Mae’r canllaw hwn wedi’i anelu at gynrychiolwyr gwyrdd neu amgylcheddol undebau llafur, ac at gynrychiolwyr eraill sydd eisiau gweithio gyda chyflogwyr ac aelodau i leihau effaith amgylcheddol eu sefydliad drwy leihau gwastraff a gwella effeithlonrwydd adnoddau.
Yn y canllaw hwn, mae’r term ‘effeithlonrwydd adnoddau’ yn cyfeirio at ddefnyddio adnoddau cyfyngedig y blaned mewn ffordd gynaliadwy, gan leihau’r effeithiau ar bobl a’r amgylchedd.
Mae echdynnu adnoddau’r byd yn gyfrifol am bron i hanner yr allyriadau carbon a thua 80% o golli bioamrywiaeth. Erbyn hyn, mae adnoddau’n cael eu hechdynnu o’r blaned dair gwaith yn gyflymach nag ym 1970. Mae hyn er gwaethaf y ffaith mai dim ond wedi dyblu y mae’r boblogaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.
Oherwydd y cynnydd yn y defnydd a’r galw, rydym yn echdynnu adnoddau’r byd yn gyflymach nag y gellir eu hadfer, ac mae rhai o’r adnoddau hynny mewn perygl o ddisbyddu. Mae gwastraff a llygredd yn cael eu rhyddhau’n gyflymach nag y gall y blaned eu hamsugno neu eu dadelfennu i rywbeth diniwed.
Mater i ni fel undebwyr llafur yw hwn, gan nad yw’n cydweddu â datblygu cynaliadwy. Mae hefyd yn fater sy’n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol. Mae llawer o sôn bod y gwledydd mwy datblygedig yn economaidd yn rhan ogleddol y byd yn defnyddio llawer mwy o adnoddau’r byd na gwledydd yn rhan ddeheuol y byd.
Drwy ddefnyddio gormod o adnoddau ac oherwydd y gwastraff sy’n cael ei gynhyrchu, mae hyn hefyd yn creu problemau iechyd a diogelwch i weithwyr a’r gymuned ehangach yn y wlad hon a thramor. Er enghraifft, mae cynhyrchu gliniaduron yn gofyn am echdynnu mwynau prin o’r ddaear, ac mae llawer iawn o wastraff electronig gwenwynig yn cael ei gludo i’r rhan ddeheuol o’r byd bob blwyddyn gan achosi difrod i iechyd pobl ac i ecosystemau.
Mae angen gweithredu ar frys i wella effeithlonrwydd adnoddau a lleihau gwastraff i’n helpu i gadw o fewn ‘ffiniau’r blaned’. Gall hyn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a chefnogi’r broses datblygu cynaliadwy i bawb.
Mae economi gylchol yn sicrhau bod adnoddau yn parhau i gael eu defnyddio cyn hired â phosibl, ac mae’n osgoi gwastraff. Mae’n fodel gwahanol i’r economi ‘linol’ draddodiadol. Mae hyn yn seiliedig ar echdynnu adnoddau i wneud cynhyrchion sy’n cael eu defnyddio ac sydd wedyn yn cael eu gwaredu – y model ‘cymryd-gwneud-defnyddio-gwaredu’.
Mae’r economi gylchol yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n byw ar blaned gydag adnoddau cyfyngedig. Mewn model llinol, gwastraff yw’r cam olaf. Ond yn y model cylchol, mae gwastraff yn ddechrau newydd lle mae modd adfer cynnyrch neu ddeunydd a’i atgynhyrchu ar gyfer cylch arall. Mae hyn yn creu dolen gaeedig, gan gadw adnoddau mewn defnydd am gyn hired â phosibl.
Mae’n system sy’n tynnu’r gwerth mwyaf o gynnyrch ac adnoddau tra byddant yn cael eu defnyddio. Mae economi gylchol hefyd yn cynnig cyfleoedd i gynyddu gwerth defnyddio cynnyrch drwy fodelau perchnogaeth gwahanol, fel rhannu, rhentu a defnyddio modelau sy’n seiliedig ar wasanaethau.
Mae sefydliad Ellen Macarthur wedi cynhyrchu fideo byr yn esbonio hanfodion yr economi gylchol
Dim gwastraff?
Ystyr y term dim gwastraff yw nad oes unrhyw wastraff gweddilliol yn mynd i safleoedd tirlenwi, a bod popeth naill ai’n cael ei ailddefnyddio neu ei ailgylchu. Mae proses dim gwastraff yn ceisio cael gwared ar wastraff yn hytrach na dim ond ei reoli.
Mae adroddiad gan Sefydliad Ellen Macarthur yn dangos pam mae angen trawsnewid y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn defnyddio nwyddau er mwyn cyrraedd targedau hinsawdd. Canfu’r adroddiad y gallai strategaethau economi gylchol chwarae rhan allweddol, ac y gallai’r strategaethau hynny leihau ‘allyriadau CO2 byd-eang o ddeunyddiau allweddol y diwydiant 40% neu 3.7 biliwn tunnell yn 2050’.
“Mae’r economi gylchol yn mynd i’r afael â newid hinsawdd a heriau byd-eang eraill, fel colli bioamrywiaeth, gwastraff a llygredd, drwy ddatgysylltu gweithgarwch economaidd oddi wrth y broses o ddefnyddio adnoddau cyfyngedig.” (Sefydliad Ellen McArthur)
Yn ogystal â helpu’r hinsawdd, bydd y broses o gael gwared ar wastraff yn dod â manteision enfawr i fyd natur a bywyd gwyllt. Er enghraifft, bydd y broses o gael gwared ar wastraff plastig yn helpu i leihau llygredd plastig mewn cefnforoedd a’i effaith ar anifeiliaid morol.
Gallai’r economi gylchol hefyd gynnig swyddi gwyrdd newydd mewn cadwyni cyflenwi lleol. Bydd angen llawer o swyddi i gefnogi’r prosesau adnewyddu, ailweithgynhyrchu, gwasanaethu ac atgyweirio. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Garbon, mae economi gylchol yn cynnig cyfleoedd gwych i greu swyddi gan fod y model economaidd cylchol yn canolbwyntio ar echdynnu mwy o werth o adnoddau, ac mae’n agor cyfleoedd newydd ar draws dolenni deunyddiau a chynhyrchion sydd ddim yn bodoli mewn modelau llinol a modelau sy’n creu gwastraff.
Mae’n bwysig cael trawsnewid cyfiawn i economi gylchol. Rhaid i undebau llafur gael llais mewn newidiadau ar lefel genedlaethol, ar lefel sectorau ac ar lefel y gweithle. Mae gan bartneriaeth gymdeithasol rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod y newid i economi gylchol yn digwydd yn deg, a bod y swyddi newydd sy’n cael eu creu yn cyrraedd safonau gwaith teg.
Gweithwyr yn yr economi gylchol
Mae Ffederasiwn Undebau Gwasanaethau Cyhoeddus Ewrop (EPSU) wedi llunio adnoddau sy’n llwyddo i ddangos rôl hanfodol gweithwyr o ran darparu’r economi gylchol. Dywed y Ffederasiwn Undebau Gwasanaethau Cyhoeddus Ewrop, “Un o’r prif bryderon yw bod angen i ni sicrhau swyddi o safon gyda chyflogau ac amodau teilwng, safonau iechyd a diogelwch uchel, brwydro yn erbyn llafur rhad a datblygu deialog gymdeithasol.”
Pwysleisir y pryderon hyn mewn cyfres o adroddiadau gan yr EPSU ar Swyddi Diogel yn yr Economi Gylchol ac ar Economi Gylchol yn y sector rheoli gwastraff:
www.epsu.org/article/safe-jobs-circular-economy-new-epsu-report
www.epsu.org/article/will-circular-economy-be-economy-no-workers-new-study-published
Mewn llawer o weithleoedd, mae cynnydd sylweddol o ran effeithlonrwydd adnoddau, ailgylchu a lleihau gwastraff, ond mae rhai heriau sylweddol o hyd. Er enghraifft, mae llawer iawn o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn dal i gael eu dadelfennu fel rhan o’r ffrwd gwastraff gweddilliol, neu’n cael eu cymysgu â gwastraff arall y gellir ei ailgylchu. Mae hyn yn lleihau ansawdd a maint y deunydd y gellir ei ailgylchu.
Dyma beth oedd yr arolwg o wastraff diwydiannol a masnachol gan Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i ganfod:
O’r ffigwr hwn, roedd:
Mae Llywodraeth Cymru am i Gymru ddod yn genedl ‘un blaned’, dim gwastraff erbyn 2050 drwy drawsnewid i economi gylchol. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cynlluniau ar sut mae’n bwriadu cyflawni hyn yn ei strategaeth Economi Gylchol: https://www.llyw.cymru/mwy-nag-ailgylchu
Bydd cyfraniad yr undebau yn hanfodol er mwyn symud Cymru tuag at yr economi gylchol. Gall gweithwyr ar lawr gwlad fod yn un o’r ffynonellau gorau ar gyfer syniadau er mwyn canfod ffyrdd o leihau gwastraff diangen. Mae ganddyn nhw syniadau hefyd am ffyrdd y gellid dylunio cynnyrch yn well i gefnogi’r prosesau atgyweirio ac ailddefnyddio. Mae’n bwysig bod gweithwyr yn cymryd rhan mewn unrhyw gynlluniau newydd er mwyn iddyn nhw fod yn gallu rhannu syniadau a helpu i nodi materion.
Mae Cymru eisoes yn arweinydd byd-eang ym maes ailgylchu. Ond mae’r strategaeth yn nodi sut bydd y broses o symud i economi gylchol yn golygu bod Cymru’n gwneud ‘mwy nag ailgylchu’ ac yn datblygu meddylfryd gwahanol. Er y bydd gan ailgylchu rôl bwysig o hyd, mae’n llai arwyddocaol mewn economi gylchol. Bydd llai o bwyslais ar ailgylchu, a mwy o ffocws ar atal gwastraff wrth ddylunio. Bydd mwy o gynhyrchion yn cael eu hatgyweirio a’u hailddefnyddio, fel bod modd eu defnyddio am gyfnod hirach.
Mae strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru yn nodi amserlen fesul cam o dargedau uchelgeisiol:
Erbyn 2025
Erbyn 2030
Erbyn 2050
(Sylwch: Pennir yr holl dargedau lleihau gwastraff yn erbyn gwaelodlin 2006-07)
Ffynhonnell: Mwy nag Ailgylchu
Bydd rheoliadau newydd ar gyfer ailgylchu yn y gweithle yn dod i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2024. Mae’r rheoliadau hyn wedi’u cyflwyno o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, ac maent yn mynnu bod pob gweithle yng Nghymru yn gwahanu deunyddiau allweddol y gellir eu hailgylchu (gan gynnwys gwastraff bwyd) yn y ffordd y mae’r rhan fwyaf o aelwydydd yng Nghymru eisoes yn ei wneud.
Daeth Cam 1 y gwaharddiad ar blastig untro i rym yng Nghymru ar 30 Hydref 2023. Mae hyn yn gwahardd y broses o gyflenwi rhai eitemau plastig untro i ddefnyddwyr, fel platiau plastig a chyllyll a ffyrc. Mae Cam 2 y gwaharddiad - sy’n ymdrin â mathau ychwanegol o blastig untro - i fod i gael ei gyflwyno yn 2026.
Mae’r hierarchaeth gwastraff yn sail i’r fframwaith cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n rheoli sut y dylai sefydliadau atal a rheoli gwastraff. Mae’n ofynnol i bob sefydliad ddefnyddio’r hierarchaeth gwastraff drwy gydol eu gweithrediadau.
Yn hollbwysig, mae’r hierarchaeth yn gosod camau gweithredu yn nhrefn blaenoriaeth. Mae’n blaenoriaethu atal ac ailddefnyddio cyn ailgylchu, a gwaredu yn ddewis olaf. Mae canllawiau ar ddefnyddio’r hierarchaeth gwastraff ar gael yma: llyw.cymru/arweiniad-ynghylch-gweithredur-hierarchiaeth-gwastraff-canllaw
Source: https://businesswales.gov.wales/managing-waste
Daw’r ddyletswydd i ddilyn yr hierarchaeth gwastraff o Reoliadau Gwastraff 2011, ac mae’n berthnasol i bob sefydliad yng Nghymru a Lloegr. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno llawer o reoliadau newydd ar gyfer sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys y rheoliadau newydd ar gyfer gwahanu gwastraff. Mae rheoliadau ychwanegol sy’n berthnasol i fathau penodol o wastraff hefyd, e.e. Rheoliadau Gwastraff Peryglus 2005.
Gall sefydliadau gael rhagor o wybodaeth am eu rhwymedigaethau cyfreithiol i reoli gwastraff yma: https://businesswales.gov.wales/cy/pynciau-a-chyfarwyddyd/cynaliadwyedd-a-chyfrifoldeb-cymdeithasol/effeithlonrwydd-adnoddau/gwastraff/rheoli-gwastraff
Mae cysylltiad agos rhwng problemau gwastraff a llygredd. Yng nghyfraith y DU, diffinnir llygredd fel halogi tir, dŵr neu aer gan sylweddau niweidiol, neu sylweddau a allai fod yn niweidiol. Yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ yw’r sail ar gyfer rheoleiddio llygredd.
Yr egwyddor ‘y llygrwr sy’n talu’ yw’r cysyniad y dylai’r rhai sy’n cynhyrchu llygredd dalu’r costau o’i reoli i atal difrod i iechyd pobl neu i’r amgylchedd. Sefydlwyd yr egwyddor fel ymarfer a oedd yn cael ei dderbyn yn gyffredinol mewn sawl system cyfreithiol mewn sawl gwlad ar ôl ei chynnwys yn Natganiad Rio (1992).
Dylai sefydliadau fod yn ymwybodol o’u rhwymedigaethau cyfreithiol i atal llygredd, a sicrhau bod mesurau priodol ar waith. Mae canllawiau ar atal llygredd a rhwymedigaethau cyfreithiol ar gyfer sefydliadau yng Nghymru ar gael yma: https://www.netregs.org.uk/media/1898/guidance-for-pollution-prevention-1-2022-update.pdf
Mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan gwmpas Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol weithredu yn unol â’r ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’. Mae hyn yn ymwneud â sicrhau y gallwn ni ddiwallu anghenion pobl yn y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae hyn yn golygu y dylai’r cyrff cyhoeddus hyn fod yn ystyried effaith amgylcheddol a chymdeithasol pethau fel defnydd y sefydliad o adnoddau, a’r gwastraff a’r llygredd sy’n gysylltiedig â’i weithgareddau, wrth osod a chyflawni eu nodau o ran llesiant.
Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (2023) newydd yn gosod dyletswydd statudol ar y cyrff cyhoeddus hyn i geisio consensws neu gyfaddawd gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig, neu gynrychiolwyr eraill eu staff os nad oes ganddynt undeb llafur cydnabyddedig, pan fyddant yn pennu eu hamcanion llesiant ac yn cyflawni’r amcanion hynny.
Rhaid i’r cyrff cyhoeddus hyn ystyried ‘gwaith teg’ hefyd wrth bennu eu hamcanion llesiant. Mae’r Ddeddf hefyd yn cynnwys dyletswydd statudol ar y cyrff cyhoeddus hyn i ystyried caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.
Mae’r ddwy ddeddfwriaeth yma’n rhoi cyfle i undebau gael llais cryf wrth ddylanwadu ar sut mae sefydliadau’n rheoli’r defnydd o adnoddau mewn ffordd sy’n gyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol, ac mewn ffordd sy’n cefnogi ‘trawsnewid cyfiawn’.
Gall sefydliadau weithredu system rheoli amgylcheddol (EMS) i wella effeithlonrwydd adnoddau, lleihau effaith amgylcheddol, egluro cyfrifoldebau a sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am wahanol systemau EMS ar gael yn y pecyn cymorth Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn. Safon Ryngwladol ISO 140001, Cynllun Rheoli Amgylcheddol ac Archwilio’r EC (EMAS) neu'r Safon Brydeinig (BS 8555) yw rhai enghreifftiau o'r systemau sydd ar gael. Mae rhai sefydliadau wedi datblygu eu systemau mewnol eu hunain.
Mae hefyd rhai cynlluniau penodol i’r sector sy’n hyrwyddo arferion gorau yn y sector, fel Ymrwymiad Courtauld yn y sector bwyd a diod.
Mae asesiadau cylch bywyd yn adnodd pwysig i frwydro yn erbyn gwastraff, newid hinsawdd, dadfeiliad natur a gorddefnyddio adnoddau, oherwydd eu bod yn ystyried pob cam o fywyd cynnyrch, gan gynnwys y cam ‘diwedd oes’. Mae hyn yn dangos gwir gost deunyddiau, cynnyrch a gwasanaethau o ran eu heffaith ar bobl ac ar y blaned.
Mae popeth sy’n cael ei greu yn mynd drwy gyfres o gamau ‘cylch bywyd’, o echdynnu deunyddiau, gweithgynhyrchu, pecynnu a thrafnidiaeth, hyd at ddiwedd oes. Mae asesiad cylch bywyd yn adnodd y gellir ei ddefnyddio i helpu i asesu a deall gwir ôl troed amgylcheddol rhywbeth ar bob cam. Mae’n ystyried meysydd fel defnyddio adnoddau cyfyngedig, defnydd tir a dŵr, allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwenwyndra dynol.
Gofynnir fwyfwy i sawl sefydliad ddarparu asesiadau cylch bywyd ar gyfer eu cynnyrch. Mae cwmnïau mawr a sefydliadau sector cyhoeddus yn cynnwys rhagor o gwestiynau am asesiadau cylch bywyd fel rhan o brosesau caffael neu dendro, a hynny fel rhan o ymdrechion i wella cynaliadwyedd amgylcheddol drwy gadwyni cyflenwi.
Mae llawer o sefydliadau yn cynnig asesiadau cylch bywyd. Mae Safon Ryngwladol ISO 14040 yn rheoli arferion asesiadau cylch bywyd ac yn nodi’r hyn sy’n cael ei ystyried yn asesiad da.
Mae rhagor o wybodaeth am asesiadau cylch bywyd ar gael ar y Llwyfan Ewropeaidd ar Asesiadau Cylch Bywyd. Mae’r Life Cycle Initiative yn raglen sy’n cael ei chynnal gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig, ac mae ganddi wefan ddefnyddiol www.lifecycleinitiative.org
Mae archwiliad o’r symiau a’r gwahanol fathau o wastraff ac ailgylchu yn fan cychwyn da ar gyfer gweithredu yn y gweithle. Dyma’r ffordd orau o ddeall lle mae’r problemau ac o nodi meysydd i wella’r problemau hynny. Mae gan WRAP Ganllaw i Fusnesau ar gyfer Archwilio Gwastraff.
Bydd yn bwysig canfod pwy yn y sefydliad sy’n gyfrifol am reoli gwastraff ac, yn ddelfrydol, sicrhau eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i sefydlu archwiliad. Bydd archwiliad yn golygu eich bod yn gallu arbed costau posibl o ran costau gwaredu gwastraff, gan gyflwyno achos busnes dros newid.
Gweler yr adran hierarchaeth gwastraff (uchod). Y cam allweddol yw canolbwyntio’n gyntaf ar atal. Man cychwyn da yw ystyried ffyrdd o leihau faint o adnoddau y mae eich gweithle yn eu defnyddio yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i nodi meysydd lle gellir gwneud y newidiadau mwyaf effeithiol a nodi cyfleoedd i wella arferion presennol. Bydd hyn yn arbennig o wir os bydd yr archwiliad yn canfod bod deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn dal i gael eu gwaredu fel rhan o’r ffrwd gwastraff gweddilliol, neu’n cael eu cymysgu â gwastraff arall y gellir ei ailgylchu.
Mae’n bosibl y bydd rhagor o gyfleoedd i leihau neu gael gwared ar y defnydd o gynnyrch a deunyddiau sy’n anodd eu hailgylchu. Neu leihau’r angen i anfon eitemau i’w hailgylchu drwy gyflwyno eitemau y gellir eu hailddefnyddio.
Mae adolygu caffael yn gam allweddol tuag at atal gwastraff. A oes gan y sefydliad bolisi caffael amgylcheddol gynaliadwy?
Sut gall y sefydliad weithio gyda chyflenwyr i wneud gwelliannau – ee caffael cynnyrch sy’n defnyddio llai o ddeunydd pecynnu a nwyddau y gellir eu hailddefnyddio a’u hatgyweirio, a defnyddio mwy o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau y gellir eu hailgylchu?
Os nad oes modd defnyddio deunyddiau eildro neu wedi’u hailgylchu, a yw unrhyw ddeunyddiau newydd sy’n cael eu defnyddio yn bodloni safonau i leihau’r effeithiau amgylcheddol, e.e. pren ardystiedig FSC?
Mae sicrhau bod gwybodaeth am asesiadau cylch bywyd yn cael ei chasglu a’i defnyddio i lywio penderfyniadau caffael yn gam allweddol. Dylai ystyriaethau caffael cynaliadwy a moesegol (e.e. gwaith teg) gael eu cysylltu’n agos ag unrhyw bolisi caffael.
Sut mae’r sefydliad yn asesu effaith amgylcheddol ei gynnyrch ei hun?
Gellid ystyried sawl mater. A yw’n defnyddio asesiadau cylch bywyd?
A yw’n defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu a deunyddiau y gellir eu hailgylchu, lle bo hynny’n bosibl?
A yw’n cynnig atgyweirio/ailweithgynhyrchu?
A yw wedi ystyried cynnig modelau amgen, fel cydberchnogaeth neu fodelau sy’n seiliedig ar wasanaeth?
A yw’r labeli a’r wybodaeth am sut i ailgylchu’r cynnyrch yn bodloni’r arferion gorau?
Rhannwch ganfyddiadau eich archwiliad, dysgwch beth yw’r problemau gyda systemau ar gyfer staff a ble maen nhw’n credu y gellir gwneud gwelliannau.
Yn aml, mae llawer o gefnogaeth i fesurau i leihau gwastraff. Ond, mae’n allweddol cyfathrebu a sicrhau bod pobl yn deall y newidiadau , yn ogystal â bod y systemau a’r cymorth cywir ar waith er mwyn sicrhau bod y broses o leihau gwastraff yn gweithio’n ymarferol.
Defnyddiwch ganfyddiadau eich archwiliad a’ch ymgynghoriad ag aelodau ac eraill i wneud cynllun i leihau gwastraff a rheoli adnoddau’n well. Bydd y canfyddiadau hyn yn eich helpu i nodi’r camau gweithredu sy’n cael yr effaith fwyaf.
Mae’n bosibl y bydd rhwystrau sylweddol i sicrhau dim gwastraff yn y dyfodol agos. Ond dull defnyddiol yw canolbwyntio ar dargedau dros dro ac ar y camau gweithredu sy’n cael yr effaith fwyaf yn y tymor byr i adeiladu momentwm, gyda’r nod hirdymor o sicrhau dim gwastraff.
A yw’r cyflogwr yn bwriadu darparu unrhyw hyfforddiant neu godi ymwybyddiaeth i gefnogi cynlluniau newydd?
Dylid darparu hyfforddiant i sicrhau bod aelodau’n ymwybodol o unrhyw weithdrefnau newydd, a’u bod yn deall sut i wahanu gwastraff yn effeithiol a pham mae angen gweithredu i leihau gwastraff.
Drwy leihau gwastraff, mae hyn yn cynhyrchu arbedion yn ystod y cam caffael a’r cam gwaredu (e.e. osgoi treth tirlenwi). Mae gan WRAP gyfrifiannell syml ar-lein: businessofrecycling.wrap.org.uk/calculator a all helpu sefydliadau i gael amcangyfrifiad bras o faint y gallan nhw ei arbed drwy wella dulliau atal gwastraff, a gweld pa mor dda maen nhw’n perfformio yn erbyn yr hierarchaeth gwastraff.
Nid cost deunyddiau sy’n cael eu gwaredu yn unig yw gwir gost gwastraff – mae’n cynnwys defnydd aneffeithlon o ddeunyddiau crai, defnydd diangen o ynni a dŵr, cynhyrchion diffygiol, gwaredu gwastraff o sgil-gynhyrchion, trin gwastraff a gwastraffu ymdrech. Drwy reoli adnoddau’n well, gall hyn greu arbedion ar draws yr holl feysydd hyn.
Mae grŵp Aldersgate wedi cyhoeddi adroddiad ar dreialon busnes newydd sy’n dangos y gallai defnyddio adnoddau’n fwy effeithlon arwain at fanteision economaidd sylweddol i fusnesau.
Gall symud i fodel cylchol helpu i agor ffynonellau incwm newydd, sy'n llai dibynnol ar werthu cynnyrch yn unig. Er enghraifft, agor modelau sy’n seiliedig ar wasanaeth ac sy’n gysylltiedig â chynyddu gwerth adnoddau.
Drwy alinio â’r model cylchol, mae hyn yn debygol o roi mantais gystadleuol i sefydliadau yn y tymor hir. Er enghraifft, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae cyrff cyhoeddus yn symud tuag at arferion caffael gwyrddach, ac mae llawer o sefydliadau eraill yn edrych fwyfwy ar wella caffael.
Tynnwyd sylw at wendidau cadwyni cyflenwi llinol a hir gan sawl sefydliad a oedd wedi gweld eu cyflenwadau’n gostwng yn ystod y pandemig. Gall cadwyn gyflenwi gylchol, fwy lleol helpu i leihau’r gwendidau hyn. Drwy ddod yn rhan o’r economi gylchol, gall hyn hefyd roi sefydliadau mewn sefyllfa i fynd i’r afael â materion sy’n dod i’r amlwg o ran diogelwch adnoddau/prinder yn y dyfodol.
Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a llygredd drwy leihau gwastraff yw’r peth iawn i’w wneud. Mae’n gyfraniad allweddol y gall sefydliadau ei wneud tuag at fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur, a diogelu adnoddau cyfyngedig y byd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r materion hyn hefyd yn bwysig i gwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau. Felly drwy fod yn rhagweithiol, mae hyn yn golygu mwy na dim ond sicrhau cydymffurfiaeth gyfreithiol a rheoleiddiol. Gall hyn gael effaith gadarnhaol ar enw da sefydliad.
Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ar gyflogwyr i baratoi ar gyfer rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru ar ailgylchu yn y gweithle a phlastig untro, a chydymffurfio â’r rheoliadau hynny. Neu mae’n bosibl y bydd angen cyngor arnynt ar sut i wella effeithlonrwydd adnoddau a symud tuag at arferion economi gylchol. Gall sefydliadau fel Busnes Cymru a WRAP Cymru ddarparu gwybodaeth a chyngor.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyllid economi gylchol i gefnogi sefydliadau i bontio i’r economi gylchol. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ac am amodau cymhwysedd ar gael yma: https://businesswales.gov.wales/innovation/cy/y-cymorth-ar-arian/cyllid-yr-economi-gylchol
Mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol mewn rheoli adnoddau/gwastraff ac maen nhw’n ffynhonnell bwysig o gyngor a gwybodaeth.
Mae Busnes Cymru yn wasanaeth am ddim sy’n rhoi cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy’n dechrau, rhedeg a thyfu busnes yng Nghymru: businesswales.gov.wales/cy
Mae angen gweithredu ar frys ar wastraff bwyd. Mae gwastraff bwyd yn achosi effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol enfawr.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif bod tua thraean o fwyd y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu, a bod y broses o gynhyrchu’r bwyd sy’n cael ei wastraffu yn cyfrannu at 8% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae hynny’n fwy na’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu gan unrhyw wlad unigol, ac eithrio’r Unol Daleithiau a Tsieina.
Mae gwastraff bwyd yn rhyddhau methan, sef math cryf o nwy tŷ gwydr. Ond nid dyna’r unig broblem. Mae taflu bwyd hefyd yn golygu bod yr holl adnoddau sydd wedi cael eu defnyddio i’w gynhyrchu wedi cael eu gwastraffu. Gall hyn gynnwys pethau fel y dŵr a’r tir sydd wedi cael eu defnyddio, yn ogystal â thrafnidiaeth a phecynnu.
Mae ymchwil wedi canfod nad yw Mae teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £700 a mwy o fwyd bob blwyddyn..
Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd yn digwydd gartref, ond mae’n broblem mewn gweithleoedd hefyd. Ac mae pethau fel oriau gwaith hir, gwaith shifft, teithiau hir a chydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith yn gallu cael effaith ganlyniadol ar wastraff bwyd gartref.
Oherwydd gall hyn olygu nad oes gan bobl ddigon o amser i gynllunio a pharatoi prydau bwyd a lleihau gwastraff. Mae teulu cyffredin yn gwastraffu gwerth £700 a mwy o fwyd bob blwyddyn.
Effeithiau o ran dewis bwyd
Yn ogystal â’r bwyd rydym yn ei wastraffu, mae’r mathau o fwyd rydym yn dewis ei fwyta yn gallu cael effaith fawr ar yr amgylchedd hefyd. Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain wedi llunio taflen ffeithiau ddefnyddiol am ddeietau cynaliadwy, ac mae ganddi restr ddefnyddiol o awgrymiadau cyflym ar sut i ddechrau arni.
A oes gan eich gweithle ffreutur, neu a oes modd trefnu digwyddiadau gyda gwasanaeth arlwyo? Gallai fod cyfleoedd i wneud gwahaniaeth drwy gynnwys dewisiadau mwy cynaliadwy wrth gynnig bwydydd.
Mae gan yr ymgyrch The Wasting Food: It’s out of date a www.lovefoodhatewaste.com adnoddau sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth gydag unigolion
Mae gan WRAP gyfres o adnoddau am ddim ar atal gwastraff bwyd yn y gweithle: wrap.org.uk/taking-action/food-drink/actions/action-on-food-waste
Mae gan WRAP Cymru becyn cymorth ‘Map Llwybr Gwastraff Bwyd’ newydd sydd wedi’i anelu at sefydliadau yn y sector bwyd a diod