Dysgu rhywbeth newydd o gartref yn ystod cyfnod y coronafeirws

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Rydyn ni i gyd yn treulio mwy o amser yn y tŷ ar y foment. Efallai eich bod yn hunan-ynysu, yn gweithio gartref neu ar ffyrlo. Mae’n bosibl bod hyd yn oed y rheini sy’n weithwyr allweddol ac sy’n mynd allan i’r gwaith yn treulio mwy nag arfer o’u hamser rhydd gartref.

Mae’n wych gallu gwylio bocs-set neu chwarae gemau bwrdd. Ond beth am herio eich hun i ddysgu sgil newydd? Neu nawr o bosibl yw’r amser i ganfod ai bod yn drefnwr priodasau yw’r yrfa i chi.

Mae’r holl gyrsiau ar y gwefannau isod i’w cael am ddim. Mae digonedd o ddewis o destunau, o sgiliau ar gyfer y gweithle a TGCh i wyddor fforensig i ddechreuwyr.

Ac os gwelwch rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, rhowch wybod inni ar Twitter neu Facebook er mwyn inni ei rannu ag eraill. 

Cyrsiau TUC i gynrychiolwyr

Dysgwch sut i fod yn Gynrychiolydd Undeb, yn Gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch neu’n Gynrychiolydd Dysgu Undeb drwy fynd ar un o'n cyrsiau i gynrychiolwyr.

Cyrsiau byr y TUC

Cyrsiau byr ar broblemau yn y gweithle fel eich hawliau yn y gwaith, aflonyddu rhywiol a delio â’r adain dde eithafol. Ewch i'n safle addysg i ddysgu mwy

Prosiectau WULF

Mae prosiectau Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn gallu talu ar gyfer dysgu sy'n ymwneud a'ch gwaith neu'ch gyrfa. Defnyddiwch ein rhestr o undebau i ddarganfod y cyfleoedd sydd ar gael. Os nad ydych yn aelod o undeb gallwch dal elwa o brosiectau WULF - edrychwch am yr undebau sy'n gweithio yn eich sector. 

Coping with Covid

Defnyddiwch ein sesiynau fideo Coping with Covid byr i ddysgu sut i ofalu amdanoch chi eich hun yn ystod yr argyfwng coronafeirws.

UnionLearn

Cyrsiau byr ar-lein am ddim gan y TUC. Mae'r holl gyrsiau yn cymryd llai na 15 munud ac ar y pynciau canlynol: fideo-gynadledda diogel, helpu eich plant i ddysgu gartref, pum ffordd i gadw llesiant da, gweithio gartref diogel, dysgu gartref, a chyflwyniad i gyllid personol.

Gyrfa Cymru

Chwiliwch am y cwrs iawn i chi fesul pwnc, lleoliad neu lefel y cymhwyster. Mae rhai cyrsiau Gyrfa Cymru ar gael am ddim ond mae costau ar gyfer eraill. 

Gwersi Cymraeg am ddim

Mae Dysgu Cymraeg (platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer Cymraeg i oedolion) wedi cynhyrchu fideos 10 munud ar gyfer dysgwyr ar Facebook

Alison

Mae cyrsiau ar dechnoleg, iaith, gwyddoniaeth, iechyd, dyniaethau, busnes, mathemateg, marchnata, ffordd o fyw ar gael ar Alison.

Khanacademy

Academi nid er elw sy’n cynnig cyrsiau mathemateg, gwyddoniaeth a’r celfyddydau a Dyniaethau; gall hefyd eich helpu i baratoi am arholiadau. Yn cynnwys cymorth i rai sy’n ceisio dysgu’r plant gartref. Rhowch gynnig ar un o'u cyrsiau rhad ac am ddim heddiw.

Openlearn

Dros 1,000 o gyrsiau, fideos a thiwtorialau gan y Brifysgol Agored – gan gynnwys tiwtorial i weld a fyddech chi’n gwneud llygad dyst da ai peidio!

Cyflwyniad i'r Brifysgol Agored yng Nghymru

Futurelearn

Seicoleg ac iechyd meddwl, gwyddoniaeth, addysg a llawer, llawer mwy gan y Brifysgol Agored. Mae'r dewis llawn i'w weld yma.

Vision2learn

Cyrsiau sy’n canolbwyntio ar swyddi, gan roi sylw i bopeth o fusnes a gweinyddu i ofal dementia a maeth ac iechyd. Chwiliwch am gyrsiau hyblyg heddiw. 

Oxfordhomestudy

Trefnu priodasau, rheoli gwaith adeiladu, hyfforddiant bywyd, marchnata digidol, seiber-ddiogelwch a llawer llawer mwy i roi cynnig arnynt.

Learn My Way

Cyrsiau digidol am ddim megis defnyddio eich cyfrifiadur, gwybodaeth sylfaenol am fynd ar-lein, rhaglenni Office a sgiliau’r rhyngrwyd.

Dewch o hyd i hyd yn oed mwy o gyrsiau ar-lein trwy gronfa ddata UnionLearn.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs y telir amdano? Edrychwch ar y rhestr hon o gynlluniau a ariennir yng Nghymru sydd ar gael i unigolion a chyflogwyr.