Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Gwell telerau ac amodau

“Mae wythnos waith fyrrach heb golli tâl yn gallu helpu gweithwyr i aros mewn gwaith pan fydd technoleg newydd yn lleihau nifer y tasgau sydd angen eu cyflawni gan bobl. Mae arnon ni angen ymateb radicalaidd i realiti newydd y farchnad lafur. Dylid defnyddio’r enillion o dechnoleg i newid bywydau gweithwyr, yn cynnwys gwell telerau ymddeol ac oriau gwaith byrrach.” Sharon Graham, Swyddog Gweithredol, Unite

Mae’r rhan fwyaf o’r llenyddiaeth ar awtomeiddio a digideiddio yn rhag-weld y bydd Diwydiant 4.0 yn dod ag enillion sylweddol i’r DU o ran elw a chynhyrchiant. Mae PWC wedi amcangyfrif y byddai deallusrwydd artiffisial ar ei ben ei hun yn gallu dod â £232 biliwn i economi’r DU erbyn 2030. Amcangyfrifwyd hefyd y byddai gweithgynhyrchu doethach, wrth ddefnyddio roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd pethau diwydiannol a gweithgynhyrchu haen-ar-haen, yn gallu ychwanegu £455 biliwn pellach. Er bod adroddiad Cymru 4.0 yn rhybuddio nad oes sicrwydd y bydd technoleg newydd yn arwain yn anochel at gynhyrchiant gwell yng Nghymru, byddai cytundeb yn gallu sicrhau bod unrhyw enillion yn y dyfodol yn cael eu rhannu’n deg.

Mewn egwyddor, gellir disgwyl y bydd technoleg newydd a gyflwynir i wella cynhyrchiant yn arwain at well tâl ac amodau i aelodau, boed hynny ar ffurf codiad cyflog neu lai o oriau gwaith heb golli tâl. Er nad yw cytundebau sy’n cysylltu bargeinio ar dâl a chyflwyno technoleg yn bethau cyffredin ar hyn o bryd, mae tystiolaeth gynyddol bod newid technolegol yn helpu i boblogeiddio’r syniad o wythnos waith bedwar diwrnod heb golli tâl, yn y DU ac mewn gwledydd eraill.

Enghraifft: Wythnosau gwaith pedwar diwrnod yn Ewrop

Yn 2018, roedd undeb IG Metall yn yr Almaen, sy’n cynrychioli gweithwyr yn y sectorau trydanol a thrin metel, wedi sicrhau hawl i weithwyr leihau eu hwythnos waith o 35 awr i 28 awr am ddwy flynedd ynghyd â chodiad cyflog o 4.3% i gynyddu hyblygrwydd, yn enwedig ar gyfer gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu. Bellach mae’r undeb yn galw am roi’r un hawliau i weithwyr yn y diwydiant modurol. Mae’n dadlau bod y diwydiant ceir yn ei chael yn anodd pontio i gerbydau trydan a delio ag effaith y pandemig ac y byddai torri oriau’n gallu bod yn ffordd i gadw’r gweithwyr crefftus sydd eu hangen ar gyfer y pontio, yn ogystal ag arbed costau diswyddo.

Ar ddechrau 2021, roedd llywodraeth Sbaen hefyd wedi derbyn cynnig i dreialu prosiect i dalu cymhorthdal i gyflogwyr sy’n cyflwyno wythnos waith bedwar diwrnod. Bydd y prosiect treialu’n cael ei arwain gan banel o arbenigwyr, yn cynnwys cynrychiolwyr llywodraeth, yr undebau a busnes.

Enghraifft: Defnyddio technoleg i ddiogelu tâl a byrhau’r wythnos waith yn y Post Brenhinol

Pan gyhoeddodd y Post Brenhinol ei fwriad i gyflwyno technoleg ddigidol newydd i drafod adnoddau dynol drwy’r cwmni, roedd CWU wedi sicrhau cytundeb na fyddai effaith ar gyflogau o ganlyniad i hyn.

Mae’r cylch gorchwyl ar gyfer y system adnoddau dynol yn datgan:

  • Na ddefnyddir data sganio i mewn/allan i leihau tâl neu lwfansau ar gontractau yn awtomatig ar sail data a gesglir, nac i leihau tâl goramser lle mae contract (geiriol) wedi’i wneud â’r rheolwr cyn cychwyn.

Drwy eu cytundeb ar lefel leol yng Nghanolfan Bost De Canolbarth Lloegr, roedd cynrychiolwyr CWU wedi dewis gwrthwynebu’r patrymau sifftiau a ddyfeisiwyd drwy’r dechnoleg adnoddau dynol newydd ac, yn lle hynny, wedi manteisio ar y bwriad i gyflwyno math arall o dechnoleg newydd, dull awtomataidd o ddidoli parseli, i ddadlau o blaid wythnos waith fyrrach o bedwar diwrnod i nifer o weithwyr.

Bydd y sifftiau ar y safle yn Northampton yn newid o rai wyth awr ar bum niwrnod i rai 9.5 awr ar bedwar diwrnod, a’r amser ychwanegol wedi’i rannu rhwng dechrau a diwedd pob sifft.

Dywedodd y cynrychiolydd ardal ar brosesu Paul Bosworth y bydd y cytundeb newydd “yn galluogi pobl sy’n gweithio yn ôl y patrymau newydd i gael dydd Gwener, dydd Sadwrn neu ddydd Llun oddi wrth y gwaith, a bydd hynny’n gwella’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn rhoi mwy o amser iddyn nhw fod gyda’u teuluoedd.

Mwy o'r TUC