Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Sicrhau llais i’r gweithiwr

Y prif nod wrth negodi ynghylch awtomatiaeth yw sicrhau na fydd technoleg newydd yn cael ei chyflwyno’n unochrog gan gyflogwyr ond drwy gydgytundeb. Mae cydsynio a negodi ynghylch technoleg yn llesol i weithwyr a chyflogwyr. I gyflogwyr, mae deialog agored ynghylch arloesi yn gallu atal adweithio ac ymyrryd yn ddiweddarach.

Ar lefel strategol, rhaid rhoi sylw i bryderon gweithwyr ynghylch technoleg newydd gyda phartneriaid cymdeithasol gyda golwg ar ei heffaith ar sectorau cyfan yn yr economi, ar ranbarthau ac ar anghenion am sgiliau. Mae’r adroddiad Cymru 4.0 yn argymell bod y llywodraeth yn creu nifer o strwythurau newydd y bydd undebau’n gallu cymryd rhan ynddynt os cânt eu sefydlu. Enghreifftiau o’r rhain yw ‘Clystyrau Arloesedd Diwydiannol’ a fydd yn gyfrifol am ddatblygu Trywyddion Trawsnewid Diwydiannol i wahanol rannau o’r wlad, ‘Comisiwn Economi’r Dyfodol’ a sefydliad newydd i fonitro’r farchnad lafur. Yn y cyfamser, gall undebau ddefnyddio’r fforymau partneriaeth gymdeithasol a sefydlwyd yng Nghymru i negodi canlyniadau cadarnhaol i weithwyr ar dechnoleg newydd.

Cafwyd cynnydd eisoes ar gytundeb ar ddigideiddio yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu sy’n cynnwys y sector cyhoeddus. Fodd bynnag, mae’r cynnydd ar y materion hyn wedi bod yn arafach yn strwythur Cyngor Datblygu’r Economi a sefydlwyd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yn y sector preifat.

Enghraifft: Gweithio mewn partneriaeth ar ddigideiddio yn y Sector Cyhoeddus

Mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yn datblygu set o egwyddorion ar ddigideiddio ar gyfer cynnwys, cyfranogi ac ymgynghori â staff ac undebau llafur pan gyflwynir dulliau digidol a data newydd a thechnolegau newydd. Mae hyn yn dilyn yr argymhellion mewn adroddiad gan CPG am effaith technoleg arloesol ar weithlu’r sector cyhoeddus a bydd wedi’i seilio ar egwyddorion y Cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr y wladwriaeth wneud eu gorau glas i sicrhau parhad cyflogaeth pryd bynnag y gwneir newidiadau sy’n effeithio ar y gweithlu. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ymgynghori ag undebau llafur ar y cyfle priodol cyntaf a chyn gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwrthdroi. Mae’r adroddiad a’r cytundeb ar gael yma:

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu, 2021: Dyfodol gwaith: effaith technoleg arloesol ar y gweithlu: Adroddiad ar y materion allweddol sy’n effeithio ar y gweithlu a grëwyd gan natur gyfnewidiol gwaith. https://llyw.cymru/dyfodol-gwaith-effaith-technoleg-arloesol-ar-y-gweithlu-html

Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu: partneriaeth a rheoli newid, https://llyw.cymru/cytundeb-cyngor-partneriaeth-y-gweithlu-partneriaeth-rheoli-newid

Ar lefel y gweithle a’r cyflogwr, mae technoleg newydd yn bwnc a all gael effaith mor fawr ar weithwyr fel ei fod yn haeddu cael ei drafod ar wahân i unrhyw drafod mewn pwyllgorau ymgynghori neu gydnegodi sydd eisoes yn bod. Mae undebau a wnaeth gytundebau ar dechnoleg newydd wedi sefydlu Cyd-weithgorau newydd ar dechnoleg ac ymgynghorir ag eraill drwy eu strwythurau partneriaeth.

Mewn adroddiad gan un o bwyllgorau BEIS yn 2019, dadleuwyd bod angen dechrau ymgynghori ar hyn yn gynnar: “Yn achos busnesau sy’n buddsoddi mewn awtomatiaeth a newid eu ffordd o weithio, mae angen ymgysylltu â’r gweithlu ymhell cyn ystyried neu gyflwyno newidiadau sylweddol, yn hytrach nag ar yr adeg y mae technoleg newydd yn ymddangos yn y gweithle.”

Enghraifft: CWU a’r Post Brenhinol: Gweithgor Treialon Cenedlaethol

Yn y Cytundeb Pedair Colofn yn 2018, roedd Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) a Grŵp y Post Brenhinol (RMG) wedi sefydlu Gweithgor Treialon Cenedlaethol i drafod a chytuno ar gyflwyno mentrau newydd, yn cynnwys technoleg a chyfarpar newydd. Mae’r strwythur hwn, a sefydlwyd bryd hynny, yn sicrhau llais i’r undeb mewn perthynas ag unrhyw dechnoleg newydd y mae’r cwmni’n ei chyflwyno o adeg dylunio’r cysyniad. Yn ogystal â hyn, bydd y dechnoleg newydd yn cael ei threialu am gyfnod penodol o dan delerau a gytunwyd gan yr undeb a’i heffaith yn cael ei hasesu ar sail meini prawf a gytunwyd.

Geiriad y cytundeb yw:

Bydd y Post Brenhinol a CWU yn ymgynghori’n llawn ar nodau ac amcanion dulliau, technoleg neu awtomatiaeth newydd arfaethedig ar gam dylunio’r cysyniad. Dyfeisir treial i geisio dilysu’r newid arfaethedig. Bydd cylch gorchwyl yn disgrifio’r cynnwys, lleoliad a meini prawf llwyddiant. Dylai’r amserlen ar gyfer y treial fod yn un hwylus ac ni fydd yn hwy na 90 diwrnod. Os dangosir bod y meini prawf wedi’u bodloni, bydd hyn yn arwain at ei gyflwyno, ar yr amod bod yr achos busnes wedi’i gymeradwyo. Cynhelir yr ymgynghoriad ar lefel genedlaethol a hynny’n ddigon cynnar i ganiatáu mewnbwn/cyfranogiad ystyrlon wrth benderfynu ar y math o dreial a fydd yn fwyaf priodol i gyflawni’r amcanion a nodwyd, cyn cwblhau unrhyw achos busnes.

Enghraifft: Cyd-weithgor yn Rolls Royce Motors (Grŵp BMW)

Yn ystod eu negodi ar dâl yn 2018, roedd stiwardiaid Unite yn Rolls Royce Motors (Grŵp BMW) wedi sicrhau ymrwymiad gan BMW i gymryd rhan mewn cyd-weithgor ar ddyfodol awtomatiaeth. Bydd y gweithgor yn cael ei reoli gan brif Gyngor y Cwmni ac yn adrodd iddo. Mae’n rhoi llais i weithwyr ar gyflwyno datblygiadau newydd fel y faneg hunansganio y mae Grŵp BMW am ei defnyddio ar y llinell gynhyrchu.

Meddai Dave Elson, cynullydd Unite yn y cwmni, “Byddwch chi’n gwisgo’r faneg ac mae cod bar ynddi, mae’n canfod bod y partiau wedi’u gosod ac yn lawrlwytho pob dim yn awtomatig, mae’n arbed un broses ond mae hefyd yn torri swyddi allan. Rydyn ni wedi siarad â’r cwmni am gytundeb ar dechnoleg newydd fel y byddwn ni, fel undeb, mewn lle gwell i ddeall effeithiau’r dechnoleg hon a’r effeithiau ar y diwydiant …[rydyn ni] am amddiffyn ein haelodau a’u swyddi.”

Mae Unite yn argymell y dylai unrhyw drefniadau newydd ar gyfer ymgynghori â’r cyflogwr am dechnoleg newydd fod yn rhai ffurfiol, os oes modd, a chael eu creu drwy gytundeb, gan mai hon yw’r ffordd orau i sicrhau bod trafodaethau’n digwydd cyn gweithredu, a bod gweithwyr yn cael digon o amser i baratoi ac ymateb i unrhyw gynlluniau. Mae Unite yn awgrymu y dylai cynrychiolwyr geisio sicrhau pedair elfen benodol:

  • Cyd-bwyllgor Negodi ar wahân ar Dechnoleg Newydd gyda’r cyflogwr;
  • Is-bwyllgor ar Dechnoleg Newydd sy’n cynnwys cynrychiolwyr yn unig, i drafod materion sy’n ymwneud â thechnoleg a lledaenu’r canfyddiadau ymysg y gweithlu;
  • Cynrychiolwyr Technoleg Newydd penodedig sydd â’r hawl i gael amser hwyluso, a fydd yn arbenigo ar faterion gweithwyr mewn perthynas â Thechnoleg Newydd ac a fydd yn eistedd ar yr Is-bwyllgor Technoleg Newydd;
  • Cronfa Technoleg Newydd a sefydlir gan y cyflogwr i ariannu gwaith yr Is-bwyllgor.

Nid yw diffyg trefniadau bargeinio ffurfiol ar dechnoleg newydd yn golygu na fydd undebau’n gallu cymryd rhan mewn deialog â chyflogwyr. Ceir enghreifftiau o gyflogwyr mewn nifer o wahanol sectorau diwydiannol sydd wedi gweithio mewn partneriaeth mewn perthynas ag effaith technoleg newydd. Er bod hyn yn aml yn golygu bod llai o lais gan weithwyr cyn cyflwyno technoleg newydd, ac felly fod ganddynt lai o bŵer nag a fyddai ganddynt os oedd cydgytundeb wedi’i wneud, mae strwythurau cydweithredol yn gallu helpu i hwyluso unrhyw bontio i dechnoleg newydd, i gynllunio strategaethau ar gyfer hyfforddi a/neu ailgyfeirio gweithwyr a rhoi cyfle i weithwyr fynegi pryderon a rhoi adborth

Enghraifft: Gweithio mewn partneriaeth ar dechnoleg newydd yn y diwydiant cyllid

Mae’r sector gwasanaethau ariannol wedi’i daro’n galed iawn gan awtomeiddio. Er hynny, mae nifer o enghreifftiau yn y sector lle mae cyflogeion wedi’u cynnwys mewn trafodaethau am newidiadau mewn technoleg.

Meddai Tim Rose, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Staff Grŵp Nationwide: “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld mwy o wasanaethau’n cael eu darparu’n ddigidol i’r cwsmer – bancio ar-lein a symudol. Mae’r defnydd o’r gwasanaethau hyn wedi cynyddu yn ystod y pandemig gan fod pobl wedi cadw draw o ganghennau. Yn sgil hynny, mae mwy o bwysau ar hyfywedd y rhwydwaith canghennau a swyddi traddodiadol mewn canghennau. Wrth i nifer yr ymweliadau gan gwsmeriaid fynd yn llai, sut allwch chi wneud y gangen yn hyfyw? Rydyn ni’n cydweithio â Nationwide ar hyn o bryd i ddeall pa fathau eraill o waith y gall cyflogeion y canghennau eu cyflawni ac i ystyried ffyrdd mwy hyblyg o weithio er mwyn gwneud y swyddi hyn yn hyfyw  – ond mae’n debyg ein bod ni’n sôn am newid graddol dros gyfnod o 2-3 blynedd.”

Mae cwmni Zurich Insurance hefyd yn cynnal nifer o strwythurau lle gellir trafod newidiadau mawr sydd ar y gweill ar lefel genedlaethol gan roi llais i undeb Community ac i weithwyr. Mae’n cynnal Cyngor Partneriaeth Cenedlaethol, bwrdd ymgynghori â chyflogeion yn y DU sy’n cynnwys is-grŵp newid sefydliadol ac sy’n gallu creu ‘Grwpiau Newid Prosiect busnes-benodol’ lle gellir trafod newidiadau penodol.  

 

Enghraifft: Cyfleoedd i weithwyr roi adborth

Lle mae technoleg newydd wedi’i chyflwyno eisoes, gall undebau weithio i sicrhau bod deialog barhaus ynghylch ei heffaith ar weithwyr.

Yn y cwmni tai Wheatley Group yn yr Alban, cyflwynwyd meddalwedd newydd i ddelio â’r llwyth achosion ar gyfer swyddogion tai gan ddileu’r angen am lenwi dogfennau ar safleoedd drwy ddefnyddio iPads. Er bod y dechnoleg yn cael ei hystyried yn welliant ar y cyfan, roedd nifer o heriau wedi codi yn ei chylch hefyd, yn enwedig oherwydd diffyg nodweddion penodol a newidiadau mewn arferion gweithio. Roedd cynrychiolydd UNISON Paul Stuart yn gallu rhoi adborth ar y materion hyn, ac awgrymu rhagor o brosesau y byddai gweithwyr yn hoffi gweld eu hawtomeiddio yn y dyfodol drwy bwyllgor ymgynghorol yr undeb a’r cyflogwr.

Yn ASDA Normanton, mae undeb GMB wedi helpu i sefydlu ‘cylchoedd gwella’ lle gall gweithwyr gyfathrebu â rheolwyr ynghylch mentrau technolegol ar y safle. Mewn cyfweliad â’r Comisiwn ar Weithwyr a Thechnoleg, dywedodd un rheolwr: “po gryfaf oedd y berthynas rhyngon ni a’r undeb, mwyaf oedd ein gallu i wneud penderfyniadau’n gyflym i wella ein depo”

Mwy o'r TUC