Ymunwch ag undeb yn ystod yr Wythnos Prentisiaethau hon

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Fel prentis, mae gennych yr hawl i ymuno ag undeb llafur. Mae undebau llafur yn yma i gynrychioli, gwarchod a helpu eu haelodau yn y gweithle.
Ers llawer gormod o amser, nid yw prentisiaid wedi cael eu trin yn deg. Dim ond y mudiad undebau llafur all eu gwarchod yn llawn, a dathlu eu cyfraniad drwy’r flwyddyn.

Sut all ymuno ag undeb llafur eich helpu yn ystod eich prentisiaeth?

Cyfraddau cyflog

Mae undebau eisiau i brentisiaid gael cyflog teg am y gwaith maent yn ei wneud. Mae prentisiaeth yn fath o hyfforddiant, felly nid yw hynny’n golygu cael yr un cyflog o’r cychwyn â gweithwyr sydd wedi bod yn gwneud y gwaith ers amser. Ond dylai cyflogau prentisiaid godi tuag at gyfraddau gweithwyr parhaol o fewn cyfnod rhesymol.

Gallai cyfraddau cyflog sy’n llawer is olygu bod perygl i’r cyflogwr gymryd mantais ar y prentis, ac mi allai hefyd danseilio cyfraddau cyflog sydd wedi’u negodi ar gyfer y swydd. Felly bydd undebau’n negodi i wneud yn siŵr bod prentisiaid yn cael cyflog teg.

Rôl y swydd

Mae undebau’n awyddus hefyd i sicrhau bod prentisiaethau’n swyddi go iawn gyda phwrpas cynhyrchiol iddi. Ni ddylai prentisiaid gael eu defnyddio i wneud y gwaith diflas nad oes neb arall eisiau ei wneud, Mae’n flaenoriaeth gan undebau hefyd i wneud yn siŵr nad yw prentisiaid yn cymryd swyddi gweithwyr sy’n eu llenwi’n barod.

Cyfle gwirioneddol

Dylai prentisiaethau arwain at gyfleoedd gwirioneddol yn y gweithle. Mae undebau’n ymdrechu i sicrhau y bydd prentisiaid yn cael eu cyflogi fel cyflogeion parhaol ar ôl iddynt gwblhau eu prentisiaeth.

Bydd cynrychiolwyr undebau mewn gweithleoedd yn monitro’r pethau hyn ac yn gwneud yn siŵr bod arferion da’n cael eu cynnal, felly cofiwch roi gwybod i’ch cynrychiolydd os oes unrhyw beth yn eich poeni.

Sgiliau Saesneg, mathemateg a digidol

Bydd angen i rai prentisiaid ddatblygu eu sgiliau Saesneg, mathemateg neu ddigidol er mwyn gallu cwblhau eu prentisiaethau. Bydd undebau’n negodi amser ychwanegol addas gyda thâl i brentisiaid i weithio tuag at gyflawni’r sgiliau hyn, a bydd cynrychiolwyr y gweithle’n gwneud yn siŵr bod eich cyflogwr yn cadw at gytundebau i wneud hynny.

Mae gan rai undebau lawer o brofiad o helpu gweithwyr i wella eu sgiliau yn y meysydd hyn, ac felly efallai y byddant yn gallu cynnig help ychwanegol i brentisiaid. Mi all cynrychiolwyr dysgu undebau, os oes rhai yn eich gweithle, eich helpu i ddod o hyd i ffynonellau da o help ychwanegol.

Anghenion hyfforddi ychwanegol

Mae rhai undebau hefyd wedi datblygu pyrth hyfforddi ar-lein, lle gall aelodau fanteisio ar amrywiaeth enfawr o hyfforddiant ychwanegol – sy’n aml ar gael am ddim i aelodau.

Felly mi ddylech ddod o hyd i rywbeth a all eich helpu i gyflawni eich prentisiaeth. Cofiwch holi cynrychiolydd dysgu eich undeb, neu siaradwch â thîm dysgu gydol oes eich undeb i weld beth sydd ar gael.

Cydraddoldeb, amrywiaeth ac urddas yn y gwaith

Mae undebau llafur yn credu mewn cydraddoldeb i bob gweithiwr. Rydym yn credu y dylai pob gweithiwr gael eu trin ag urddas yn y gwaith, ac na ddylent gael eu trin yn wael am eu bod yn wahanol mewn rhyw ffordd i weithwyr eraill.

Mae undebau’n negodi ac yn cytuno ar bolisïau’r gweithle â chyflogwyr, sydd wedi’u llunio i atal pob math o wahaniaethu ac aflonyddu. Byddwn wedyn yn monitro sut mae cyflogwyr yn rhoi’r polisi ar waith, ac yn rhoi sylw i unrhyw ddigwyddiadau lle nad ydynt wedi cydymffurfio â pholisïau.

Rhowch gynnig ar ein hadnodd canfod undeb i ddod o hyd i’r undeb mwyaf addas i chi yn ystod eich prentisiaeth.

Mae TUC Cymru yn helpu undebau llafur i helpu prentisiaid yn y gweithle

Rydym yn gwneud hyn drwy:

  • Helpu undebau i weithio â chyflogwyr i ddatblygu a gwella rhaglenni prentisiaethau
  • Helpu cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr dysgu undebau ac aelodau eraill undebau i weithio’n uniongyrchol â phrentisiaid, gan eu helpu i gwblhau eu prentisiaeth ac i ddatblygu eu gyrfaoedd
  • Darparu adnoddau, datblygiad polisi, ymchwil a gwybodaeth i brentisiaid a chynrychiolwyr undebau
  • Ymgyrchu ar faterion sy’n effeithio ar brentisiaethau, fel cyflogau isel, hyfforddiant gwael a diffyg cynnydd yn y gwaith