Er mai nifer bach o gydgytundebau ynghylch materion pontio sydd wedi’u gwneud hyd yn hyn yn y DU, mae’r nifer mawr o fentrau sydd wedi’u gweithredu eisoes gan undebau yn y DU ac mewn gwledydd tramor yn dangos bod lleisiau gweithwyr yn dechrau cael eu clywed ar bob lefel ac mae’n glir bod y momentwm yn cynyddu wrth i’r economi ddod allan o’r pandemig COVID-19.
Mae’r prif brosesau pontio mewn diwydiant a sbardunir gan dechnoleg newydd a datgarboneiddio eisoes ar waith ac maent yn peri bygythiad i swyddi ac ansawdd swyddi. Mae angen i undebau gymryd camau nawr er mwyn sicrhau bod ganddynt lais cryf o ran y ffordd y bydd y broses pontio’n datblygu, eu bod yn diogelu bywoliaeth a lles eu haelodau a’u bod mewn lle da i fanteisio ar unrhyw gyfleoedd newydd sy’n codi.
Ar gyfer y cytundebau ac ymgyrchoedd mwyaf cynhwysfawr a ddisgrifiwyd uchod, roedd angen cynnal gwaith ymchwil sylweddol ymlaen llaw i asesu effeithiau’r prosesau pontio ar rolau swydd penodol. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn gallu cyfrannu wedyn at drafodaethau â chynrychiolwyr ac aelodau a fydd yn teimlo eu heffaith ac yn helpu i’w sbarduno i weithredu.
Mae’r cytundebau cyntaf ynghylch materion pontio wedi cael eu negodi gan undebau lle mae grym diwydiannol sylweddol. Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw defnyddio grym lle mae ar gael i bwyso am gytundebau ar faterion pontio a hefyd pa mor hanfodol yw gwaith tymor hwy i drefnu a datblygu grym ar y cyd mewn gweithleoedd, yn sefydliadau cyflogwyr ac mewn sectorau lle nad oes nemor ddim grym diwydiannol ar hyn o bryd.
Mae’r cytundebau cryfaf ar bontio yn seiliedig ar ryw fath o ddeialog dairochrog, lle mae llywodraethau, cyflogwyr ac undebau’n cydweithio i ddyfeisio’r cynlluniau.
Cytundeb CWU – Post Brenhinol 2020: https://www.cwu.org/wp-content/uploads/2020/12/Joint-draft-KEY-PRINCIPLES-FRAMEWORK-AGREEMENT_18_12_20_Final.pdf
CWU – Cylch gorchwyl ar gyfer cyflwyno peiriannau didoli parseli awtomatig: http://www.cwu.org/wp-content/uploads/2018/06/Attachment-1-TOR-FOR-THE-DEPLOYMENT-PROGRAMME-FOR-PSM-WITHIN-THE-MAIL-CENTRE-19.06.18-2.pdf
CWU – Cylch gorchwyl ar gyfer cyflwyno cyfarpar AHDC http://www.cwu.org/wp-content/uploads/2018/05/Attachment-1-TOR-For-The-Trial-of-AHDC-in-MCs-RDCs-and-DOs.pdf
Cytundeb Arbeit 4.0 EVG â grŵp DB (ein ffeil pdf ein hunain)
ILO, 2020: Social Dialogue and the Future of Work https://www.theglobaldeal.com/resources/Thematic-Brief-Social-Dialogue-and-the-FoW.pdf
Armaroli, I 2020: Arbeit 2020”: a trade union project for the digitalisation of German manufacturing industry: http://englishbulletin.adapt.it/arbeit-2020-trade-union-project-digitalisation-germany-manufacturing-industry/
Bosch & Schmitz-Kießler, J, 2020: Shaping Industry 4.0 – an experimental approach developed by German trade unions https://workplaceinnovation.eu/wp-content/uploads/2020/07/Shaping-Industry-4.0-%E2%80%93-an-experimental-approach-developed-by-German-trade-unions.pdf
Future Advocacy, 2017: The Impact of AI in UK Constituencies: Where will automation hit hardest? https://static1.squarespace.com/static/5621e990e4b07de840c6ea69/t/59e3e9091f318dcd5e49f6a5/1508108577828/FutureAdvocacy-GeographicalAI.pdf
Llywodraeth Cymru (2019) Cymru 4.0: Cyflawni trawsnewidiad economaidd ar gyfer gwell dyfodol gwaith https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-09/cyflawni-trawsnewidiad-economaidd-ar-gyfer-gwell-dyfodol-gwaith.pdf
Adroddiad y BBC, 18 Ebrill 2018: Automation: '1 in 3 Welsh jobs at risk by early 2030s' https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-43712829
Uned Ymchwil Economi Cymru, Prifysgol Caerdydd, 2018: AI and automation: Examining the future implications for business and employment in Wales, http://orca.cf.ac.uk/129886/2/Horizon%2BScanning%2BAI%2Band%2BAutomation%2BRedraft%2Bv2docx.pdf
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 25 Mawrth 2019, The probability of automation in England: 2011 and 2017, https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/articles/theprobabilityofautomationinengland/2011and2017
Gwaith Teg Cymru, 2019: Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/gwaith-teg-cymru.pdf
TUC, 2018: A future that works for working people https://www.tuc.org.uk/sites/default/files/FutureofWorkReport1.pdf
RSA, 2020, Who is at risk: Work and automation in the time of Covid 19. https://www.thersa.org/globalassets/_foundation/new-site-blocks-and-images/reports/2020/10/work_and_automation_in_time_of_covid_report.pdf
Comisiwn ar Weithwyr a Thechnoleg (2020): Sharing the Future: Workers and Technology in the 2020s https://fabians.org.uk/publication/sharing-the-future-full-report/
BEIS, 2019 Automation and the Future of Work https://publications.parliament.uk/pa/cm201719/cmselect/cmbeis/1093/1093.pdf
ACAS, 2017: Mind over Machines: New technology and employment relations https://archive.acas.org.uk/media/4865/Mind-Over-Machines-New-technology-and-employment-relations/pdf/Minds-over-Machines-New-Technology-and-Employment-Relations.pdf
OECD, 2019: Negotiating Our Way Up : Collective Bargaining in a Changing World of Work, https://www.oecd-ilibrary.org/sites/1fd2da34-en/1/1/1/index.html?itemId=/content/publication/1fd2da34-en&_csp_=fc50d8427000f71bfa234b11ca5f7ccd&itemIGO=oecd&itemContentType=book
Cyfweliadau a sylwadau
Gweithdai a fynychwyd: ITUC ac Unit