Ar hyn o bryd, mae gan Gyngor Abertawe 60 o gerbydau trydan yn ei fflyd. Bydd 200-300 arall cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf. Pan gyflwynwyd cerbydau trydan i’r fflyd am y tro cyntaf, cafodd gwaith cynnal a chadw ei roi i is-gontractwyr. Ond datgelodd y pandemig nad oedd hon yn strategaeth gadarn. Mae rhoi’r gwaith ar gontract allanol hefyd yn peryglu swyddi cynnal a chadw cerbydau yng Nghyngor Abertawe. Felly, penderfynodd y Cyngor wneud y gwaith hwn yn fewnol.
Mark Barrow yw Rheolwr Fflyd yr Uned Drafnidiaeth Ganolog yng Nghyngor Abertawe. Sylweddolodd fod angen hyfforddi’r gweithwyr ar frys er mwyn cynnal a chadw cerbydau trydan a thrafododd y mater gyda Jason Strannigan, Cynullydd Unite yng nghangen Unite Cyngor Dinas Abertawe.
Mae perthynas Unite â’r Cyngor wedi’i hen sefydlu. Ychydig flynyddoedd yn ôl, helpodd Unite i ddarparu hyfforddiant i yrwyr Cerbydau Nwyddau Trwm (HGV) yn y Cyngor, gyda chefnogaeth Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Roedd yr hyfforddiant yn torri tir newydd. Agorodd y drws i gefnogi hyfforddiant gyrwyr gan gyllid Llywodraeth Cymru. Mi wnaeth hefyd gryfhau’r llwybr ar gyfer cydweithio parhaus rhwng Unite a’r Cyngor.
Roedd Strannigan yn allweddol o ran cyfeirio’r Cyngor at gefnogaeth gan Unite. Drwy arweiniad gan brosiect WULF Unite, roeddent yn gallu sicrhau cyllid ar gyfer yr hyfforddiant gan y rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA). Fe wnaeth Unite hefyd roi’r Cyngor mewn cysylltiad â Choleg Gŵyr, y darparwr addysg bellach lleol, i ddarparu’r hyfforddiant.
Hyd yma, mae’r holl dechnegwyr yng Nghyngor Abertawe wedi cael eu hyfforddi hyd at IMI Lefel 3 mewn cynnal a chadw cerbydau trydan a hybrid. Mae gan weithwyr y sgiliau gwyrdd erbyn hyn i adlewyrchu’r newid ym mhroffil y fflyd.
Mae’r cynnydd mewn gwaith cynnal a chadw cerbydau mewnol hefyd wedi diogelu eu swyddi wrth i ni ddatblygu’n economi werdd. Dywed Jason Strannigan, “Rydyn ni’n gwybod po fwyaf o wasanaethau sy’n cael eu cadw’n fewnol, gorau oll. Mae’n diogelu swyddi gweithwyr Cyngor Dinas Abertawe ar gyfer y dyfodol. Mae hon yn berthynas waith dda iawn rhwng Unite a’r Uned Drafnidiaeth Ganolog.”
Mae Cyngor Abertawe bellach mewn sefyllfa well i ddelio â heriau’r dyfodol o ganlyniad i’r newid i sero-net. Dywedodd Mark Barrow, Rheolwr Fflyd, “Mae gen i fwy o hyder wrth drosglwyddo’r fflyd i gerbydau allyriadau isel iawn ac yn y trawsnewid i sero-net wedi hynny...mae hyn yn rhan o’r strategaeth gyfan...cadernid yw’r gair allweddol. Mae hyn yn cyd-fynd â’r strategaeth drawsnewid ehangach ar gyfer y fflyd gyfan. Mae’n gwarantu diogelwch swyddi yn y dyfodol. Mae hefyd wedi creu model o arfer da a fydd yn debygol o gael ei efelychu ar draws awdurdodau eraill...Mae’r sylfaen yn ei le; rydyn ni’n barod i fynd.”
Mae Unite yn cynrychioli gweithwyr ar draws nifer o sectorau y bydd targedau sero net yn effeithio arnynt. Mae hyfforddiant mewn sgiliau gwyrdd yn rhan bwysig o strategaeth drawsnewid gyfiawn yr undeb.
Mae’r hyfforddiant yn dangos y bartneriaeth bwysig rhwng undebau a chyflogwyr o ran hwyluso’r broses o drawsnewid i fod yn economi werdd. Esbonia Richard Jackson, Trefnydd Dysgu Rhanbarthol WULF Unite: “Rydyn ni’n cynnig dull cadarnhaol – uwchsgilio, cyfeirio, a darparu sgiliau hyfforddi... gan gysylltu’r holl randdeiliaid â’i gilydd i greu rhwydweithiau cefnogi. Rydyn ni’n gallu edrych ar arferion gorau...a datblygu arferion gorau fel rydyn ni wedi gwneud yma.”
Ar hyn o bryd, mae TUC Cymru yn cynnig nifer o ffyrdd o gael gafael ar wybodaeth a hyfforddiant sgiliau gwyrdd.