Amser i reoli technoleg

Dyddiad cyhoeddi
Dylai undebau fanteisio ar y cryfder cymharol sydd ganddynt ar hyn o bryd i fynnu a sicrhau dyfodol tymor hir eu haelodau yn wyneb datblygiad cynyddol robotiaid.

Dyma ddywed Kristen Broady o Sefydliad Brookings, sefydliad dylanwadol yn America. Fe ysgrifennodd y dylai undebau, mewn cyfnod lle nad oes gan weithwyr gymaint o rym, negodi ynghylch awtomeiddio nid dim ond cyflogau. Dylent wthio cyflogwyr i dalu costau uwchsgilio, gan sicrhau sefydlogrwydd tymor hir i weithwyr.

Mae ei sylwadau’n cyd-fynd ag adroddiad newydd gan TUC Cymru a gynhyrchwyd gan yr Adran Ymchwil Llafur, Negodi Awtomatiaeth a Thechnoleg Newydd.  Mater i bob undeb llafur a changen yw penderfynu ar eu blaenoriaethau.  Fodd bynnag, mae ein hadroddiad yn canfod, er nad yw’n sicr eto beth fydd effaith technoleg newydd  ... yr hyn sy’n amlwg yw ei fod yn fater brys, a nawr yw’r amser i weithredu.

Oherwydd, unwaith y bydd robotiaid a systemau awtomataidd yn eu lle, mae’n anodd iawn i weithwyr eu herio. Does dim modd i chi ddadlau gyda pheiriant neu raglen gyfrifiadurol! Fel mudiad undeb, mae angen i ni fod ar flaen y gad a mynnu ein hawliau cyn i beiriannau ac algorithmau gael y llaw uchaf.

Mae ein hadroddiad newydd yn cynnig ffyrdd y gall gweithwyr gymryd yr awenau. Mae’n rhoi enghreifftiau ysbrydoledig, lle mae gweithwyr eisoes wedi taro cytundebau i sicrhau eu dyfodol mewn byd technolegol. Er enghraifft, mae un cwmni rheilffyrdd enfawr, sef DB yn yr Almaen, wedi cytuno â’u hundeb ar gyfres o gamau i ddiogelu gweithwyr pan fydd technoleg newydd yn cael ei chyflwyno.

Mae’r cytundeb yn nodi y bydd yr undeb yn ymwneud â datblygu sgiliau, o werthuso’r hyn sydd ei angen ar gyfer swyddi, i weithio gyda darparwyr hyfforddiant i ail-lunio cyrsiau.  Mae DB yn rhedeg gwasanaethau cludo nwyddau ar reilffyrdd ym Mhrydain.  Oni fyddai’n wych petai cwmnïau trafnidiaeth eraill yn dilyn eu hesiampl gyda threfniadau tebyg yma?

Mae cytundebau technoleg newydd yn allweddol i sicrhau bod gweithwyr, ac nid dim ond eu rheolwyr, yn elwa o dechnoleg newydd.  Yn ôl Broady, mae hyfforddiant yn allweddol i hyn gan fod cwmnïau’n aml yn adennill costau rhaglenni hyfforddi naill ai’n rhannol neu’n llawn drwy enillion cynhyrchiant a geir gan weithwyr sydd wedi uwchsgilio, mae’n gwbl briodol bod cwmnïau’n buddsoddi mewn cynlluniau hyfforddi.

Ar ben hynny, dylai gweithwyr gael dweud eu dweud am ansawdd y gwaith pan gyflwynir awtomatiaeth.  Fel y dywed ein hadroddiad, mae digon o brofiad i ddangos nad yw arloesedd digidol yn gwarantu gwaith o safon deilwng yn awtomatig. Dylai cytundeb ar y cyd sicrhau, wrth i dechnoleg drawsnewid pob math o alwedigaethau, nad yw’n cael ei defnyddio fel esgus i ddibrisio neu leihau sgiliau swyddi na diraddio gweithwyr mewn unrhyw ffordd a’i bod, yn hytrach, yn hyrwyddo Gwaith Teg.”

Yn yr un modd, wrth siarad mewn digwyddiad diweddar ar ddeallusrwydd artiffisial, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, os yw cwmnïau’n gwneud mwy o arian drwy dechnoleg newydd, yna rydyn ni, y gweithwyr, eisiau cyfran deg o hynny hefyd. 

Yn wir, mae cysylltu arloesedd â gwell telerau ac amodau yn un o ofynion allweddol ein hadroddiad newydd, sy’n nodi y dylai cyflwyno technoleg newydd i wella cynhyrchiant arwain at well cyflog ac amodau i aelodau, boed hynny’n gynnydd cyflog neu’n ostyngiad mewn amser gweithio heb golli cyflog.

Mae ein hadroddiad hefyd yn argymell camau gweithredu ar lefel genedlaethol i sicrhau manteision technolegol i weithwyr. Mae’n cyfeirio at enghreifftiau yn Singapore ac mewn mannau eraill lle mae undebau wedi cytuno â chyflogwyr a’r llywodraeth mewn partneriaeth gymdeithasol i ddiogelu a gwella rolau gweithwyr pan fydd gweithleoedd yn cael eu hawtomeiddio.

Yn nes at adref, mae Cyngor Partneriaeth y Gweithlu Cymru wedi cyhoeddi cytundeb yn ddiweddar ynghylch Rheoli'r Newid i Weithle Digidol

Mae undebau, cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a’r llywodraeth wedi cytuno i bum egwyddor Gwaith Teg yn y maes hwn. Yn hollbwysig, mae’r rhain yn cynnwys ymrwymiadau i ailhyfforddi a pharchu hawliau gweithwyr. Rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru roi’r cytundeb hwn ar waith yn awr.

Os yw’n wir fod yr adeg hon yn cynnig cyfle i weithwyr ac undebau, yna mae cytundebau fel DB ar y rheilffyrdd ac ar gyfer sector cyhoeddus Cymru yn cynnig glasbrint i weithwyr gael cyfle i reoli technoleg er budd iddyn nhw.

.