Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Iechyd a diogelwch

Yn ôl natur y gweithle a’r math o dechnoleg newydd sydd dan sylw, mae’n debygol y bydd nifer o faterion iechyd a diogelwch i’w cynnwys mewn unrhyw gytundeb. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ergonomeg – a yw’r peiriannau newydd yn ddiogel, symudiadau’r corff, etc.?
  • Iechyd meddwl
  • Dwysáu gwaith
  • Ynysigrwydd cymdeithasol

Mae Unite yn argymell bod Asesiad Risg Technoleg Newydd ar wahân yn cael ei wneud cyn cyflwyno meddalwedd neu gyfarpar newydd a fydd yn ystyried iechyd meddwl gweithwyr, unrhyw un sydd ag anableddau corfforol ac unrhyw sgil-effeithiau posibl neu wenwyndra o unrhyw ddeunyddiau sydd yn rhan o’r dechnoleg.

Hefyd, mae undeb Prospect yn lobïo o blaid cynnwys ‘Hawl i Ddatgysylltu’ yn y Bil Cyflogaeth sydd ar y gweill. Mae hefyd wedi darparu cytundeb enghreifftiol ar y mater hwn sydd wedi’i ddrafftio gan Undeb Gwasanaethau Ariannol Iwerddon. Mae’r rhaglith i’r cytundeb fel a ganlyn:

“Mae technolegau newydd yn cynnig cyfle ardderchog i gyflwyno trefniadau gweithio hyblyg ar gyfer staff. Bellach mae nifer mawr o staff yn manteisio ar drefniadau ar gyfer oriau a lleoliadau gwaith gwahanol fel bod gwaith yn aml yn cael ei gyflawni ar adegau gwahanol yn ystod y dydd neu’r wythnos. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol bod hyn yn gallu creu risgiau, disgwyliadau, neu bwysau i weithio oriau hirach sydd yn aml yn mynd ag amser o fywyd y cartref. Mae’r hawl i ddatgysylltu oddi wrth waith yn hanfodol i sicrhau cydbwysedd iach a chynaliadwy rhwng bywyd a gwaith. Mae iechyd meddwl staff, eu lles a’u hamser oddi wrth y gwaith yn bwysig i ni.

“Yn y cyd-destun hwn, rydym yn cefnogi hawl ein staff i ddatgysylltu. Fel cyflogwr, ni fyddwn yn disgwyl fel arfer i staff weithio mwy na’r oriau gwaith sydd yn eu contract. Os byddwch yn gweld eich bod yn gwneud hynny, dylech siarad â’ch rheolwr llinell neu gynrychiolydd undeb. Os byddwch yn cael e-bost o’r gwaith, neu unrhyw fath arall o gyfathrebiad y tu allan i oriau gwaith, ni ddisgwylir i chi ei ddarllen neu ymateb iddo nes byddwch yn gweithio eto.

“Rydym yn annog staff cymwys sy’n gweithio goramser i hawlio am hynny a sicrhau eu bod yn cael eu talu am y gwaith hwn. Yn ogystal â hyn, mae lwfans ar alwad a lwfans gwaith ysbeidiol ar gyfer y rheini sy’n gymwys. Os yw’n ofynnol i unrhyw un weithio’n ysbeidiol, dylai dderbyn y lwfans hwn. Heblaw am gysylltu sy’n ymwneud â gweithio ar alwad, neu lle cytunwyd yn benodol ar hynny â’r aelod staff, mae’ch cyflogwr yn ymgymryd i beidio â chysylltu â chi i tu allan i’r oriau gwaith a gytunwyd ar faterion sy’n gysylltiedig â gwaith.

“Mae’r hawl hon a’r polisi hwn yn gymwys i’r holl staff yn ein grŵp, yn cynnwys gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dan gontract.”

Mae’r cytundeb enghreifftiol yn cynnig ymrwymiadau penodol ar “oriau gwaith a goramser”, “dim cysylltu y tu allan i oriau”, “egwylion rheolaidd ac amser cinio”, “rheoli cyfarfodydd ac amseroedd”, “lwfansau ar alwad, gwaith ysbeidiol a phresenoldeb ar benwythnosau a lwfansau eraill”, “diwylliant gwaith”, a “gweithdrefn gwyno”.

Enghraifft: Hawl i ddatgysylltu, asesiadau risg a rheoli straen yn Deutsche-Bahn

Mae ‘hybu iechyd gweithwyr’ yn elfen ganolog yng nghytundeb Arbeit 4.0 EVG. Mae’n cynnwys adran gyfan am ‘straen, datgysylltiad a diogelu iechyd’. Yn benodol, mae’n cydnabod bod y defnydd o dechnoleg symudol, e.e. ffonau clyfar, iPads etc., yn galw am alluoedd amlorchwyl a all achosi straen seicolegol i weithwyr.

Mae’r cytundeb yn pennu’r angen i reoleiddio’r gallu i gysylltu drwy’r amser sy’n bosibl drwy dechnoleg symudol, h.y. y dylai gweithwyr gael yr hawl i ddatgysylltu a bod angen cynnal asesiadau risg ‘seicolegol’ trwyadl. Mae hefyd yn sicrhau bod y cyflogwr yn darparu cyllid ar gyfer gweithgareddau fel ‘seminarau ymdopi â straen’.  

Enghraifft: Canllawiau ar ddefnyddio peiriannau didoli parseli awtomatig yn y Post Brenhinol

Mae’r cylch gorchwyl a negodwyd gan CWU ar gyfer cyflwyno peiriannau awtomatig yn y Post Brenhinol yn sicrhau y bydd astudiaethau ergonomig wedi’u cwblhau yn ystod y cyfnod treialu a bod rheolau penodol ar staffio yn cael eu dilyn er mwyn diogelu lles gweithwyr. Mae’r cylch gorchwyl yn datgan:

“Mae’r astudiaethau hyn wedi cynnwys mewnbwn o safbwynt Iechyd a Diogelwch ac adborth gan unigolion sy’n gweithio ar y peiriannau er mwyn sicrhau bod materion perthnasol, h.y. blinder gweithredwyr, straen ailadroddus etc. wedi’u hystyried wrth bennu’r trefniadau gweithredu ar gyfer staffio’r peiriannau didoli awtomatig.”

“Yn unol ag allbynnau’r gweithgarwch uchod, cadarnheir na ddylai unrhyw unigolyn weithio mewn gweithfan benodol am fwy na dwy awr ac felly bod rhaid cylchdroi’r holl weithredwyr bob 2 awr. Er mwyn hwyluso hyn, ceir trafodaeth a chytundeb yn lleol â’r CWU i sicrhau bod hyn wedi’i gynnwys yn y cynllun adnoddau ar gyfer y safle. Er mwyn gallu cydymffurfio’n llwyr â’r system cylchdroi a chynnig y cyfle a’r gallu i hyfforddi cynifer â phosibl o aelodau staff i ddefnyddio’r peiriannau didoli awtomatig, dylai’r man didoli â llaw gael ei ddefnyddio hefyd yn rhan o’r broses cylchdroi o dan y cynllun adnoddau a gytunir.”

 

Enghraifft: Defnyddio realiti rhithwir i fodelu ergonomeg yn Siemens

Gwelodd y Comisiwn ar Weithwyr a Thechnoleg fod gweithwyr ar safle Siemens yn Congleton yn defnyddio Ogof Realiti Rhithwir i efelychu newidiadau yn yr amgylchedd gwaith wrth gyflwyno technoleg newydd yn y ffatri. Mae un rhan o offer yr ‘Ogof’ yn dylunio’r peiriannau er mwyn sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl ac mae rhan arall yn offeryn efelychu ergonomig. Mae’r ail offeryn hwn yn un ar gyfer cynnal iechyd a diogelwch y gweithredwyr gan ddefnyddio data o ddyluniad y peiriannau i efelychu straen ar gyrff y gweithredwyr.

Mwy o'r TUC