Rheoli newid yn y gweithle yn y sector cyhoeddus
Weithiau mae cyrff cyhoeddus yn penderfynu bod angen iddynt newid gwasanaethau cyhoeddus. Yn aml, mae hyn yn cael effaith ar gyflogau, telerau ac amodau gweithwyr. Pan fo cyllid cyhoeddus yn gyfyngedig, gwneir penderfyniadau i dorri gwasanaethau, a all arwain at newidiadau mawr mewn gwasanaethau a'r gweithle. Gall newidiadau arwain at ddiswyddiadau a newidiadau i'r telerau ac amodau.
Er mwyn sicrhau bod gan weithwyr ac undebau lais cryf cyn i newidiadau o'r fath ddigwydd, negododd TUC Cymru ac undebau'r sector cyhoeddus y cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid.
12 Dec 2023