Fframwaith galluogi yw Siarter Twf sy’n cynnwys pedair egwyddor graidd. Mae'r siarter yn cefnogi gweithwyr, eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog cynhwysol a chynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith. ‘Cynnydd’ neu ‘ymlediad’ yw ystyr ‘twf.’

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog lle caiff y Gymraeg a’r Saesneg eu defnyddio’n gyffredin yn ein bywydau bob dydd a’n gweithleoedd. Mae gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru – mae'n rhan bwysig o'r hyn rydyn ni'n ei rannu fel dinasyddion Cymru ac mae'n perthyn i bob un ohonom. Mae'n diffinio pwy ydym ni ac mae'n rhan o'n hunaniaeth.

Colleagues talking in Welsh

Mae Cymru sy’n meddu ar iaith Gymraeg sy’n ffynnu a diwylliant egnïol yn un o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r iaith Gymraeg yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd. Mae hyn yn cynnwys manteision i weithwyr, eu teuluoedd, defnyddwyr gwasanaethau, cyflogwyr a’r cymunedau Cymraeg maent yn eu gwasanaethu.

Mae Cymraeg 2050 yn rhoi pwyslais ar y gweithle fel lleoliad ac amgylchedd lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg - boed hynny’n rhan ffurfiol o rôl unigolyn neu fel rhan o gymuned o bobl sy’n treulio cyfran sylweddol o’u bywyd beunyddiol gyda’i gilydd yn yr un lleoliad. Hynny yw, rydyn ni’n siarad gyda’n gilydd bob dydd wrth ein gwaith - ac mae siarad Cymraeg gyda’n gilydd yn y gwaith yn ffordd bwysig i gadarnhau a datblygu sgiliau, a sefydlu arferion o ran defnyddio’r Gymraeg.

 

Cymraeg 2050: Rhaglen Waith 2021-2026, Llywodraeth Cymru, 2021, t.15

Mae defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith yn diogelu swyddi a gwarchod cymunedau Cymraeg. Mae hyn oherwydd eu bod yn sicrhau dyfodol yr iaith – fel iaith fyw mewn gweithleoedd a chymunedau ledled Cymru.

Pa wahaniaeth fydd Siarter Twf yn ei wneud?

Datblygwyd Siarter Twf gan TUC Cymru fel adnodd i helpu gweithwyr, eu canghennau undebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i gefnogi'r ddarpariaeth o weithleoedd dwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.     

Fframwaith galluogi yw Siarter Twf sy’n cynnwys pedwar egwyddor graidd i gefnogi’r broses o ddarparu gweithleoedd cynhwysol sy’n deg, cyfiawn a chyfartal:

  1. Twf a hawliau’r Gymraeg
  2. Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol
  3. Arweinyddiaeth ac atebolrwydd
  4. Dysgu parhaus a meithrin hyder

Mae'r egwyddorion craidd yma’n cefnogi cyfiawnder ieithyddol yn y gwaith a chanlyniadau cyfartal i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith. 

I weithwyr, gan gynnwys y rhai sy’n siaradwyr Cymraeg, mae gweithleoedd dwyieithog cynhwysol yn darparu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith. Mae hyn yn eu galluogi i weithio yn Gymraeg o ddydd i ddydd.

Gellir disgrifio gweithleoedd dwyieithog cynhwysol fel rhai sy’n:

  • Hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg a’r hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg gydag eraill yng Nghymru yn ddirwystr, heb ymyrraeth na dioddef anfantais – gan gynnwys ym mhob gweithle a phob sector
  • Gweithredu i sicrhau bod gweithwyr yn gwybod beth yw eu hawliau penodol mewn sefydliadau sy’n dod o dan ddyletswyddau Safonau’r Gymraeg
  • Gweithredu ar gyfiawnder ieithyddol yn y gwaith achos maen nhw’n tyfu, yn hybu ac yn galluogi mwy o gyfleoedd i bob gweithiwr ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau iaith Cymraeg
  • Darparu mynediad, amodau, cyfleoedd, cymorth a chanlyniadau teg a chyfartal i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith a lle maen nhw’n teimlo eu bod nhw'n cael eu croesawu, eu cynrychioli a'u gwerthfawrogi

Mae gweithle dwyieithog yn gweithredu yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu defnyddio a’u parchu mewn gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae gweithle Cymraeg yn gweithredu’n bennaf neu’n llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn ddibynnol ar y naill iaith neu’r llall, gellir defnyddio’r termau gweithle dwyieithog cynhwysol a gweithle Cymraeg cynhwysol yn gyfnewidiol. I fod yn gyson, mae’r Siarter hwn yn defnyddio’r term gweithle dwyieithog cynhwysol i gyfeirio at y ddau fath o amgylchedd

Gall gweithwyr, eu hundebau llafur a chyflogwyr ddefnyddio Siarter Twf i:

  • Gefnogi darpariaeth gweithleoedd dwyieithog cynhwysol fel mater o ecwiti, tegwch a chyfiawnder ieithyddol
  • Dyfu, hwyluso, hybu, cefnogi a chryfhau defnydd y Gymraeg yn y gwaith 
     

Egwyddorion ac Ymrwymiad Siarter Twf

Drwy lofnodi Siarter Twf, mae’r canghennau undebau llafur a’r cyflogwr yn dangos eu bod yn cymeradwyo ei bedair egwyddor graidd fel fframwaith ar gyfer gweithredu. 

Maen nhw’n cydnabod bod undebau, eu canghennau a'r cyflogwr ar daith ar y cyd i gyflawni egwyddorion Siarter Twf.

Maen nhw’n ymrwymo i ddefnyddio Siarter Twf i weithio mewn partneriaeth wrth ddarparu gweithle ddwyieithog cynhwysol  ac i hyrwyddo a galluogi’r twf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith.

Wrth arwyddo Siarter Twf, mae canghennau undebau llafur a’r cyflogwr yn ymrwymo i gydweithio yn seiliedig ar y bedair egwyddor graidd. 

1. Twf a hawliau’r Gymraeg 

Rydyn ni wedi ymrwymo i dyfu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle drwy hyrwyddo a galluogi mwy o gyfleoedd i bob gweithiwr ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg. 

Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pob gweithiwr yn ymwybodol ac yn deall eu hawliau penodol i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith - mewn sefydliadau sydd o dan ddyletswyddau Safonau’r Gymraeg – ac yn cael mynediad at wybodaeth glir am yr hawliau hynny. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys deall bod rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg a’r hawl i siarad a defnyddio’r Gymraeg gydag eraill yng Nghymru yn ddirwystr, heb ymyrraeth na dioddef anfantais - gan gynnwys ym mhob gweithle a phob sector (Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011).

Mae hyn yn hanfodol, oherwydd gall rhwystrau i siarad Cymraeg - fel diffyg cyfleoedd, agweddau negyddol, neu erydiad yn y defnydd dyddiol - danseilio hyder siaradwyr a chyfyngu ar eu defnydd o'r iaith a datblygiad eu sgiliau.

2. Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol  

Rydyn ni wedi ymrwymo i fod yn weithle dwyieithog cynhwysol. Rydyn ni’n cydnabod, yn gwerthfawrogi ac yn parchu'r Gymraeg. Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu mynediad, amodau, cyfleoedd, cymorth a chanlyniadau teg a chyfartal i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu'r Gymraeg yn y gwaith.

I weithwyr sy'n siarad Cymraeg, mae hyn hefyd yn golygu cael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio a datblygu eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith - yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Mae hyn yn eu galluogi i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd ac yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.

Mae hyn yn cynnwys cael eu trin ag urddas a pharch, sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, bod pobl yn gwrando arnyn nhw ac y gweithredir ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud, a gweithio mewn amgylcheddau sy'n ddiogel ac yn gefnogol i ddefnyddio'r Gymraeg. Rhaid i'r rhain fod yn rhydd o ragfarn, bygythiad, tuedd, neu farn tuag at yr iaith Gymraeg a'i siaradwyr.

3. Arweinyddiaeth ac atebolrwydd 

Rydyn ni’n cydnabod bod arweinyddiaeth gref ac atebolrwydd clir yn hanfodol wrth feithrin capasiti a gallu sefydliadau i weithredu yn y Gymraeg ac i gynyddu ei defnydd yn y gweithle. 

Mae hyn yn cynnwys asesiad teg a thryloyw o sgiliau Cymraeg wrth recriwtio, cynllunio gweithlu dwyieithog effeithiol, a dealltwriaeth gyffredin bod cyfrifoldeb am y Gymraeg ar draws y sefydliad. 

Mae ethos a diwylliant ddwyieithog gweladwy a chynhwysol wedi'i wreiddio ledled y sefydliad lle mae'r Gymraeg yn ffynnu.

Mae hyn yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith ac yn cefnogi llesiant cenedlaethau’r presennol a chenedlaethau’r dyfodol o weithwyr a defnyddwyr sy'n siarad Cymraeg. 

4. Dysgu parhaus a meithrin hyder

Rydyn ni wedi ymrwymo i welliant parhaus o ran darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, yn unol â hawliau gweithwyr. Mae hyn yn cynnwys annog a chefnogi cyfranogiad pob gweithiwr wrth ddysgu, uwchsgilio a datblygu. 

Mae hyn hefyd yn cynnwys darparu amgylchedd diogel a chefnogol lle mae gweithwyr yn teimlo'n hyderus yn defnyddio ac yn ymarfer eu Cymraeg. Mae hyder yn tyfu pan fydd gweithwyr yn teimlo'n gyfforddus yn clywed, yn siarad, yn dysgu ac yn defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith bob dydd.

Darllenwch sut mae Rhianydd wedi newid ei pherthynas â’r Gymraeg drwy ddysgu yn y gweithle a pham mae Amarjite yn ailddysgu Cymraeg yn ei chwedegau.

Pam mae angen Siarter Twf arnom

Fel symudiad undebau llafur, mae diogelu rhyddid a hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith yn rhan o’n cred mewn gwaith teg, cydraddoldeb, cyfartalwch a chyfiawnder ieithyddol. Rydym yn credu mewn gweithleoedd dwyieithog cynhwysol sy’n darparu mynediad cyfartal, amodau diogel a chefnogaeth i dyfu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Gall hyn gael ei gyflawni drwy gynyddu’r cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg.

Mae gan undebau llafur swyddogaeth gritigol wrth amddiffyn a hybu hawliau Cymraeg gweithwyr a sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel ac yn rhydd o ragfarn a barn.

Rydym am weld cynnydd yn nefnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd ar draws pob sector a’r Gymraeg yn cael ei normaleiddio yn y gweithleoedd hynny. Yn fyr, rydym am weld ‘twf’ yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith i gyflawni cyfiawnder ieithyddol i weithwyr, gan gynnwys gweithwyr sy’n siaradwyr Cymraeg. 

Gwyliwch fydwragedd yn ysbyty Bronglais yn esbonio pam fod siarad Cymraeg yn bwysig i'w hunaniaeth, a sut mae'n gwneud eu gwaith gyda defnyddwyr gwasanaeth sy'n siarad Cymraeg yn haws:

Darllenwch fwy am pam mae RCM yn cefnogi bydwragedd i ddefnyddio a dysgu Cymraeg

Datblygwyd Siarter Twf gan TUC Cymru oherwydd mae’n hanfodol bod y symudiad undebau llafur yn cynrychioli pob rhan o’r gweithlu a’r gymdeithas. Mae cynhwysiant a mynediad cyfartal i’r Gymraeg yn hanfodol i weithluoedd oherwydd eu bod yn gynrychioliadol o amrywiaeth cymdeithas.

Mae ein hymgyrch dros gydraddoldeb i'r Gymraeg yn y gwaith yn eistedd o fewn ein hagenda gwaith teg.

Darllenwch fwy am eich hawl i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

Darganfyddwch sut gall TUC Cymru cefnogi undebau ar eu teithiau Cymraeg

 

Pam mae byd gwaith yn bwysig i ddefnydd gweithwyr o'r Gymraeg?

“Mae’r gweithle’n ganolog i’n bywydau bob dydd ac yn bwysig o ran datblygiad ieithyddol unigolion. Boed yn siaradwr rhugl, yn siaradwr di-hyder sydd am loywi ei sgiliau a magu hyder, neu’n siaradwr newydd, mae’r gweithle’n gyfle i ddefnyddio, ymarfer a dysgu’r Gymraeg”. (Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg, Llywodraeth Cymru, 2017, t.49). 

Mae gweithleoedd yn fannau strategol ar gyfer hybu ac hwyluso twf yn y defnydd o’r Gymraeg. 

Mae gweithleoedd yn rhoi cyfle i siaradwyr o bob lefel ddefnyddio ac ymarfer y Gymraeg. Gall gweithleoedd symud ar hyd y continwwm iaith hefyd a chynyddu eu defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith dros amser. Yn ei dro, mae hyn yn cryfhau ei defnydd y tu allan i’r gwaith - mewn teuluoedd, cymunedau ac yn gymdeithasol.

Mae gan gyflogwyr swyddogaeth strategol i gynllunio a gweithredu twf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith. Maen nhw’n galluogi gweithwyr i fyw eu bywyd yn y gwaith yn gynyddol yn y Gymraeg.

Mae dwyieithrwydd a’r gallu i siarad, darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg yn sgil cyfathrebu gwerthfawr yn y gwaith. Mae’n gwella’r gallu i neidio o dasg i dasg, datrys problemau a chreadigrwydd. Mae sgiliau dwyieithog yn dod â manteision i weithwyr a chyflogwyr ac mae eu hangen ar gyfer darparu gwasanaethau Cymraeg o safon.

I weithwyr, mae gallu defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith yn agor drysau i gyfleoedd newydd, yn helpu gyda chyflogadwyedd, dewisiadau gyrfa ehangach, datblygiad gyrfa, a chyflog. Mae gweithwyr dwyieithog yn ychwanegu gwerth i sefydliad neu fusnes.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni. Mae'n ffurfio ein hunaniaeth a'r cymunedau rydyn ni’n byw ynddyn nhw. Mae’r Gymraeg yn ein diffinio ni fel pobl, gweithwyr a dinasyddion Cymru. Mae bod yn ddwyieithog yn cyfrannu at ein hymdeimlad o foddhad personol a’n llesiant gan arwain at gynnydd mewn ymrwymiad ac ymroddiad yn y gwaith. Yn ogystal, mae dysgu Cymraeg yn gallu cyfrannu’n gadarnhaol at hunan-barch a thyfiant personol.

“Fel bodau dynol, rydyn ni’n dibynnu ar ein hiaith – yr iaith rydyn ni’n byw ynddi ac yn teimlo'n gartrefol ynddi – i fynegi ein hunain yn llawn. .... Mae diddymu iaith yn lleihau gallu pob siaradwr i fod yn nhw eu hunain.” (Steve Zeitlin, Folklife, 2019).

Gwyliwch sut wnaeth cynyddu’r defnydd o Gymraeg yn cryfhau cangen UCU Bangor:

Darllenwch fwy am sut wnaeth cynyddu’r defnydd o Gymraeg yn cryfhau cangen UCU Bangor.

Mabwysiadu Siarter Twf 

Mae mabwysiadu Siarter Twf yn dangos bod ymrwymiad ar y cyd wedi'i wneud i’r canlynol: 

  • Y bedair egwyddor graidd fel fframwaith ar gyfer cydweithio
  • Darparu gweithle ddwyieithog cynhwysol a thwf yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith
  • Cymryd y cam cyntaf tuag at weithredu positif i gyflawni mynediad ac amodau  cynhwysol, teg, cyfiawn a chyfartal sy'n galluogi twf yn y defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith
  • Camau dilynol, er enghraifft, mewn cyfarfodydd ar y cyd y canghennau undebau llafur a’r cyflogwr 
Welsh language leaflets

Yn ehangach, mae'n dangos gweithredu cydweithredol drwy gefnogi nod Cymraeg 2050  i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws pob sector.

Rydym ni’n croesawu trafodaeth gydag unrhyw undeb lafur neu gyflogwr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn mabwysiadu'r siarter – cysylltwch â cymru@tuc.org.uk  

Siarter Twf a’i Chymeradwyo 

Cymeradwywyd y Siarter hon gan y canlynol:  
•    Cyngor Cyffredinol TUC Cymru
•    Pwyllgor Cydraddoldeb TUC Cymru
•    Fforwm y Gymraeg TUC Cymru
•    Cymdeithas yr Iaith 

Mae Comisiynydd y Gymraeg hefyd wedi datgan cefnogaeth i Siarter Twf a’i bedair egwyddor graidd.

Ar gyfer pa weithleoedd mae Siarter Twf?

Gellir mabwysiadu Siarter Twf ym mhob gweithle a phob sector:

  • Sefydliadau sydd â dyletswyddau sy'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw  gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Am restr o’r sefydliadau hyn, gweler hysbysiadau cydymffurfio
  • Sefydliadau sydd â Chynllun Iaith Gymraeg
  • Sefydliadau’r sector preifat a’r sector elusennol sydd wedi ymrwymo i wella a datblygu eu gwasanaethau Cymraeg drwy gydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg.

Rydym ni’n croesawu trafodaeth gydag unrhyw undeb lafur neu gyflogwr yng Nghymru sydd â diddordeb mewn mabwysiadu'r siarter – cysylltwch â cymru@tuc.org.uk  

Sut i fabwysiadu Siarter Twf – canllaw cam wrth gam i ganghennau undebau llafur 

Parod i ddechrau negodi gyda’ch cyflogwr i fabwysiadu Siarter Twf? Cliciwch ar y geiriau isod am ganllaw cam wrth gam.

Cam 1: Enwebu arweinydd cydweithio y canghennau undebau llafur

Gallai hwn fod yn gadeirydd eich cangen neu'n gynrychiolydd sydd â diddordeb yn yr iaith Gymraeg.

Cam 2: Gwahodd TUC Cymru i gyfarfod ar y cyd gyda’r canghennau undebau llafur

Dylai arweinydd cydweithio y canghennau undebau llafur gysylltu â TUC Cymru ar cymru@tuc.org.uk i drefnu cyfarfod. Yn y cyfarfod hwn gallwn ddarparu'r cyd-destun ar gyfer Siarter Twf a chynnig canllawiau pellach ar weithredu. Gallai'r cyfarfod fod wyneb yn wyneb neu ar-lein. 

Cam 3: Cyfarfod ar y cyd y canghennau undebau llafur a’r cyflogwr

Yn dilyn y cyfarfod cangen TUC Cymru, trefnwch gyfarfod i drafod y Siarter Twf gyda’r cyflogwr. Nodwch y broses fewnol a'r amserlen ar gyfer cymeradwyo'r Siarter. 

Cysylltwch â TUC Cymru os oes angen mwy o gefnogaeth arnoch chi yn dilyn y cyfarfod hwn neu pan rydych chi’n barod i drafod y trefniadau i lofnodi’r Siarter. 

Cam 4: Cyd-lofnodi Siarter Twf 

Caiff y Siarter Twf ei chyd-lofnodi gan ganghennau’r undebau llafur, y cyflogwr a TUC Cymru. Gallai cynrychiolwyr priodol fod yn Brif Weithredwr y cyflogwr; Cadeiryddion canghennau’r undebau llafur a chynrychiolydd TUC Cymru. 

Fel arfer, byddai'r digwyddiad llofnodi yn digwydd yn y gweithle ac yn cynnwys eich tîm cyfathrebu i gynllunio datganiadau i'r wasg a chynnwys cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo'r Siarter yn allanol. 

Cam 5: Siarter Twf yn weledol yn y gweithle

Bydd TUC Cymru yn darparu deunyddiau cyhoeddusrwydd ar gyfer Siarter Twf y gellir eu harddangos o amgylch y sefydliad, gan gynnwys:  

  • Un bwrdd A1 wedi’i lofnodi i’w arddangos yn eich derbynfa
  • Posteri sy’n dangos bod y Siarter Twf wedi’i mabwysiadu ar hysbysfyrddau ayyb
  • Erthygl newyddion enghreifftiol y gellir ei chynnwys ar y fewnrwyd

Bydd y Canllaw i Negodwyr y Siarter Twf hefyd yn eich helpu gyda chamau positif dilynol.

TUC Cymru a’r Gymraeg   

Cynnig Cymraeg logo

Mae TUC Cymru ei hun wedi bod ar daith iaith Gymraeg. Ennillom ein cydnabyddiaeth Cynnig Cymraeg yn 2022 oherwydd bod gennym bolisi a chynllun datblygu Cymraeg cryf. 

Rydym yn cefnogi undebau i gynyddu eu darpariaeth Cymraeg ac ennill eu Cynnig Cymraeg eu hunain.