Mae undebau llafur yn newid y ffordd rydym yn meddwl am y menopos yn y gweithle

Dyddiad cyhoeddi
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r menopos yn bwnc sy’n cael ei drafod yn fwy agored ac yn fwy cyhoeddus. Ond mae’r menopos, a sut mae’n effeithio arnoch chi yn y gweithle, wedi bod yn broblem ers cenedlaethau.

Mae’r menopos wedi bod yn ymgyrch hirsefydlog ar gyfer undebau llafur, ac mae TUC Cymru wedi bod yn gweithio arno ers bron i ddegawd.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydw i wedi bod yn falch o weld sut mae undebau wedi gwthio cyflogwyr i wneud mwy dros weithwyr sy’n mynd drwy’r menopos.

Mae undebau wedi ennill newidiadau sy’n ymddangos yn fach ond sy’n cael effaith enfawr, fel mynediad at doiledau digonol a dŵr yfed.

Ond maen nhw hefyd wedi mynd i’r afael â’r materion mwy fel asesiadau risg, patrymau gweithio hyblyg a chynrychioli menywod a oedd ar fin cael eu diswyddo am symptomau sy’n gysylltiedig â’u menopos. Yn ogystal â hynny, rydyn ni wedi newid polisïau ym mhob swydd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Dyma sampl o’r ffyrdd y mae undebau llafur yng Nghymru yn gwella’r gweithle i fenywod sy’n mynd drwy’r menopos.

  1. Mae USDAW wedi gweithio gyda rhai o’r archfarchnadoedd mwyaf i gyflwyno newidiadau i ddeunydd gwisgoedd gweithwyr fel eu bod yn llai tebygol o orboethi ynddynt. Maent bellach yn darparu seibiannau gorffwys priodol ac yn caniatáu addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr sy’n mynd drwy’r menopos.

  2. Mae CWU, yr undeb sy’n cynrychioli gweithwyr post a thelecom, wedi ennill achosion ar gyfer aelodau sydd wedi bod yn agos at golli eu swyddi - lle'r oedd y cyflogwr wedi gorfodi gweithwyr i gymryd eu gwyliau blynyddol er mwyn cael llawdriniaeth fel hysterectomi.

  3. Mae UNISON wedi gweithio gyda byrddau iechyd i sefydlu caffis menopos, negodi newidiadau mewn polisïau menopos, tynnu sylw at fodelau rôl a darparu hyfforddiant i weithwyr.

  4. Mae undebau’r athrawon wedi gweithio gydag awdurdodau lleol i gael polisi menopos ym mhob ysgol, ac maent yn gweithio tuag at gyflwyno hyfforddiant menopos mewn ysgolion.

  5. Mae Undebau Llafur wedi gweithio i negodi newidiadau i bolisïau pob gweithle yn y sector cyhoeddus. Mae hyn yn golygu bod gan bob gweithiwr yng Nghymru sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus datganoledig bolisi menopos, a dylai eu cyflogwr fod yn cymryd camau i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud bywyd yn haws i’r rheini sy’n mynd drwy’r menopos.

    Darllenwch sut mae Suemarie o Gyngor Sir Ddinbych wedi helpu ei chyd-weithwyr – menywod a dynion –  i ddysgu am y menopos drwy hyfforddiant a ariennir gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru.

  6. Mae undebau wedi gweithio gyda meddygfeydd a meddygon teulu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r menopos mewn meddygfeydd. Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud hyn yn fater allweddol. Rydym wedi rhoi tystiolaeth i Grŵp Hollbleidiol Llywodraeth San Steffan ac wedi siarad â grŵp trawsbleidiol y Senedd ar iechyd Menywod.

  7. Mae undebau sy’n cynrychioli gweithwyr swyddfa fel Unite a GMB wedi gweithio i sicrhau bod hyfforddiant priodol ar gael i reolwyr, bod rheolyddion tymheredd yn y gweithle a bod addasiadau rhesymol yn cael eu negodi i ganiatáu patrymau gweithio hyblyg.

  8. Mae undebau trafnidiaeth fel yr RMT wedi sicrhau bod menywod sy’n mynd drwy’r menopos yn gallu cael cymorth, na ddylai unrhyw absenoldeb oherwydd salwch gosbi absenoldeb sy’n gysylltiedig â’r menopos a bod y trefniadau gweithio’n hyblyg, gan roi mwy o seibiannau i weithwyr.

  9. Mae undebau llafur wedi bod yn gweithio gyda’r Sefydliad Safonau Prydeinig i ddatblygu safonau menopos yn y gwaith, a fydd ar waith erbyn Gwanwyn 2023. Bydd y safonau yn nodi ffordd o weithio y cytunwyd arni o ran y menopos, yn ogystal â chreu dull arfer gorau a meini prawf manwl y dylai cyflogwyr eu dilyn mewn perthynas â’r menopos.

  10. Mae Undebau Llafur wedi gweithio gydag ACAS i wella canllawiau ar yr hyn y gallai cyflogwyr ei wneud i gefnogi staff sy’n mynd drwy’r menopos

Sut i gael help gyda’r menopos yn y gwaith

Os ydych chi’n cael problemau yn y gwaith ar hyn o bryd oherwydd y menopos, mae’n bwysig eich bod yn siarad â rhywun. Gall eich cynrychiolydd undeb eich helpu i siarad â'ch cyflogwr ynghylch pa addasiadau y gellir eu gwneud i'ch helpu.

Ddim mewn undeb? Dewch o hyd i undeb heddiw

Os ydych chi’n gynrychiolydd neu’n gyd-weithiwr sydd eisiau helpu rhywun sy’n mynd drwy’r menopos lawrlwythwch ein Pecyn Cymorth Menopos yn y Gweithle a defnyddiwch ein canllaw dysgu ar-lein am y menopos.