Negodi Gwaith y Dyfodol: Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd

Adroddiad gan y Labour Research Department
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Mae technoleg newydd yn risg ac yn gyfle i weithwyr Cymru
Map: Proportion of jobs at risk from automation by early 2030s
Ffynhonnell: BBC Cymru

… bydd technolegau digidol yn ystod y degawd nesaf yn arwain at ddadleoli a chreu swyddi, ond yr effaith fwyaf fydd ar ein profiad o weithio. Gellir defnyddio technolegau digidol i gynyddu sgiliau a gwella ansawdd swyddi, ond gellir eu defnyddio hefyd i ddatsgilio a dileu swyddi (Cymru 4.0)

Nid yw’n glir eto beth fydd effaith technoleg newydd ar nifer y swyddi yng Nghymru, ac a fydd swyddi newydd yn cael eu creu, ond yr hyn sy’n eglur yw ei fod yn fater sy’n galw am sylw ar frys ac mai dyma’r adeg i weithredu.

Gellid colli hyd at draean o’r swyddi yng Nghymru a dadleoli nifer mawr o swyddi eraill

Mae’r felin drafod Future Advocacy wedi dod i’r casgliad y byddai awtomatiaeth yn gallu cael effaith ddinistriol ar Gymru a bod perygl i tua un o bob tair swydd ddiflannu’n llwyr erbyn y 2030au. Roedd yn rhag-weld, ar gyfer gwahanol sectorau, y gellid colli 46.4% o swyddi gweithgynhyrchu, 32.3% o swyddi cyllid a 44% o swyddi manwerthu a chyfanwerthu ymhen ychydig mwy na degawd. Bydd llai o effaith ar y sectorau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol (17%) ac addysg (8.5%). Roedd yr astudiaeth hefyd wedi dangos bod y 10 cyflogwr preifat mwyaf yng Nghymru yn rhai mewn sectorau lle’r oedd perygl mawr o golli swyddi o ganlyniad i awtomatiaeth ac mai etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy oedd yr un sy’n wynebu’r risg fwyaf yng Nghymru a’r risg bedwaredd fwyaf yn y DU (gweler Ffigur 1).

Fodd bynnag, er bod astudiaethau o’r fath yn bwysig o ran ein hatgoffa am faint y bygythiad posibl i swyddi, ac am y sectorau sy’n debygol o brofi effaith, ni ellir dibynnu arnynt am gywirdeb. Drwy ganolbwyntio ar ‘alwedigaethau’ a’r posibilrwydd iddynt gael eu disodli’n llwyr drwy arloesi technolegol, nid ydynt yn edrych ar y ffactorau sy’n sbarduno newid technolegol yn yr economi ‘go iawn’. Nid yw’r ffaith bod modd awtomeiddio rhywbeth yn golygu y bydd yn cael ei awtomeiddio.

Mae hefyd yn anodd rhag-weld y risg a geir o dechnoleg newydd i dasgau penodol mewn rolau swyddi yn hytrach na galwedigaethau cyfan. Gan mwyaf, mae astudiaethau sy’n canolbwyntio ar yr agwedd hon yn rhag-weld y bydd canran lai o swyddi’n cael eu dileu at ei gilydd, ac mae adroddiad gan yr OECD yn rhag-weld mai dim ond mewn 10% o swyddi yn y DU y bydd yr holl dasgau’n cael eu hawtomeiddio. Er hynny, bydd union natur y broses a welir yn dibynnu ar nifer mawr o ffactorau, fel y gost a’r budd i gyflogwyr.

Yn yr adroddiad Cymru 4.0, ceisiwyd edrych mewn ffordd fwy amlweddog ar yr hyn y mae technoleg newydd yn ei olygu i’r wlad. Mae’n cyd-weld ei bod yn ddigon posibl bod risg fawr i swyddi, ond bod hynny’n amrywio yn ôl y sector: mae “economi Cymru yn cael ei feddiannu gan fusnesau sydd wedi eu clymu i rannau ymylol cadwyni gwerth byd-eang, gyda’u pencadlys, a’u swyddogaethau ymchwil, dylunio a gwybodaeth busnes wedi eu lleoli yn rhywle arall. Mae hynny yn golygu bod y swyddogaethau sydd wedi eu lleoli yng Nghymru yn tueddu i fod yn llai diogel, yn fwy cludadwy, ac yn wynebu mwy o risg o gael eu hawtomeiddio o ganlyniad i hynny.”

Ar y llaw arall, mae’n bosibl bod y ffaith bod cyfran gymharol fawr o weithlu Cymru (o’i gymharu â gweddill y DU) mewn gwasanaethau cyhoeddus yn cynnig rhywfaint o amddiffyniad rhag y bygythiad o awtomatiaeth, yn y tymor byr o leiaf. Hefyd “gallai twf cyflogaeth mewn galwedigaethau yn cynnwys y diwydiannau creadigol, lletygarwch a chwaraeon a ffitrwydd, gael eu gwrthbwyso gan ostyngiad yng nghyfran y gweithlu ym maes gweithgynhyrchu a gwasanaethau ariannol a phroffesiynol (o ganlyniad i ostyngiad mewn swyddi gwasanaethau cwsmeriaid a gweinyddol sydd yn gysylltiedig â Chanolfannau Cyswllt)”

Nid oes sicrwydd y bydd nifer mawr o swyddi newydd yn cael eu creu

Mae nifer o astudiaethau o effaith technoleg newydd yn rhag-weld, er y bydd swyddi’n cael eu dadleoli ar raddfa fawr o ganlyniad i newid technolegol, y ceir cynnydd net yn gyffredinol. Maent yn dadlau y bydd y camau ymlaen mewn technoleg yn dod â chyfleoedd hefyd i greu swyddi sgiliau uwch newydd y bydd eu hangen i weithredu a rheoli unrhyw systemau newydd. Mae astudiaeth gan PWC yn rhag-weld, er y byddai tua 7 miliwn o swyddi presennol yn gallu cael eu dadleoli yn y DU, y gallai tua 7.2 miliwn gael eu creu, sef cynnydd net bach yn nifer y swyddi o tua 0.2 miliwn, er y bydd y newidiadau’n amrywio rhwng sectorau (PWC, 2018).

Fodd bynnag, mae’r adroddiad Cymru 4.0 yn herio’r rhagdybiaeth optimistaidd hon. Mae’n dweud nad oes sicrwydd y bydd swyddi newydd, o ba fath bynnag, yn cael eu creu’n awtomatig gan dechnoleg newydd. Mae’n anodd dod o hyd i dystiolaeth o’r posibilrwydd y bydd meysydd newydd yn datblygu sy’n cynnig nifer mawr o swyddi ac, yn wir, mae’n awgrymu y bydd y rhan fwyaf o’r gyflogaeth newydd yng Nghymru yn ‘swyddi amnewid’ yn y tymor byr a chanolig a hefyd yn nodi bod tuedd anffodus at greu mwy o fathau o gyflogaeth sy’n ansafonol ac o ansawdd gwael.

Cyfle i drawsnewid economi Cymru

Mae’r adroddiad Cymru 4.0 yn cyflwyno nifer o argymhellion polisi a allai sicrhau bod technoleg newydd yn llesol i economi Cymru a gweithwyr Cymru. Y nod yw helpu i droi Cymru’n ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesi digidol. Mae’r argymhellion hyn yn galw am fuddsoddiad cychwynnol o tua £100 miliwn a chydgysylltu gan Lywodraeth Cymru, a hefyd am ddarparu cyfleoedd i bartneriaid cymdeithasol gymryd rhan. Maent yn cynnwys (ymysg eraill):

  • Creu chwe Chlwstwr Arloesedd Diwydiannol (IIC) a phob un â chorff arweiniol dynodedig er mwyn datblygu Trywyddion Trawsnewid Diwydiannol (ITR). Bydd yr ITR yn nodi cryfderau presennol a’r potensial ar gyfer datblygu arloesedd digidol ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
  • Creu sefydliadau a grwpiau polisi newydd fel y rhai a ganlyn:
    • Sefydliad AI ar gyfer Economi’r Dyfodol er mwyn gosod ei hun ar y map byd-eang fel cenedl ddigidol a hwyluso dull mwy integredig o gymhwyso ymchwil arloesol mewn AI ar draws Cymru.
    • Labordy Work@Wales4.0 a fydd yn gweithredu fel adnodd canolog ar gyfer diwydiant, llywodraeth a phartneriaid cymdeithasol er mwyn cael mewnwelediad i dueddiadau i’r dyfodol ynghylch technoleg a’i heffaith ar yr economi a gwaith.
    • Comisiwn Economi’r Dyfodol sydd yn adrodd i Weinidogion Cymru a gydag aelodaeth yn cynnwys arweinwyr busnes rhyngwladol ac arbenigwyr. Dylai’r Comisiwn newydd fod yn gyfrifol am gynghori ar gydlynu, trosolwg a chyflawni Cymru 4.0 a sicrhau bod yr ystyriaethau cenedlaethol yn cynnwys cyfleoedd byd-eang
  • Cymorth integredig a chymorth ariannol ar gyfer y broses drawsnewid ddiwydiannol.
  • Ffocws ar sgiliau: yn cynnwys diwygiadau sydd â’r nod o greu capasiti mewn addysg ôl-orfodol fel y gellir cyflawni’r newid arwyddocaol sydd ei angen wrth baratoi ar gyfer dyfodol gwaith mewn oes o ddysgu gydol oes. Bydd hynny yn cynnwys datblygu Fframwaith Sgiliau newydd i Gymru. Hefyd dylai cyfres o brosiectau creu capasiti gael eu cefnogi a’u hanelu at greu sefydliadau archbrifysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

“Y cwestiwn nawr yw a yw Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid cymdeithasol allweddol yn barod i ‘ddeisyfu’r modd’ yn ogystal â ‘deisyfu’r diben’ er mwyn gwneud i arloesedd digidol ac economi’r dyfodol wirioneddol weithio i bobl Cymru.” (Cymru 4.0)

Beth all undebau ei wneud

“Nid y technolegau eu hunain yw’r broblem; y broblem yw’r sail resymegol dros eu cyflwyno sef, gan mwyaf, yr amcan o leihau costau llafur a gostwng safonau.” (Adroddiad IndustriALL).

Mae’n amlwg, os bydd y camau i gyflwyno technoleg newydd yn cael eu gadael yn llwyr i ‘resymeg y farchnad’, y bydd yn cael ei defnyddio’n bennaf gan gyflogwyr i wneud ‘arbedion effeithlonrwydd’, i leihau costau llafur, ac i ostwng safonau. Gall undebau weithredu nawr drwy wneud y canlynol:

  • Pwyso am fabwysiadu’r argymhellion yn Cymru 4.0,
  • Manteisio ar gyfleoedd mewn partneriaethau cymdeithasol i ddylanwadu ar bolisi strategol ar dechnoleg newydd (gweler y blwch),
  • Cymryd camau yn y gweithle ac ar lefel y cyflogwyr i negodi cytundebau ar dechnoleg newydd a fydd yn diogelu gweithwyr a dod â manteision iddynt (gweler enghreifftiau yng ngweddill yr adroddiad).

BLWCH: Partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru

Mae TUC Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â llywodraeth a chyflogwyr mewn partneriaethau cymdeithasol i sicrhau canlyniadau polisi tecach a gwell i weithwyr ledled Cymru. Y prif ganlyniad i’r gwaith hwn yw’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, a fydd yn cyflwyno dyletswydd partneriaeth gyhoeddus ar gyfer nifer o’r cyrff cyhoeddus yng Nghymru a dyletswydd gwaith teg y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ei chyflawni. Mae hefyd wedi arwain at greu’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, trefniant partneriaeth gymdeithasol traws-sectoraidd sydd wedi cwrdd bob pythefnos yn ystod y pandemig ac a fydd yn cael ei roi ar sail statudol pan fydd y bil yn cael ei wneud yn ddeddf.

Cyngor Partneriaeth y Gweithlu yw’r strwythur partneriaeth gymdeithasol tairochrog ar gyfer undebau llafur, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru sy’n cwmpasu’r gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru a’r fforwm ar gyfer materion y gweithlu ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

Ar gyfer y sector preifat, mae Cyngor Datblygu’r Economi. Mae’n cwrdd dair gwaith y flwyddyn ac mae’n fforwm buddiol o hyd ar gyfer ystyried penderfyniadau polisi pwysig a thueddiadau economaidd. Er hynny, yn fwy cyffredinol, mae gwaith partneriaeth gymdeithasol yn y sector preifat yn llawer mwy anghyson ac ymestynnol mewn perthynas â rhai meysydd polisi. Yn aml, bydd lefel y presenoldeb gan undebau mewn sector penodol yn arwydd o faint y sylw a roddir i’r gweithlu gan lywodraeth tra bydden ni’n dadlau y dylai fod fel arall – mae gweithwyr sydd heb fod yn aelodau o undebau’n fwy agored i niwed oherwydd hynny. 

Prin yw’r cytundebau a wnaed hyd yma ond maent yn dangos beth ellir ei ennill

Mae pob undeb yn y DU yn rhoi sylw cynyddol i dechnoleg newydd ar ei agenda er nad yw’n ymddangos, hyd yma, fod fawr ddim cydfargeinio wedi dechrau ar y mater hwn yn benodol yn y DU. Rhai eithriadau i hyn yw’r cytundebau a wnaeth CWU â Grŵp y Post Brenhinol, a’r cynnydd ar wneud cytundebau gan gynrychiolwyr Unite mewn nifer o sectorau, wedi i’r undeb bwyso ar weithwyr i ymgyrchu ar y mater hwn (gweler yr enghraifft isod).

Y tu allan i’r DU, mae rhagor o enghreifftiau o undebau’n negodi mewn perthynas â thechnoleg newydd – un o’r enghreifftiau pwysicaf yw’r cytundeb Arbeit 4.0 a wnaeth undeb trafnidiaeth yr EVG yn yr Almaen â Grŵp Deutsche-Bahn (DB AG) a fydd yn cael sylw helaeth fel enghraifft yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, prin iawn yw’r cydgytundebau a wnaed hyd yma. Y rheswm am hyn yw bod y pwnc hwn yn un sy’n datblygu o hyd a bod undebau hefyd wedi bod yn brysur yn delio â chanlyniadau’r pandemig.

Mae nifer o undebau yn y DU sydd â chytundebau o’r gorffennol y gellid troi atynt i ddelio ag effaith technoleg newydd, fel y rheini sy’n darparu ar gyfer ymgynghori ynghylch unrhyw newidiadau mawr yn y gweithle fel ailstrwythuro neu gyflwyno cyfarpar newydd. Er enghraifft, mae’r cytundebau sydd gan rai awdurdodau lleol yn cynnwys cymalau ynghylch cyflwyno cyfrifiaduron sy’n dyddio o’r 1980au. Mae hefyd yn bosibl bod rhai cytundebau ar ‘ailstrwythuro trefniadol’ yn cynnwys cymalau ynghylch ‘dim diswyddo gorfodol’ a/neu adleoli gweithwyr ac y bydd y rhain yn gallu amddiffyn gweithwyr i ryw raddau rhag unrhyw newidiadau a ysgogwyd gan dechnoleg.

Fodd bynnag, oherwydd maint a natur y newidiadau technolegol sydd ar y ffordd, a’r ffaith bod carfanau pwerus yn annog eu cyflwyno’n gyflymach wrth i ni ddod i’r cyfnod ‘ymadfer’ ar ôl y pandemig, mae’n bosibl, os oes cytundebau a/neu bwyllgorau ymgynghorol sydd eisoes ar waith, na fyddant yn ddigon manwl neu’n ddigon cynhwysfawr i ddiogelu buddiannau aelodau a/neu ddarparu ar eu cyfer yn ddigonol wrth i’r newid gyflymu.

Yng ngweddill yr adroddiad hwn, edrychir ar y cytundebau sydd eisoes wedi’u gwneud a thynnir sylw swyddogion a chynrychiolwyr at y prif themâu y bydd angen iddynt eu hystyried wrth baratoi i ddechrau negodi neu drafod â chyflogwyr ynghylch technoleg newydd. Y rhain yw:

  1. Cychwyn sgwrs ag aelodau
  2. Sicrhau llais i’r gweithiwr
  3. Gosod safonau ynghylch ansawdd gwaith
  4. Diogelu swyddi
  5. Ailgyfeirio ac ailsgilio
  6. Gwell telerau ac amodau
  7. Diogelu data gweithwyr
  8. Gweithio o bell
Mwy o'r TUC