Toggle high contrast

Undeb ar gyfer athrawon a gweithwyr proffesiynol addysg.

  • Byddwn yn eich tywys a’ch helpu gyda phroblemau yn y gweithle.

  • Gallwch gael cymorth gan ein cynrychiolwyr a’n tîm cyfreithiol, yn ogystal â chyngor dros y ffôn ac ar-lein.

  • Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

  • Cost aelodaeth safonol yw £191.79 y flwyddyn. Mae’n £1 i ANG, ac am ddim i hyfforddeion a myfyrwyr.

Prif Fasnachau
Addysg
Addysg bellach
Addysg uwch
Meithrinfeydd a gofal plant
Ysgolion
Aelodaeth
Dynion 106,256 | Merched 350,580 | Arall 2,280 | Cyfanswm 459,116
Rhai o’r cyflogwyr a gynrychiolir
  • Addysg
  • Meithrinfeydd a gofal plant
  • Ysgolion
Ysgrifennydd Cyffredinol
Daniel Kedebe
Cost aelodaeth

Gall athrawon, staff cymorth, arweinwyr, darlithwyr a rheolwyr colegau mewn ysgolion a gynhelir, academïau, ysgolion annibynnol, colegau a lleoliadau addysg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ymuno â’r Undeb Addysg Cenedlaethol.

  • Gall hyfforddeion a myfyrwyr ymuno am ddim
  • Gall athrawon newydd gymhwyso ymuno am ddim ond £1*

Ymunwch heddiw i fanteisio ar y cynigion gwych hyn.

*Mae’r cynnig am £1 ar gael i athrawon newydd gymhwyso. Gellir talu’r tanysgrifiad o £1 drwy ddebyd uniongyrchol ac mae’n rhoi aelodaeth lawn i chi o’r undeb yn ystod eich blwyddyn gyntaf fel ANG rhwng mis Medi a mis Awst. Bydd gennych hawl i gyfnod pellach o aelodaeth am bris gostyngol yn dilyn y cynnig o £1. Bydd yr undeb yn ysgrifennu atoch i roi gwybod am unrhyw gynigion pellach.

Manteision Aelodaeth

Gallwch gael llawer o fanteision o fod yn aelod gan ein bod yn darparu amrywiaeth eang o fuddion a gwasanaethau sy’n arbed arian i chi a’ch teulu drwy’r rhaglen buddion i aelodau.

Rydym wedi negodi cynigion, disgownts a gwobrwyon ar lawer o gynnyrch gwych gan frandiau cydnabyddedig. Mae’r rhaglen buddion i aelodau yr Undeb Addysg Cenedlaethol yn cynnig cyfraddau arbennig ym maes cyllid, iechyd, y cartref, TG, hamdden, materion cyfreithiol a theithio gan gynnwys yswiriant car a chartref, morgeisi, cyngor ariannol annibynnol a gwasanaeth canfod swyddi.

Cyfeiriad

Hamilton House

Mabledon Place

London

WC1H 9BD

Ffôn
0345 811 8111
Enable Two-Factor Authentication

To access the admin area, you will need to setup two-factor authentication (TFA).

Setup now