Dyddiad cyhoeddi
Mae Suemarie Jones yn Weithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Sir Ddinbych. Yn ystod pandemig Covid cafodd beth amser i ffwrdd o’r gwaith gyda symptomau’r menopos ac roedd hi’n ei chael hi’n anodd iawn cael diagnosis o’r menopos.
Suemarie Jones

Ar yr un pryd, lansiodd y cyngor gyrsiau hyfforddi iechyd meddwl. Roedd hyn yn cynnwys cwrs hyfforddi ar y menopos, a gafodd ei ariannu drwy brosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) Unite. Yn ddiweddar hefyd, lansiodd y cyngor bolisi ar gyfer y menopos a pholisi a strategaeth iechyd meddwl , ac mae wedi meithrin partneriaethau cryf gydag Unite the Union ac UNSAIN i gefnogi ei waith iechyd meddwl.

Rhannu profiadau o’r menopos

Ymunodd Suemarie â’r hyfforddiant a phenderfynodd rannu ei phrofiadau. “Fe wnes i siarad yn eithaf agored am y peth oherwydd ei fod yn ffres iawn yn fy meddwl i. Roeddwn i newydd ddechrau triniaeth ac roedd popeth yn gignoeth iawn.”

Ers hynny, mae hi wedi dod yn eiriolwr dros y menopos yn y cyngor. Mae’n ymuno â’r sesiynau hyfforddi i siarad am ei phrofiad personol ac mae’n eiriolwr dros fwy o ymwybyddiaeth.

“Dydw i ddim yn teimlo unrhyw gywilydd oherwydd mae’n rhan o fy mywyd. Rydw i’n meddwl bod siarad yn helpu ym mhob agwedd ar iechyd meddwl... Mae trafod a bod yn agored yn brofiad cadarnhaol.”

Suemarie Jones

Rhannu profiadau o’r menopos

Llinos Howatson yw’r Arbenigwr Dysgu a Datblygu ym maes Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Ddinbych. Mae’n dweud bod cael Suemarie yn eiriolwr dros y menopos wedi bod yn arf gwerthfawr i eraill. Mae’r cyngor hefyd wedi cynnal sesiynau hyfforddi penodol ar y menopos ar gyfer dynion, ac maen nhw’n boblogaidd iawn.

“Mae cael Suemarie yno i siarad yn agored am ei phrofiadau ei hun wedi annog merched eraill i siarad. Mae wir yn helpu i bobl yn y sefydliad uniaethu â’r profiad o menopos. Yr adborth rydw i wedi’i gael am sesiwn y dynion yw eu bod nhw’n ddiolchgar ei bod hi yno...gan na fydden nhw byth wedi gofyn y cwestiynau fel arall. Mae wedi rhoi’r hyder i ddynion ofyn y cwestiynau a siarad amdanyn nhw gyda’u cyd-weithwyr benywaidd a’r staff maen nhw’n eu rheoli.”

Menopos fel mater cydraddoldeb

Cyflwynwyd yr hyfforddiant ar y menopos yng Nghyngor Sir Ddinbych gan Jayne Woodman, sylfaenydd ‘ Y Tîm Menopos’. Dechreuodd Jayne gymryd rhan ar ôl mynd drwy’r menopos ei hun. “Roeddwn i’n meddwl, os yw hyn yn digwydd i mi, mae’n rhaid ei fod yn digwydd i bobl eraill.”

Jayne Woodman

Nod yr hyfforddiant y mae Jayne yn ei ddarparu yng Nghyngor Sir Ddinbych yw grymuso pobl â gwybodaeth am y menopos. Mae’n cynnwys gwybodaeth am yr achosion, y symptomau ac effaith y menopos os nad ydy rhywun yn cadw llygad ar y symptomau.

Mae’r hyfforddiant hefyd yn darparu gwybodaeth am driniaeth ac adnoddau pellach. Dywed Jayne, “Mae addysg yn caniatáu i bobl siarad am y peth... rydw i’n awgrymu lle gallan nhw gael gafael ar ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn iddyn nhw allu gweld yr atebion posibl. Rydw i hefyd yn ceisio eu helpu i ddeall sut i fynd ati i drafod gyda’u meddyg teulu.”

I Jayne, mae hyfforddiant ar y menopos yn hanfodol i wella iechyd a chydraddoldeb menywod yn y gwaith.

“Rydyn ni wastad yn gweld ... sefyllfaoedd lle nad ydy menywod yn cyrraedd y swyddi uchaf. Oni bai ein bod yn mynd i’r afael â’r menopos, dydy menywod byth yn mynd i gyrraedd yr uchelfannau gan na fydd eu hiechyd yn caniatáu iddyn nhw wneud hynny.”

Jayne Woodman

Rôl undebau llafur o safbwynt y menopos

Mae sesiynau hyfforddi’r menopos wedi cael effaith gadarnhaol iawn yng Nghyngor Sir Ddinbych. Drwy roi lle diogel i bobl ddysgu a gofyn cwestiynau, maen nhw wedi helpu i gael gwared ar gywilydd, embaras a stigma sy’n gysylltiedig â’r pwnc. Mae hefyd wedi grymuso menywod i gymryd perchnogaeth o’u hiechyd ac mae’n gwella lles a chydraddoldeb yn y gwaith.

“Mae cael y wybodaeth yn galluogi menywod i gymryd rheolaeth o’u hiechyd a’u lles eu hunain. Maen nhw’n gallu gwneud penderfyniadau oherwydd eu bod yn deall beth sy’n digwydd iddyn nhw a beth yw eu hopsiynau.”

Sue DaCasto

Fodd bynnag, mae gan undebau llafur rôl ehangach o ran cefnogi pobl y mae’r menopos yn effeithio arnynt.

Dywed Sue Da’Casto, Trefnydd Dysgu Rhanbarthol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru Unite , “Ein rôl fel undeb yw tynnu sylw at y ffaith bod addasiadau rhesymol ar gyfer staff sy’n dioddef salwch sy’n gysylltiedig â’r menopos, ac yn cael triniaeth ar ei gyfer, yn hanfodol.”

Dywed Richard Jackson, Trefnydd Dysgu Rhanbarthol Cronfa Ddysgu Undebau Cymru Unite arall, “Yn hytrach na rhoi menywod sy’n dioddef i’r naill ochr... dylem fod yn rhoi braich amdanynt ac yn eu cefnogi. Maent yn ychwanegu gwerth at y sefydliad. Os ydych chi’n eu diswyddo am nad ydynt yn gallu dod i’r gwaith... rydych chi’n colli’r rheini sy’n dod â phrofiad i’r sefydliad, sy’n beth ofnadwy.”

Mae llawer o’r tîm Adnoddau Dynol yn y cyngor hefyd wedi mynychu’r hyfforddiant. Maent yn dweud ei fod wedi eu helpu i ddeall y menopos yn well wrth reoli absenoldeb oherwydd salwch.

Mae’r cyngor nawr yn bwriadu grymuso mwy o bobl i fod yn eiriolwyr dros y menopos ac iechyd meddwl. Mae hefyd yn bwriadu creu modiwlau dysgu ar-lein er mwyn i bobl allu manteisio ar yr hyfforddiant unrhyw bryd.

Mae eraill yn y Cyngor yn bwriadu sefydlu grŵp ‘Cymorth ar gyfer y Menopos’. Yn ddiweddar, mae’r Cyngor hefyd wedi datblygu hyfforddiant ymwybyddiaeth iechyd meddwl ar gyfer rheolwyr ac mae’n annog staff i ddatblygu cynlluniau gweithredu iechyd meddwl. Bydd y cynlluniau hyn yn cael eu defnyddio i ragweld heriau iechyd meddwl cyn iddynt godi.

Cefnogi ymwybyddiaeth o’r menopos yn eich gweithle

Os ydych chi’n gynrychiolydd sy’n awyddus i gefnogi unigolyn sy’n mynd drwy’r menopos neu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r menopos yn ehangach, lawrlwythwch ein Pecyn Cymorth Menopos yn y Gweithle

Gallwch hefyd gwblhau a hyrwyddo ein canllaw dysgu ar-lein am y menopos. Mae’r canllaw yn trafod beth yw’r menopos, pam ei fod yn fater i’r gweithle a beth allwch chi ei wneud er mwyn gwneud gwahaniaeth.

Datblygwyd ac ariannwyd y rhaglen yng Nghyngor Sir Ddinbych gan Unite, fel rhan o raglen dreigl o hyfforddiant aml-undeb mewn partneriaeth ag Unison a GMB.