Dyddiad cyhoeddi
Ein swyddogaeth ni fel undebwyr llafur yw cefnogi pobl i wella eu bywydau gwaith. Mae rhoi hyfforddiant a dysgu i bobl yn un o’r ffyrdd gorau y gallwn ni wneud hyn.

Ar hyn o bryd, mae llawer o gynlluniau a ariennir ar gael yng Nghymru i unigolion a chyflogwyr fel ei gilydd.  Bydd y cynlluniau hyn yn helpu i gael mwy o bobl i ddychwelyd i ddysgu, neu ddilyn cyfle hyfforddi newydd.

Mae’n hanfodol bod undebau yn cymryd rhan mewn cyflwyno dysgu a sgiliau ym mhob gweithle ac nad yw hyn yn cael ei adael i gyflogwyr yn unig.  Dyma’r ffordd orau i sicrhau bod pawb yn cael mynediad at y rhain a bod hyfforddiant yn cyrraedd y rhai hynny sydd ei angen fwyaf.

Mae buddion dysgu yn y gweithle yn eglur.  Mae’n gwella rhagolygon cyflogaeth a gyrfa'r unigolyn, ei fywyd cymdeithasol a chymunedol ac mae wedi cael ei brofi ei fod yn cael buddion iechyd sylweddol.  Mae’r rhain i gyd yn bethau sy’n arbennig o bwysig ar y funud, wrth inni geisio cael adferiad o argyfwng Covid.

Sut mae cynrychiolwyr a swyddogion yr undeb yn gallu defnyddio cynlluniau cyllid newydd ar gyfer dysgu yn y gweithle

Mae rhestr isod o gynlluniau a ariennir sydd ar gael yng Nghymru.  Tynnwch sylw eich cyflogwr, eich aelodau a’ch cydweithwyr atyn nhw os gwelwch yn dda.

  • Cronfa Ddysgu Undebau Cymru – cyrsiau rhad ac am ddim ar gyfer aelodau’r undeb a’r rhai nad ydyn nhw’n aelodau i helpu pawb symud ymlaen yn eu bywydau gwaith a’u bywydau personol.
  • Cyfrifon Dysgu Personol (CDP) – astudiaeth ran-amser ar gyrsiau penodol i’r rhai hynny sydd dros 19 oed ac sy’n ennill o dan £26,000 y flwyddyn, neu sydd ar ffyrlo, mewn gwaith ansefydlog neu mewn risg o gael eu diswyddo.
  • Porth Sgiliau ar gyfer busnes – mae’n cael ei redeg drwy Busnes Cymru ac mae’r cynllun hwn yn cynnig cymorth, canllawiau, grantiau a benthyciadau i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddyn nhw fuddsoddi mewn datblygu sgiliau eu gweithlu.

Yn ogystal, gallwch chi edrych ar y rhestr hon o gynlluniau cyflogaeth ar gyfer unigolion:

  • Twf Swyddi Cymru – ar gyfer y rhai sydd rhwng 16 a 24 oed er mwyn cael y profiad gwaith nad ydyn nhw’n meddu arno
  • ReAct – cyllid i ailhyfforddi neu ddiweddaru sgiliau ar gyfer gweithwyr sy’n wynebu diswyddiad, sydd wedi cael eu diswyddo, neu sydd wedi dod yn ddi-waith, ar 1af Ionawr 2020 neu ers hynny
  • Hyfforddeiaethau – rhaglen ddysgu ar gyfer y rhai hynny rhwng 16 i 18 oed er mwyn ennill y sgiliau sydd eu hangen i gael swydd neu symud ymlaen at ddysgu pellach neu fwrw prentisiaeth yn y dyfodol
  • Cymunedau dros Waith – mentora dwys yn y gymuned ar gyfer unigolion nad ydyn nhw’n gweithio, mewn addysg na hyfforddiant ac sy’n wynebu rhwystrau cymhleth i gael gwaith
  • Cymunedau dros Waith a Mwy – mentora dwys ar gyfer pobl sydd un ai mewn risg o dlodi ac nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau eraill a restrir yma
  • PaCE – Cymorth ar gyfer ffioedd gofal plant i’r rhai hynny sy’n chwilio am waith

A’r rhestr hon o gynlluniau ar gyfer cyflogwyr:

Cymorth pellach gan TUC Cymru

Mae TUC Cymru yma i’ch helpu chi i hyrwyddo dysgu a sgiliau yn eich gweithle, gyda staff arbenigol sydd wedi’u hyfforddi i’ch cynghori a’ch cefnogi chi.

Gall ein Swyddogion Cymorth Dysgu’r Undebau (SCDUau) eich helpu chi i:

  • ddatblygu rhaglenni dysgu a sgiliau yn y gweithle
  • cael mynediad at y rhaglenni a ariennir a restrwyd uchod
  • dilyn hyn drwy gynnig hyfforddiant yn y gweithle unwaith yr ydych chi wedi derbyn y cyllid

Mae’n amser yn awr i hyfforddi, ac felly cysylltwch ag un o’n SCDUau i drafod sut y gallwn ni eich helpu chi i wneud gwahaniaeth yn y gweithle.

Gogledd Cymru: Gareth Hathway ghathway@tuc.org.uk

Canolbarth Cymru: Mark Rees mrees@tuc.org.uk

Gorllewin Cymru: Linsey Imms limms@tuc.org.uk

De Cymru: Kat Wood kwood@tuc.org.uk a Kevin Williams kwilliams@tuc.org.uk

Recriwtio neu ailhyfforddi Cynrychiolydd Dysgu’r Undebau (CDU) yn eich Gweithle

Mae Cynrychiolwyr Dysgu’r Undebau (CDUau) yn aelodau allweddol o unrhyw gangen neu dîm cynrychiolwyr y gweithle, ac rydym ni angen mwy o CDUau sydd wedi hyfforddi ac yn weithredol yng Nghymru.

Yn eu gweithle, bydd CDU yn:

  • codi ymwybyddiaeth ynglŷn â gwerth dysgu
  • helpu i drefnu cyrsiau
  • cefnogi ac annog aelodau i gymryd rhan mewn dysgu
  • hyrwyddo cydraddoldeb ac iechyd a llesiant drwy ddysgu

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Gynrychiolydd Dysgu’r Undeb, siaradwch ag ysgrifennydd eich cangen.  Mae hyfforddiant rhad ac am ddim ar gael gan TUC Cymru.  Ar hyn o bryd, mae’r hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar-lein gan ein tiwtoriaid undeb llafur cymwys, yn union fel y bydden nhw’n ei wneud yn yr ystafell ddosbarth.

Gallwn ni eich darparu chi ag adnoddau i recriwtio a chefnogi CDUau yn eich gweithle – cysylltwch â wtuc@tuc.org.uk

Darllenwch fwy ynglŷn â beth y mae CDUau yn wneud