Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Cychwyn sgwrs ag aelodau

Gall awtomatiaeth fod yn bwnc sy’n ennyn ymateb cryf gan aelodau am ei fod yn ymwneud â phryderon am sicrwydd swyddi, newid yn natur rolau swydd a phwysau cynyddol ar y gweithlu.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Unite, UNISON a Prospect i gyd wedi datblygu cytundebau enghreifftiol ar dechnoleg newydd ac maent yn darparu cymorth ar fargeinio i gynrychiolwyr a stiwardiaid sydd am ymgyrchu yn y maes hwn. Mae’r materion hyn hefyd yn dod yn uwch ar yr agenda mewn cynadleddau, ac roedd aelodau UNISON wedi pasio cynigion ar awtomatiaeth yn 2018 – ac mae awtomatiaeth ar frig yr agenda yng nghynadleddau sector Unite. Er hynny, gan nad oes cytundebau wedi’u gwneud hyd yma, mae’r ymateb gan undebau i dechnoleg yn y gweithle wedi bod yn adweithiol ar y cyfan. Mae angen gwneud rhagor i ymgysylltu ag aelodau.

Mae’n anodd dechrau ymgyrchu ynghylch awtomatiaeth heb wybod beth sy’n digwydd yn y gweithle yn barod, heb ddeall teimladau aelodau am y pwnc, a chael rhyw syniad o leiaf o’r effaith debygol ar swyddi a rolau swydd penodol yn y dyfodol.

Mae ymchwil ddiweddar wedi dangos ei bod yn bosibl bod gweithwyr mewn nifer mawr o weithleoedd heb wybod hyd yn oed sut mae technoleg yn effeithio arnynt, ac mai nifer bach sy’n cael eu cynnwys drwy ymgynghori cyn ei chyflwyno.

  • Mewn arolwg diweddar gan y TUC, cafwyd y canfyddiad syfrdanol bod 89 y cant o weithwyr heb wybod a yw eu cyflogwr yn defnyddio systemau adnoddau dynol seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial i redeg swyddogaethau fel rhai ar gyfer perfformiad, patrymau sifftiau, absenoldeb a/neu recriwtio (Technology Managing People, 2021)
  • Mewn arolwg a gynhaliwyd gan undeb Community yn union cyn y pandemig, cafwyd bod dwy ran o dair o weithwyr (65 y cant) yn dweud nad ymgynghorwyd â nhw y tro diwethaf y cyflwynwyd technoleg newydd yn eu gweithle.
  • Roedd arolwg diweddar o ganghennau UNISON hefyd wedi canfod mai dim ond 17 y cant o ganghennau a oedd wedi’u cynnwys mewn ymgynghori ar gyflwyno awtomatiaeth. 

Blwch: Sut i gychwyn sgwrs am dechnoleg newydd

Os nad yw technoleg newydd wedi dod yn bwnc trafod yn y gweithle eto, mae nifer o ffynonellau gwybodaeth ar gael i gychwyn sgwrs.

Os oes perthynas dda â’r cyflogwr, gellid ei holi am ei gynlluniau o ran buddsoddi mewn technoleg newydd yn y dyfodol, drwy gyfrwng y trefniadau presennol ar gyfer bargeinio ac ymgynghori. Gall arolygon o aelodau gynnig ffynhonnell dda o wybodaeth hefyd am y ffordd y mae technoleg yn effeithio ar rolau swyddi ac am eu teimladau ynghylch y dyfodol.

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd angen i swyddogion gyfrannu gwybodaeth o ffynonellau allanol am y dechnoleg a allai gael ei chyflwyno neu sydd wedi’i chyflwyno eisoes mewn gweithleoedd a sectorau tebyg, fel y gwnaed yn yr enghraifft am Unite ar dudalen 00.

Mae’r TUC a nifer o undebau eisoes yn darparu deunydd am awtomeiddio a digideiddio i’w ddefnyddio ar gyfer bargeinio mewn ymgyrchoedd. Yn ogystal â hyn, mae corff cynyddol o waith ymchwil dan nawdd undebau ynghylch y ffordd y mae technoleg yn effeithio ar eu haelodau’n barod (Gweler ATODIAD 1).

Bydd yr undebau sydd wedi llwyddo i negodi cytundebau ar dechnoleg newydd un ai wedi cynnal ymchwil gynhwysfawr, ymarferiadau myfyriol ac ymgynghoriad ag aelodau neu byddant wedi sefydlu trefniadau bargeinio eisoes i sicrhau ymgynghori â’r undeb ar unrhyw newidiadau arfaethedig ymhell cyn eu cyflwyno.

Mae Unite wedi gwneud cryn ymdrech i gychwyn sgwrs ag aelodau a braenaru’r tir ar gyfer negodi ynghylch technoleg ym mhob un o’i 19 sector diwydiannol, er bod y cynnydd ar gyrraedd cytundebau wedi’i arafu gan y pandemig COVID.

Enghraifft: Ymarfer ymchwil ac ymgynghori Unite ar awtomatiaeth

Yn 2017-18, roedd yr undeb Unite wedi cynnal ymchwil gynhwysfawr ac ymgynghoriad ar awtomatiaeth er mwyn hyrwyddo bargeinio ar y mater hwn ym mhob un o’i 19 sector diwydiannol. Yn y cam cyntaf, roedd yr Adran Trefnu ac Ysgogi Genedlaethol wedi paratoi adroddiad yn crynhoi’r bygythiadau a’r cyfleoedd a oedd yn codi ym mhob sector. Roedd hefyd wedi datblygu cytundeb enghreifftiol ar dechnoleg newydd.

Cynhaliwyd gweithdai i drafod y canfyddiadau o’r ymchwil gyntaf gan bwyllgorau sectoraidd a rhanbarthol, ac roedd yr adborth gan y gynrychiolwyr a gymerodd ran wedi arwain at lunio adroddiadau manylach ar sectorau i’w defnyddio ar gyfer ymgyrchu ar dechnoleg newydd. Cyn i’r pandemig COVID daro, roedd strategaeth Unite yn cael effaith gadarnhaol wrth ymwneud â mwy na 1000 o gyflogwyr mewn nifer o sectorau:

Trafnidiaeth Teithwyr a thechnoleg newydd: yn 2019, dywedodd Darren Brown sy’n gweithio yn Stagecoach Oxford, ac yn Is-gadeirydd pwyllgor Trafnidiaeth Teithwyr: “Rydyn ni’n datblygu carfan o gynrychiolwyr blaenllaw yn y diwydiant bysiau i ymgyrchu dros gytundeb cenedlaethol ar dechnoleg newydd i ddiogelu swyddi gweithwyr bysiau rhag y bygythiad o awtomatiaeth. Rydw i’n annog pob cynrychiolydd i fynd i’r afael â hyn ar frys.”

Roedd arwyddion addawol hefyd ym maes gweithgynhyrchu bwyd ac roedd stiwardiaid llawr gwaith Unite yng ngwaith Nestlé yn ceisio sicrhau cytundeb ar dechnoleg newydd i ddiogelu swyddi mewn diwydiant lle mae cyflogwyr yn dweud ar hyn o bryd ei bod yn bryd “tynnu llafur allan o’r ystyriaethau”.

Mae nifer o undebau yn yr Almaen hefyd wedi gwneud gwaith rhagweithiol manwl i fraenaru’r tir ar gyfer negodi ar dechnoleg newydd.

Enghraifft: Prosiect Arbeit 2020 yn yr Almaen

Yn yr Almaen, mae tri undeb mawr, dan arweiniad IG Metall, wedi cydweithio ag ymchwilwyr ac ymgynghorwyr allanol ar ymarfer ymchwilio a dysgu ar dechnoleg newydd mewn nifer o weithfeydd gweithgynhyrchu. Roedd prosiect Arbeit 2020, a gychwynnwyd yn 2016, yn ceisio grymuso aelodau cynghorau gweithfeydd lleol i fargeinio ynghylch digideiddio ar lefel y gweithle. Cafodd ei ran-ariannu gan y Weinyddiaeth Llafur, Lles a Materion Cymdeithasol ranbarthol a Chronfa Gymdeithasol Ewrop a chafodd gymorth technegol gan ddau gwmni ymgynghoriaeth (Sustain Consult a TBS). Roedd y prosiect yn cynnwys mwy na 30 o gwmnïau trin metel a chafodd ei oruchwylio hefyd gan yr Athrofa Gwaith, Sgiliau a Hyfforddi ym Mhrifysgol Duisburg-Essen.

Ar ôl cael eu gwahodd i’r gweithle, roedd swyddogion undeb ac ymgynghorwyr wedi cynnal gweithdai gyda chynrychiolwyr y gweithwyr yn ogystal â chyfweliadau â rheolwyr ac arbenigwyr TG (rhai oedd yn gyfrifol am ddyfeisio prosiectau digideiddio gan amlaf) er mwyn cael syniad o strategaeth y cwmni ar arloesi.

Y cam nesaf oedd cynnal gweithdai gyda chyflogeion fesul adran, i gasglu barn am y sefyllfa o ran gweithrediadau ar y pryd a hefyd am ddatblygiadau tebygol yn y dyfodol. Roedd y rhain yn ystyried:

  • trefniadaeth gwaith (gan roi sylw penodol i’r gadwyn awdurdod);
  • technoleg (gan roi pwyslais penodol ar lefel y cysylltedd digidol a lefel hunanreolaeth peiriannau);
  • tueddiadau o ran cyflogaeth, mesurau sgiliau a chymwysterau ac amodau gweithio (gan ystyried elfennau fel straen a llwyth gwaith).

Ar ôl cwblhau’r prosesau hyn, byddai grŵp yr undebau a’r ymgynghorwyr yn llunio “Map digideiddio” ar gyfer y cwmni, yn tynnu sylw at y materion roedd angen delio â nhw. Roedd hwn yn cael ei ddefnyddio wedyn i fargeinio â rheolwyr. Roedd y prosiect wedi arwain at lofnodi cytundebau mewn nifer o weithfeydd ar natur y newid digidol yn y dyfodol. Wedyn roedd y cytundebau ar lefel gweithfeydd yn cael eu defnyddio i ddylanwadu ar gynlluniau datblygu’r cwmni ar raddfa fwy.

Roedd y cytundebau’n cynnwys cymalau am hawliau undebau i weld gwybodaeth a/neu sefydlu gweithgorau gweithwyr-rheolwyr, yn ogystal â darpariaethau ynghylch materion mwy sylweddol fel datblygu sgiliau, contractau prentisiaeth, oriau gwaith a diogelu data gweithwyr. Yn ôl swyddog IG Metall, Patrick Loos, roedd y broses wedi arwain at sylweddoli “bod y problemau mwyaf perthnasol yn ymwneud â threfniadaeth, arweinyddiaeth, hyfforddiant ac amodau gweithio…. Roedd pob un o’r gweithfeydd mewn sefyllfa wahanol ac nid oedd yn bosibl i neb fynd i mewn o’r tu allan gan ragnodi’r math o newid roedd ei angen.” Roedd IG Metall wedi elwa o’i brofiad yn y prosiect Arbeit 2020 wrth hyfforddi 1000 o swyddogion gwirfoddol ac amser llawn i fod yn ‘hyrwyddwyr newid’ yn y gweithle.

Enghraifft: Rhoi pobl ar ganol technoleg newydd ar y rheilffyrdd 

Mae undeb EVG yn yr Almaen yn cynrychioli mwyafrif helaeth y gweithwyr yn y cwmni rheilffyrdd gwladol Deutsche-Bahn (DB). Dechreuodd ar ei strategaeth ar gyfer negodi’r cytundeb arloesol ‘Arbeit 4.0’ â’r cwmni drwy gynnal proses ymchwil ac ymgynghori gynhwysfawr. Y cam cyntaf oedd ymarfer myfyriol i’r undeb yn unig i greu syniadau ynghylch sut i ‘ddyneiddio’ y newidiadau arfaethedig. Roedd swyddogion a chynrychiolwyr wedi gofyn y cwestiynau cyffredinol a ganlyn iddyn nhw eu hunain:

  • Sut y gallwn symud y ffocws mewn newid technegol at bobl?
  • A all pobl fod yn rhan o newidiadau digidol?
  • Sut mae gweithleoedd hyblyg yn gallu hybu cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?
  • Sut mae sgiliau trawsnewid digidol yn cael eu dylunio?
  • Yn y dyfodol, a fydd pobl yn gallu gweithio’n ymreolus neu a fyddant o dan reolaeth ddigidol?
  • Sut mae swyddi/prosesau gwaith yn newid?
  • Sut mae’n rhaid gwella dulliau o ddiogelu data cyflogeion?

Y cam nesaf oedd ymgynghoriad torfol â 15,000 o aelodau i gael gwybod sut roedd technoleg yn effeithio arnynt a beth oedd eu gobeithion a’u hofnau at y dyfodol. Wedyn roedd yr undeb wedi sicrhau bod y cytundeb yn cynnwys camau i sefydlu cyd-weithgor i ymchwilio i’r ffordd roedd technoleg yn effeithio ar hanfodion rolau swyddi yn y sector. Roedd hyn yn rhoi cyfle i ymchwilio’n barhaus ac yn fwy manwl i newidiadau.

Mwy o'r TUC