Dyddiad: 27 a 28 Tachwedd 2019
Lleoliad: Gwesty Coldra Court, Chepstow Rd, Langstone, Casnewydd NP18 2LX
Mae’r gynhadledd hon dros ddau ddiwrnod wedi’i hanelu at Gynrychiolwyr Dysgu Undebau ledled Cymru.
Bydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys pryd gyda’r nos, gyda siaradwr gwadd yn helpu i ddathlu Cynrychiolwyr Dysgu Undebau ac 20 mlynedd o Gronfa Ddysgu Undebau Cymru
Mae rôl Cynrychiolydd Dysgu Undebau yn dod yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Dyma gyfle i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau parhaus o fewn y rôl. Bydd sgyrsiau, cyflwyniadau, gweithdai a chyfleoedd i rwydweithio.
Llety
Gan fod y gynhadledd hon yn agored i Gymru gyfan, mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael i gynadleddwyr sy’n byw yn bell o’r lleoliad neu sydd â gofynion oherwydd anabledd.
Bydd angen eich cod post pan fyddwch yn cofrestru er mwyn i ni allu blaenoriaethu dyrannu llety dros nos. Petai llety dros nos yn cael ei neilltuo ar eich cyfer ar noson 27 Tachwedd, TUC Cymru fydd yn talu’r costau.
Felly, peidiwch â cholli’r cyfle a chofrestrwch nawr.
Costau
Mae’r Gynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu Undebau 2019 yn rhad ac am ddim i undebwyr llafur sy'n byw neu’n gweithio yng Nghymru. Bydd TUC Cymru yn talu am unrhyw lety angenrheidiol (o fewn y ffiniau a amlinellwyd uchod), bwyd a lluniaeth di-alcohol, ond ni allwn dalu eich costau teithio, ond efallai y bydd eich undeb yn gallu helpu â hynny.
Cymerwch eiliad i ddarllen y polisi canslo canlynol:
Unwaith y byddwn wedi cadarnhau eich lle, os na fyddwch yn gallu dod, rhowch wybod i ni o leiaf wythnos ymlaen llaw gan ddefnyddio’r manylion cyswllt isod.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fyddwch yn gallu dod am y rhesymau canlynol;
Mae gennym o hyd restr wrth gefn, ond yn aml ni fyddwn yn gallu cynnig lleoedd i’r bobl hynny os na chawn ddigon o rybudd.
Mae cost y digwyddiad yn sylweddol, ac os na chawn ddigon o rybudd nad ydych am fod yn bresennol, bydd yn rhaid i ni dalu am y lleoedd gwag. Mae hyn yn cynnwys llogi’r lleoliad, hwyluswyr, prydau a lluniaeth.
SYLWCH - OS NA FYDDWCH YN GALLU DOD I’R DIGWYDDIAD HWN AC NAD YDYCH YN RHOI WYTHNOS O RYBUDD, EFALLAI Y CODIR FFI O £200 AR EICH UNDEB I DALU AM EICH LLE.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.