Undeb ar gyfer athrawon a gweithwyr proffesiynol addysg.
Byddwn yn eich tywys a’ch helpu gyda phroblemau yn y gweithle.
Gallwch gael cymorth gan ein cynrychiolwyr a’n tîm cyfreithiol, yn ogystal â chyngor dros y ffôn ac ar-lein.
Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
Cost aelodaeth safonol yw £191.79 y flwyddyn. Mae’n £1 i ANG, ac am ddim i hyfforddeion a myfyrwyr.
Gall athrawon, staff cymorth, arweinwyr, darlithwyr a rheolwyr colegau mewn ysgolion a gynhelir, academïau, ysgolion annibynnol, colegau a lleoliadau addysg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ymuno â’r Undeb Addysg Cenedlaethol.
Ymunwch heddiw i fanteisio ar y cynigion gwych hyn.
*Mae’r cynnig am £1 ar gael i athrawon newydd gymhwyso. Gellir talu’r tanysgrifiad o £1 drwy ddebyd uniongyrchol ac mae’n rhoi aelodaeth lawn i chi o’r undeb yn ystod eich blwyddyn gyntaf fel ANG rhwng mis Medi a mis Awst. Bydd gennych hawl i gyfnod pellach o aelodaeth am bris gostyngol yn dilyn y cynnig o £1. Bydd yr undeb yn ysgrifennu atoch i roi gwybod am unrhyw gynigion pellach.
Gallwch gael llawer o fanteision o fod yn aelod gan ein bod yn darparu amrywiaeth eang o fuddion a gwasanaethau sy’n arbed arian i chi a’ch teulu drwy’r rhaglen buddion i aelodau.
Rydym wedi negodi cynigion, disgownts a gwobrwyon ar lawer o gynnyrch gwych gan frandiau cydnabyddedig. Mae’r rhaglen buddion i aelodau yr Undeb Addysg Cenedlaethol yn cynnig cyfraddau arbennig ym maes cyllid, iechyd, y cartref, TG, hamdden, materion cyfreithiol a theithio gan gynnwys yswiriant car a chartref, morgeisi, cyngor ariannol annibynnol a gwasanaeth canfod swyddi.
To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).