Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Pa ddyfodol sydd i waith?

Mae natur gwaith yn newid. Yn y cyfnod hwn, rydym yn mynd drwy broses o bontio ac ailstrwythuro economaidd mawr sydd wedi’i sbarduno gan gamau i gyflwyno technolegau newydd, a deddfwriaeth sy’n gofyn am ddatgarboneiddio’r economi gyfan er mwyn mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r angen am adferiad cyflym yn sgil COVID yn sicr o gyflymu’r broses.

Mae angen i undebau weithredu nawr drwy’r holl strwythurau negodi sydd ar gael, o lefel y gweithle i lefel y cynghorau partneriaeth cymdeithasol, er mwyn sicrhau llais cryf i weithwyr drwy gydol y broses pontio, er mwyn chwarae eu rhan wrth ailddiffinio swyddi’r dyfodol a phenderfynu’r mathau o hyfforddiant sgiliau sydd eu hangen i addasu mewn cyfnod o newid.

Mae’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol wedi diffinio’r pedair prif broses newydd sydd eisoes wedi dechrau yn y farchnad lafur. Bydd angen i gynrychiolwyr a swyddogion undeb wybod y diweddaraf am y ffordd y mae’r rhain yn datblygu yn eu sector er mwyn gallu ymyrryd a negodi’r canlyniadau gorau i aelodau.

  • Creu swyddi newydd mewn nifer o sectorau yn yr economi

Mae awtomeiddio a digideiddio eisoes yn creu swyddi newydd wedi’u seilio ar lwyfannau digidol fel y rheini a welir yn yr economi gig. Rhagwelir y byddant yn creu swyddi newydd mewn meysydd sy’n cynnwys dadansoddi data, diogelu gwybodaeth, trawsnewid digidol, meddalwedd, rhaglenni cyfrifiadurol, deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol.

Bydd y pontio i economi sero net yn creu swyddi newydd ym meysydd ynni adnewyddadwy; effeithlonrwydd ynni (mewn gweithgynhyrchu, cludiant, adeiladu a gweithrediadau adeiladu, etc.); amaethyddiaeth organig; mewn gwahanol fesurau addasu cyflogaeth-ddwys sydd â’r bwriad o ddiogelu ac adfer ecosystemau a bioamrywiaeth, ac mewn seilwaith a gwaith gwyrdd (cyhoeddus) sydd â’r bwriad o addasu i effeithiau newid hinsawdd a datblygu cydnerthedd.

  • Disodli swyddi

Mae swyddi presennol yn cael eu disodli o ganlyniad i newidiadau yn yr economi. Gan fod awtomatiaeth yn cymryd lle tasgau mewn gwahanol swyddi, yn cynnwys gwaith corfforol ailadroddus fel gweithio peiriannau ar linellau cynhyrchu, casglu a phrosesu data ar gyfer gwaith paragyfreithiol, cyfrifyddu a gwaith cefn swyddfa, er enghraifft, mae’r rolau swyddi hyn yn debygol o gael eu trawsnewid ond nid eu dileu, o reidrwydd, wrth i weithwyr symud i gyflawni rolau eraill mewn sefydliadau. Mae hyn yn creu goblygiadau o ran proffiliau galwedigaethol ac anghenion sgiliau.

Yn yr un modd, bydd y newid i ddulliau mwy effeithlon, o ddulliau carbon uchel i rai carbon isel, ac i dechnolegau, prosesau a chynhyrchion sy’n creu llai o lygredd, yn arwain hefyd at ddisodli swyddi. Rhai enghreifftiau yw newid cludiant o lorïau i reilffyrdd, o weithgynhyrchu peiriannau tanio mewnol i gynhyrchu cerbydau trydan, o dirlenwi i ailgylchu ac adnewyddu.

  • Dileu swyddi

Mae rhai swyddi’n cael eu dileu drwy leihau eu nifer yn raddol neu eu cwtogi’n ddirfawr, heb eu hamnewid yn uniongyrchol. Gall hyn ddigwydd lle mae prosesau swyddi llafur-ddwys yn cael eu hawtomeiddio’n llwyr; er enghraifft, drwy greu porthladdoedd cwbl awtomatig, y pontio i fancio a manwerthu ar-lein. Bydd hefyd yn digwydd mewn sectorau yn yr economi lle mae gweithgareddau economaidd ynni-ddwys neu ddeunydd-ddwys yn lleihau neu’n diflannu’n gyfan gwbl. Byddai mwy o effeithlonrwydd o ran ynni, deunyddiau a dŵr (ynghyd â chynnydd mewn ailgylchu deunyddiau ac ailddefnyddio cynhyrchion) yn gallu arwain at golli nifer mawr o swyddi yn y sector cynradd.

  • Trawsnewid swyddi

Yn olaf, bydd nifer mawr o swyddi presennol, a’r rhan fwyaf ohonynt o bosibl, yn cael eu trawsnewid a’u hailddiffinio wrth i arferion pob dydd yn y gweithle, setiau sgiliau, dulliau gweithio a phroffiliau swyddi gael eu hawtomeiddio, eu digideiddio neu eu gwyrddu. Er enghraifft, mae gweithwyr ym mhob man yn rhyngweithio fwyfwy â meddalwedd, dyfeisiau a pheiriannau newydd sy’n newid rhythm eu bywydau gwaith beunyddiol. Wrth i’r economi newid i weithio carbon isel, bydd plymwyr, peirianwyr a thrydanwyr yn gorfod ymaddasu i wneud gwaith tebyg yn yr amgylchedd newydd. Bydd gweithwyr modurol yn cynhyrchu ceir mwy ynni-effeithlon (neu rai trydan). Bydd ffermwyr yn defnyddio dulliau tyfu sy’n fwy addas i’r hinsawdd (Sefydliad Llafur Rhyngwladol, 2016).

Cwmpas y prosiect hwn

Mae’r prosiect hwn wedi ceisio dod o hyd i enghreifftiau ymarferol o’r hyn y mae undebau wedi’i negodi eisoes i baratoi eu haelodau ar gyfer y newidiadau mawr ym myd gwaith sy’n digwydd drwy awtomeiddio cynyddol a newid technolegol cyflym a’r pontio i economi sero net.

Roedd yr ymchwil yn cynnwys:

  • Adolygiad o lenyddiaeth eilaidd ac ymchwil ddesg helaeth
  • Chwilio cronfa ddata Adran Ymchwil Llafur o gydgytundebau
  • Arolwg o gysylltiadau Adran Ymchwil Llafur mewn undebau
  • Cyfweliadau dilynol â chysylltiadau allweddol
  • Mynychu gweithdai undebau ar faterion perthnasol

Mae’n glir mai newydd ddechrau y mae’r cydfargeinio ar y materion pontio presennol a bod nifer yr enghreifftiau o gytundebau pendant yn fach iawn. Er hynny, drwy’r ymchwil cafwyd nifer o enghreifftiau o negodiadau a gweithgareddau undebau ledled y DU ac mewn gwledydd tramor a fydd o ddiddordeb i gynrychiolwyr a swyddogion sy’n ystyried cymryd camau ar y materion hyn.

Mae’r canfyddiadau hyn wedi’u rhannu rhwng dau lawlyfr ar wahân. Mae’r llawlyfr hwn yn canolbwyntio ar enghreifftiau a meysydd allweddol i negodwyr sy’n ceisio sicrhau cytundebau mewn perthynas ag awtomatiaeth a thechnoleg newydd.

Negodi awtomatiaeth a thechnoleg newydd

Awtomatiaeth yw’r broses lle mae peiriannau’n cymryd drosodd dasgau a oedd yn cael eu cyflawni gan bobl o’r blaen. Mae wedi bod yn nodwedd eithaf cyson mewn gwaith wrth i dechnoleg ddatblygu dros y canrifoedd. Fodd bynnag, mae’r newid sy’n digwydd ar hyn o bryd, sy’n cynnwys digideiddio arloesol, deallusrwydd artiffisial, peiriannau cydgysylltiedig awtonomaidd, roboteg uwch, argraffu 3-D, nanotechnoleg, a biotechnoleg uwch, yn cael y fath effaith drawsnewidiol fel eu bod yn cael eu galw’n "bedwerydd chwyldro diwydiannol" neu Ddiwydiant 4.0.

Mae technoleg newydd eisoes yn newid natur gwaith mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol

Cafwyd nifer o enghreifftiau eisoes o’r ffordd y mae technolegau newydd yn effeithio ar waith, gan wneud rhai swyddi’n ddiangen a newid gweithgareddau dyddiol gweithwyr. Mae’r rhain yn cynnwys: technolegau gwisgadwy sy’n tracio symudiadau gweithwyr Amazon mewn warysau; y newid i fancio ar-lein sy’n lleihau’r angen am glercod banc; awtomeiddio desgiau talu mewn archfarchnadoedd; diagnosteg glinigol gyfrifiadurol; peiriannau wedi’u gweithio o bell mewn porthladdoedd a robotiaid ar linellau cynhyrchu.

Defnyddir technolegau newydd i ailddylunio galwedigaethau a newid cynnwys, cymeriad a chyd-destun swyddi. Mae hyn yn creu goblygiadau o ran ‘ansawdd’ gwaith, y gwerth sy’n cael ei weld ynddo, pa mor ddwys yw’r gwaith, y sgiliau a’r offer sydd eu angen i’w gyflawni, pa mor ddiogel yw’r gwaith i weithwyr a’r pŵer y mae’n ei roi i gyflogwyr o’u cymharu â gweithwyr.

Mae’n faes sy’n newid yn gyflym sy’n gallu dod â chanlyniadau cadarnhaol a negyddol i weithwyr. Roedd y Comisiwn ar Ddyfodol Gwaith yn yr adroddiad Sharing the Future: Workers and Technology in the 2020s (gwaith ar y cyd gan y Fabian Society ac undeb Community) wedi dod o hyd i nifer o enghreifftiau o’r ffordd y mae awtomatiaeth yn gallu gwella prosesau mewn gwaith pob dydd. Er hynny, mae mwy o arwyddion hefyd sy’n rhybuddio bod technoleg, yn enwedig os caiff ei gorfodi heb ymgynghori neu gydsynio, yn gallu arwain at ganlyniadau llai dymunol fel disodli pobl gan beiriannau, mwy o wyliadwriaeth neu ddatsgilio.

Gellir cael profiad cadarnhaol drwy gyflwyno technoleg sy’n arbed llafur gan ryddhau gweithwyr oddi wrth waith llaw beichus a gadael iddynt fwrw ymlaen â thasgau mwy ystyrlon. Cafwyd un enghraifft o ganlyniad negyddol ym manc Barclays lle’r oedd system monitro cyfrifiadurol newydd wedi tracio’r amser roedd gweithwyr yn ei dreulio wrth eu desgiau ac yn cofnodi am ba hyd roedd defnyddwyr heb fod ar-lein. Yn dilyn yr adwaith gan staff ac ymgyrchwyr dros breifatrwydd, cafwyd gwared â’r system yn fuan wedyn (Comisiwn ar Weithwyr a Thechnoleg, 2020)

Mae’n fater o bwys i bob gweithiwr

Bydd y newid yn natur rolau swyddi o ganlyniad i dechnoleg yn cael effaith ar bob gweithiwr, beth bynnag yw lefel ei sgiliau. Bydd awtomatiaeth, digideiddio a deallusrwydd artiffisial yn effeithio ar swyddi ‘cyffredin’ a swyddi ‘sgiliau uwch’. Er enghraifft, mae pŵer prosesu cynyddol, meddalwedd newydd a’r defnydd o setiau data mawr eisoes yn cael effaith ar alwedigaethau proffesiynol, fel y’u gelwir, fel cyfrifwyr, cyfreithwyr, meddygon ac athrawon. Mae adroddiad Cymru 4.0 yn galw am “trafodaeth genedlaethol gyda dinasyddion ynghylch dyfodol gwaith a’r economi yng Nghymru gyda’r bwriad o annog trafodaeth am yr heriau a’r cyfleoedd a ddaw o ganlyniad i arloesedd digidol (yn cynnwys dylanwad cynyddol AI).”

Mae newid yn digwydd yn gyflymach

Dros y degawd nesaf, rhagwelir y bydd y technolegau newydd hyn yn datblygu ymhellach ac yn cael eu hintegreiddio’n fwy yn economïau’r byd. Mae camau ymlaen mewn roboteg a deallusrwydd artiffisial yn arwain at gyflawni swyddogaethau a oedd gynt yn cael eu hystyried yn rhai ar gyfer pobl yn unig fel ‘llafur emosiynol’; mae robotiaid ar gael eisoes ar ffurf ddynol sy’n gallu darllen mynegiadau’r wyneb a chynnal sgwrs ac yn cael eu defnyddio fel gofalwyr; mae robotiaid eraill yn gallu cyflawni llawdriniaethau, sganio cronfeydd data yn gyflym, e.e. mewn achosion cyfreithiol, rheoli cerbydau awtonomaidd a rhedeg sgwrsfotiaid.

“I arweinwyr busnes, byddai dibynnu ar lafur dynol yn gallu ymddangos bellach yn risg systemig i fusnes, tra gallai fod yn well gan ddefnyddwyr ddechrau cael gwasanaethau llai llafur-ddwys.” (Adroddiad RSA)

Er ei bod yn anodd rhag-weld union natur a chyflymder y newid technolegol dros y degawdau nesaf, ac er y bydd yn amrywio rhwng gwahanol sectorau yn yr economi, mae’r pandemig COVID-19 yn cyflymu’r broses hon. Mewn arolwg ar gyfer Fforwm Economaidd y Byd, “dywedodd 94 y cant o gwmnïau yn y DU eu bod yn cyflymu’r broses o ddigideiddio tasgau o ganlyniad i’r pandemig COVID-19, a dywedodd 57 y cant eu bod yn cyflymu’r broses o awtomeiddio tasgau”. Hyd yn oed mewn diwydiannau sydd wedi arfer dibynnu ar lafur rhad, fel gweithgynhyrchu bwyd, ceir buddsoddi mewn robotiaid bellach yn dilyn her y pandemig.

Mwy o'r TUC