’r blaen. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o fenywod yn profi’r menopos yn y gwaith, ond bydd mwy o fenywod hefyd angen hyfforddiant a datblygu sgiliau wrth iddynt symud ymlaen drwy fywyd.  

Dylid ystyried hyn yn gyfle cyffrous i gyflogwyr wrth iddynt geisio defnyddio sgiliau pob gweithiwr.

Gweithleoedd gwyrddach

Mae llawer o weithwyr yn frwd dros wneud eu gweithle yn lle gwyrddach, iachach ac yn fwy ystyriol o natur. 

Gall undebau llafur weithio gyda chyflogwyr i roi arferion amgylcheddol gynaliadwy ar waith mewn gweithleoedd. Gall hyn gynnwys lleihau gwastraff, cynyddu effeithlonrwydd ynni, a mabwysiadu technolegau eco-gyfeillgar. 

Darllenwch sut mae aelodau Unsain wedi creu gardd bywyd gwyllt ar dir ysbyty Llandochau 

Gall undebau godi ymwybyddiaeth o effaith newid yn yr hinsawdd ar weithwyr a phwysigrwydd arferion cynaliadwy. Gall hyn arwain at fwy o gefnogaeth i bolisïau amgylcheddol gyfeillgar. 

Rhagor o wybodaeth am hyfforddiant Gwneud ein Gweithleoedd yn fwy Gwyrdd gan TUC Cymru a lawrlwytho ein pecyn cymorth Gweithleoedd Gwyrddach i gynrychiolwyr