Dysgu Cymraeg yn y gwaith: mae’n bosib dysgu beth bynnag eich oedran

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Fy holl fywyd fel oedolyn dwi wedi gwneud esgusodion am pam nad oeddwn i'n siarad Cymraeg, fel "wnes i ddim dysgu hi yn yr ysgol" neu "doedd fy nheulu ddim yn siarad Cymraeg". Roeddwn i'n teimlo embaras bob tro y gofynnwyd i mi. Ond y gwir oedd y rheswm nad oeddwn yn siarad Cymraeg oedd nad oeddwn erioed wedi trafferthu dysgu.
Dysgu Cymraeg yn y gwaith: mae’n bosib dysgu beth bynnag eich oedran

Felly pan ddaeth y cyfle i ddysgu Cymraeg yn y gwaith, roeddwn i'n meddwl ei fod nawr neu byth. Doeddwn i ddim yn poeni a fyddwn i'n gallu dysgu yn 553/4  oed – roeddwn i wedi gweithio mewn addysg oedolion yn ddigon hir i wybod nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu. Ond roeddwn i'n gwybod bod dysgu iaith newydd yn ymrwymiad gydol oes – rhywbeth nad oeddwn mor dda â hynny yn ei wneud (oeddwn i newydd gael ysgariad). Ond meddyliais, "wel, pam na fyddwn i'n falch o siarad un o’r ieithoedd hynaf yn Ewrop, iaith fy ngwlad? Ac roedd TUC Cymru am roi’r amser i mi ei wneud – felly doedd dim rheswm peidio rhoi cynnig arni."

Dechrau gyda siarad a gwrando

Dechreuais fy antur dysgu gyda sefydliad o'r enw SaySomethingIn.com sydd ag ap Cymraeg arbennig. Mae'n wych gan ei fod yn canolbwyntio ar siarad nid ysgrifennu na darllen. Felly dim papur, dim pennau, dim geiriaduron. Dim ond fi, yr ap, a'm ffrindiau gorau newydd – Iestyn a Kat. Os ydych chi eisiau gwybod pwy ydyn nhw gallwch lawrlwytho'r ap am ddim a chwrdd â nhw eich hunain!

Dechreuais ddefnyddio'r ap 2 flynedd yn ôl. Dwi'n 57 nawr a phan fydd pobl yn gofyn a ydw i'n gallu siarad Cymraeg rwy'n cymryd anadl ddofn ac yn dweud yn falch, "Ydw, dwi'n siarad Cymraeg" – er fy mod bob amser yn ychwanegu fy mod yn ddysgwr oherwydd, fel y dywedais, mae'n daith gydol oes. Ac mae hi wedi bod yn daith wych hyd yn hyn.

Mae dysgu Cymraeg wedi fy helpu mewn cymaint o ffyrdd, rhai annisgwyl. Er enghraifft, pan fydda i'n deffro yng nghanol y nos yn poeni am fywyd dwi'n ceisio meddwl yn Gymraeg a chyn i mi ei wybod dwi'n ôl i gysgu! Dwi hefyd yn meddwl bod dysgu Cymraeg wedi gwneud f’ymennydd yn fwy effro a dwi’n fwy hyderus i wynebu heriau gartref ac mewn gwaith sydd wedi bod braidd yn ddefnyddiol yn ystod y pandemig Covid.

Parhau â'm taith ddysgu yn ystod Covid

Yn wir, mae Covid wedi helpu fy nhaith ddysgu oherwydd mae llawer o gyrsiau bellach yn cael eu cynnal ar-lein. Gan fy mod yn gweithio gartref rwyf wedi gallu ymuno â Chwrs Cymraeg bob dydd gyda Phrifysgol Caerdydd – awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Iau – sy'n llawer o hwyl ac sy'n fy helpu i fynd i'r afael â darllen ac ysgrifennu Cymraeg. Baswn i erioed wedi gallu gwneud hyn taswn i dal yn gweithio yn y swyddfa.

Felly mae'n wir nad ydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu ac os gallaf i ddysgu iaith newydd, gall unrhyw un! Os ydych chi'n meddwl am ddysgu Cymraeg, byddwn i'n dweud rhowch gynnig arni. Mae apiau a dosbarthiadau ar-lein a llwythi o lyfrau i'ch rhoi ar waith. Am beth ydych chi’n aros?

Siaradwch â'ch Cynrychiolydd Dysgu Undebau am ddysgu iaith yn eich gweithle, ac edrychwch ar ba gyrsiau sydd ar gael yn ystod coronafeirws drwy Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

Ac os nad yw'r Gymraeg i chi, mae gan Say Something In hefyd apiau ar gyfer Sbaeneg, Manaweg, Iseldireg, Cernyweg a Lladin. Beth am roi cynnig arni eich hun?