Beth sy'n gwneud swydd dda?

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Petawn i'n gofyn i chi beth rydych chi'n ei hoffi am eich swydd, rwy'n gobeithio y byddech chi'n gallu meddwl am ychydig o bethau. A ddangosir unrhyw un ohonynt yn y ffilm hon?

Efallai mai'r hyn sy'n gwneud gwaith da i chi yw cydweithio â'ch cydweithwyr. Efallai bod eich gwaith yn gwneud i chi deimlo'n fodlon. Neu efallai fod gennych bennaeth sy'n eich galluogi i weithio'n hyblyg o amgylch eich cyfrifoldebau gofalu.

Ond petawn i'n gofyn i chi beth nad ydych chi'n ei hoffi am eich swydd, a fyddai hynny'n rhestr hirach? Yn anffodus, mae llawer o weithwyr yng Nghymru heddiw'n wynebu llu o broblemau yn y gweithle.

Mae yna gwmnïau sy'n credu ei bod hi'n iawn i'ch diswyddo ac yna'n ceisio eich ailgyflogi ar delerau ac amodau gwaeth.

Mae yna swyddi lle nad ydych chi'n gwybod pa oriau y byddwch chi'n gweithio o un diwrnod i'r llall. Mae yna benaethiaid sy'n eich microreoli ac yn gwneud i chi deimlo mor anghyfforddus fel eich bod yn ofni dod i mewn i'r gwaith yn y bore.

Yna mae gweithwyr nad ydynt wedi cael codiad cyflog mewn blynyddoedd, er gwaethaf y chwyddiant a'r argyfwng costau byw presennol.

Er gwaethaf y sefyllfa anodd ar hyn bryd, tra bod undebau llafur yn bodoli, mae yna obaith o hyd y gall ein swyddi fod yn swyddi gwell.

Undebau'n ennill i weithwyr

Pob diwrnod mae undebwyr llafur yn sefyll dros bobl sy'n gweithio, yn ymladd penaethiaid gwael ac i herio'r llywodraeth.

Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld enillion i undebau ar gyflogau a thelerau ac amodau ac ar gwmnïau sy’n defnyddio tactegau diswyddo ac yna ailgyflogi. Mae undebau wedi dangos y gallant roi pwysau ar lywodraethau i helpu'r rhai sydd ei angen fwyaf, megis gyrwyr tacsis Cymru. Ac mae undebau ar flaen y gad o ran materion fel yr argyfwng hinsawdd, iechyd meddwl, dysgu a chydraddoldeb  yn y gweithle.

Ymhellach i ffwrdd, rydym wedi gweld degau o filiynau o weithwyr yn India yn cymryd rhan mewn streic gyffredinol. Ac yn America mae gweithwyr warysau Amazon a siopau coffi Starbucks yn uno ar hyn o bryd ar gyfradd anhygoel.

Ymunwch â'n brwydr am swyddi da i bawb

Os credwch, fel finnau, fod pawb yng Nghymru yn haeddu swydd dda, a allaf ofyn ichi wneud dau beth?

Yn gyntaf, rhannwch ein ffilm newydd 'Beth sy'n gwneud swydd dda?'. Rhannwch ef gyda'ch cydweithwyr, eich teulu a'ch ffrindiau. Rhannwch ef yn enwedig gydag unrhyw un rydych chi'n ei adnabod nad yw eto mewn undeb. Mae'r ffilm ar gael ar Facebook, Twitter, Instagram a YouTube. Beth am rannu'n teclyn canfod undeb hefyd?

Yn ail, ymunwch â'r mudiad undebau llafur yn Llundain ar 18 Mehefin ar gyfer demo cenedlaethol. Ar y diwrnod hwn byddwn ar y strydoedd i fynnu bod llywodraeth y DU yn gweithredu ar gostau byw, bargen newydd i bobl sy'n gweithio, a chynnydd cyflog i bob gweithiwr. Mae bysiau i Lundain yn cael eu trefnu gan grwpiau ledled Cymru, gyda llawer o leoedd ar gael yn rhad neu am ddim. Dewch o hyd i'r bys agosaf atoch ar safle teithio'r TUC.