Rheoli newid yn y gweithle yn y sector cyhoeddus

Canllaw cyflym i gynrychiolwyr
Awdur
Ceri Williams
Policy officer - Wales TUC
Math o adroddiad
Research and reports
Dyddiad cyhoeddi
Prif Bwyntiau

Weithiau mae cyrff cyhoeddus yn penderfynu bod angen iddynt newid gwasanaethau cyhoeddus.  Yn aml, mae hyn yn cael effaith ar gyflogau, telerau ac amodau gweithwyr.

Pan fo cyllid cyhoeddus yn gyfyngedig, gwneir penderfyniadau i dorri gwasanaethau, a all arwain at newidiadau mawr mewn gwasanaethau a'r gweithle.  Gall newidiadau arwain at ddiswyddiadau a newidiadau i'r telerau ac amodau.

Er mwyn sicrhau bod gan weithwyr ac undebau lais cryf cyn i newidiadau o'r fath ddigwydd, negododd TUC Cymru ac undebau'r sector cyhoeddus y cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid.

Beth yw Partneriaeth a Rheoli Newid?

Mae Partneriaeth a Rheoli Newid yn gytundeb cenedlaethol rhwng undebau, cyrff cyhoeddus datganoledig a Llywodraeth Cymru.  Mae'n golygu bod gan gynrychiolwyr ac undebau yr hawl i ymgynghori ar newidiadau sy'n effeithio ar eich aelodau.

Dyma'r pedair egwyddor ar gyfer rheoli newid y mae'n rhaid i gyflogwyr ac undebau yn y cyrff cyhoeddus datganoledig lynu wrthynt.  Cyfeirir at gyflogwyr ac undebau ar y cyd fel y 'partneriaid cymdeithasol' drwy gydol y cytundeb.

Egwyddorion

1. Rhaid i gyflogwyr wneud pob ymdrech i gadw pobl mewn swyddi da

Dywed y cytundeb:

“Bydd yr holl Bartneriaid Cymdeithasol yn gwneud eu gorau i sicrhau parhad cyflogaeth. Gall newid achosi ansicrwydd mawr i staff. Mae’r Partneriaid Cymdeithasol yn cytuno bod parhad cyflogaeth yn elfen bwysig o’r broses newid. Fodd bynnag, ni ddylai newid gael ei ystyried yn rhwystr rhag parhad cyflogaeth ac fe all greu cyfleoedd i gyflawni potensial trwy yrfaoedd sy’n werth chweil, wedi’u hadnewyddu ac wedi’u hailfywiogi.”

2. Rhaid i gyflogwyr ddilyn y safonau gorau mewn ymarfer cyflogaeth

Dywed y cytundeb:

“Bydd y Partneriaid Cymdeithasol yn cefnogi defnyddio’r safonau gorau o ran arferion cyflogaeth, fel cynllunio’r gweithlu yn systematig, i reoli diffygion a gorniferoedd mewn ffordd gynlluniedig wrth i ni lunio’r ffordd y darperir gwasanaethau yn y dyfodol.”

3. Rhaid i gyflogwyr ymgynghori ag undebau cyn gynted â phosibl

Dywed y cytundeb:

“Bydd sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus sy’n cychwyn ar newid a fydd yn effeithio ar y gweithlu yn ymgynghori ag Undebau Llafur ar y cyfle priodol cyntaf a chyn gwneud unrhyw benderfyniadau na ellir eu gwrthdroi.”

4. Rhaid sicrhau newid mewn partneriaeth ag undebau

Dywed y cytundeb:

“Dylai unrhyw newid gael ei gynllunio a’i gyflawni’n briodol trwy’r bartneriaeth. Derbynnir y gallai ffactorau allanol bennu cyflymder y broses ar adegau, ond mae’n hollbwysig bod y partneriaid cymdeithasol yn ymgynghori ac yn trafod â’i gilydd yn llawn mewn ffordd agored ac amserol er mwyn dod i gytundeb. Yn yr un modd, mae’n hollbwysig nad yw’r broses hon yn cael ei chyfyngu gan unrhyw un o’r partneriaid.”

Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu: partneriaeth a rheoli newid

Mabwysiadwyd Partneriaeth a Rheoli Newid am y tro cyntaf yn 2012.  Cafodd ei ddiweddaru yn 2021 i gynnwys cyflwyno technolegau newydd.  Cafodd ei drafod yn genedlaethol gan yr undebau llafur yng Nghyngor Partneriaeth y Gweithlu, sy'n dod ag undebau, cyflogwyr y sector cyhoeddus a llywodraeth Cymru ynghyd.   

Gweithredu

Bydd angen i'ch cyflogwr fodloni'r camau canlynol yn llawn er mwyn gweithredu'r cytundeb Partneriaeth a Rheoli Newid yn eich gweithle:

1. Cytuno ar ddatganiad polisi ar reoli newid

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu fod yn rhaid:

“Fod cyflogwyr ac undebau llafur yn cytuno ar Ddatganiad Polisi ar y dechrau ynglyˆn â rheoli newid. Dylai’r datganiad gynnwys gweledigaeth eglur a gefnogir gan y ddwy ochr sy’n pwysleisio ymagwedd gorfforaethol at reoli newid. Nod y Partneriaid Cymdeithasol yw y bydd diwylliant o amcanion a rennir a chydgyfrifoldeb am ddatrys problemau yn dod yn gyffredin.”

2. Mabwysiadu cynllun newid ar unwaith ag iddi amserlen clir

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu fod yn rhaid:

“Fod Partneriaid Cymdeithasol yn cynllunio’n gynnar ar gyfer newid gyda graddfeydd amser eglur a realistig. Mae’n hanfodol bod y drefn briodol yn cael ei dilyn a fydd yn caniatáu i’r holl bartneriaid ystyried a ffurfio unrhyw gynigion a allai fod dan sylw yn briodol.”

3. Ymgynghori a thrafod ystyrlon gydag undebau llafur

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu y dylid:

“Prif-ffrydio ymgynghori a negodi ystyrlon ag Undebau Llafur i’r broses newid. Gallai gwaith traws-sector a thraws-sefydliadol arwain at linellau atebolrwydd cymhleth a dylid rhoi sylw penodol i weithredu mewn cyd-destun cydweithrediadol. Dylai Cyflogwyr ac Undebau Llafur geisio sicrhau bod y broses yn integredig ac yn ddi-dor.”  

4. Cyfathrebu efo’r gweithlu

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu fod yn rhaid:

“Fod cyfathrebu â’r holl randdeiliaid, gan gynnwys y gweithlu, yn elfen allweddol o unrhyw broses newid. Dylai Partneriaid Cymdeithasol gytuno ar gynllun cyfathrebu cyn unrhyw broses newid. Mewn partneriaeth sy’n gweithredu’n iawn, bydd cyfathrebu â’r gweithlu a wneir ar y cyd gan y cyflogwr a’r undeb yn chwarae rhan arwyddocaol.”

5. Hyfforddiant ar weithio mewn partneriaeth a rheoli newid

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu fod yn rhaid:

“Fod Partneriaid Cymdeithasol yn hwyluso ac annog hyfforddiant ar weithio mewn partneriaeth a rheoli newid i ategu’r broses. Dylai’r hyfforddiant gynnwys gwybodaeth am y Cytundeb hwn ac unrhyw drefniadau y cytunwyd arnynt yn lleol, a sut i’w cymhwyso.”

6. Gydnabyddiaeth i undeb ac amser i drefnu

Mae'r cytundeb yn nodi er mwyn ei weithredu fod yn rhaid:

“Bod cyflogwyr yn ymrwymo i rwymedigaeth lawn a pharhaus i gydnabod undebau llafur. Yn yr amgylchedd hwn, bydd partneriaid cymdeithasol yn hyrwyddo buddion aelodaeth ag undeb llafur, a hynny nid lleiaf o ran helpu i leihau trosiant llafur, cynyddu ysbryd ac ymrwymiad staff, a gwella cynhyrchedd. Bydd hyn yn cynnwys trefniadau lleol i hwyluso ac annog aelodaeth ag undeb llafur ledled y gweithlu.”

Pa gyrff cyhoeddus sy'n dod o dan y cytundeb hwn?

Mae pob corff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru yn dod o dan y cytundeb hwn, gan gynnwys:

  • Byrddau iechyd
  • Awdurdodau lleol
  • Llywodraeth Cymru a'i chyrff noddedig

Am fwy o fanylion ddarllenwch y cytundeb llawn yma:

Cytundeb Cyngor Partneriaeth y Gweithlu: partneriaeth a rheoli newid

Mwy o'r TUC