Sefydlu'r brentisiaeth gyrru trên gyntaf erioed i Gymru

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Yn Hydref 2021 lansiwyd y brentisiaeth gyrru trên gyntaf erioed i Gymru. Datblygwyd hi gan ASLEF, yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, TUC Cymru, Academi Sgiliau Genedlaethol y Rheilffyrdd a Cymwysterau Cymru.

Yn ystod Wythnos Prentisiaethau, mae Emma Penman o ASLEF yn dweud wrthym am y broses a sut wnaethon nhw oresgyn nifer o rwystrau a heriau ar hyd y ffordd.

Yn ASLEF roeddwn ni'n ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig bod Gyrwyr Trenau yn cael cydnabyddiaeth am y lefel uchel o hyfforddiant y maent yn mynd drwyddo er mwyn ennill eu “hallwedd” a chymwysterau cydnabyddedig i adlewyrchu’u sgiliau.

Felly, nifer o flynyddoedd yn ôl, dechreuom ymgyrch i gael prentisiaeth gyrru trên. 

Dechrau ein hymgyrch i gael prentisiaeth gyrru trên

Emma Penman, ASLEF
Emma Penman, ASLEF

Dechreuodd ASLEF, gyda chefnogaeth TUC Cymru, drwy lobïo’r cwmni trenau.

Ym mis Ebrill 2019, sefydlwyd gweithgor yn benodol i ddatblygu Cymhwyster/Prentisiaeth Gyrru Trên i Gymru. Roedd y grŵp yn cynnwys Pennaeth Dysgu a Datblygu Trafnidiaeth Cymru; Swyddog Dysgu TUC; aelodau o Gyngor Cwmni ASLEF; Gweithiwr Prosiect Addysg ASLEF; swyddogion o Lywodraeth Cymru, a’r Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Rheilffyrdd.

Cytunodd y grŵp bod angen cymhwyster ffurfiol, felly ein camau nesaf oedd ceisio cael corff dyfarnu i ddatblygu’r fframwaith a gwneud cais am gyllid.

Yr Heriau

Bu Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda chyrff dyfarnu i geisio rhoi’r cymhwyster ar waith ond dyma pryd y cododd yr her fwyaf: Dywedodd y cyrff dyfarnu fod nifer y bobl a fyddai’n dilyn y brentisiaeth bob blwyddyn yn rhy isel i gyfiawnhau ei datblygu. Roedd hyn yn amlwg yn achos rhwystredigaeth i’r gweithgor.

Cymorth gan Lywodraeth Cymru

Diolch i hanes hir o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, roedd modd i ASLEF droi at ein perthynas â Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, i egluro’r broblem. Roedd y Gweinidog yn awyddus i gefnogi’r cymhwyster ac, ar 5ed Mawrth 2020, ysgrifennodd i gyfarwyddo y dylai’r gweithgor gysylltu â Cymwysterau Cymru i oruchwylio dyluniad y cymhwyster newydd a chomisiynu corff dyfarnu.

Y broses partneriaeth

Ym mis Medi 2020, bu Ian Thompson, Ysgrifennydd Cyngor Cwmni ASLEF, ac Emma Penman yn y cyfarfod rhanddeiliaid cyntaf gyda Trafnidiaeth Cymru (TrC) a’r sefydliadau partner a oedd wedi ymuno i ddatblygu’r cymhwyster: Coleg y Cymoedd (partner darparu’r brentisiaeth) ac EAL (corff dyfarnu sgiliau arbenigol).

Roeddem wedi cytuno y byddai’r cymhwyster yn cael ei ddatblygu o strwythur presennol TrC ar gyfer hyfforddi gyrwyr trenau. Cafodd hyn ei fapio gan EAL i greu cymhwyster. Fe’i gosodwyd ar lefel 3 ac fe’i datblygwyd o dan Fframwaith Prentisiaeth Cymru i gynnwys Sgiliau Hanfodol lefel 2 (llythrennedd, rhifedd a TGCh). Datblygodd EAL gymhwyster annibynnol – y Diploma Lefel 3 mewn Gyrru Trenau.

Ym mis Ionawr 2021, pan gyflwynwyd prif gorff y cymhwyster, cymerodd ASLEF ran mewn ymarferiad ymgysylltu swyddogol a ddaeth â Llywodraeth Cymru ac Academi Sgiliau Cymru i mewn i’r grŵp rhanddeiliaid i gymeradwyo’r gwaith yn swyddogol.

Ar 8fed Chwefror 2021, cafodd EAL Diploma Lefel 3 mewn Gyrru Trenau – C00/4312/6, gymeradwyaeth gan Cymwysterau Cymru gyda dyddiad cychwyn gweithredol o 1af Mawrth 2021.

Yn dilyn ymarferiad ymgynghori cyhoeddus pedair wythnos (rhannu’r cymhwyster gyda sefydliadau fel ASLEF, Darparwyr Dysgu a Chwmnïau Gweithredu Trenau), rhoddodd Llywodraeth Cymru gymeradwyaeth i symud ymlaen i ennill statws prentisiaeth.

Lansio'r brentisiaeth gyrru trên

TfW cohort of train driver apprentices on enrolment day with Training Team & ASLEF Project Worker
TfW cohort of train driver apprentices on enrolment day with Training Team & ASLEF Project Worker

Yna, aeth llawer o waith yn ei flaen y tu ôl i’r llenni, gan ein partneriaid sy’n rhanddeiliaid, i wireddu’r fenter. Ym mis Awst 2021, sefydlwyd y Brentisiaeth Gyrru Trên gyntaf erioed i Gymru ac, erbyn mis Hydref, dros 40 o brentisiad wedi cofrestru gyfa Trafnidiaeth Cymru.

Mae TrC yn gobeithio recriwtio tua 100 o brentisiaid bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf. Mae’r fenter gyffrous hon yn llwyddiant mawr ac fe ddaeth i fodolaeth drwy wir ysbryd cydweithio.

Amrywiad o fewn y brentisiaeth gyrru trên

Bydd ASLEF yn parhau i fod yn rhan o’r rhaglen brentisiaeth yn Trafnidiaeth Cymru drwy ein partneriaeth gymdeithasol. Bydd yr undeb yn parhau i gefnogi prentisiaid newydd ac yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i sicrhau amrywiaeth mewn rhaglenni recriwtio a chefnogi anghenion hyfforddi ychwanegol.

Ar hyn o bryd dim ond 4 y cant o yrwyr trên yng Nghrymu sy'n fenywod felly rydym yn falch i weld bod 7 y cant o'r prentisiad yn fenywod. Dwedodd un ohonynt:

Rwy'n credu bod y brentisiaeth rydym wedi'i chynnig yn gyfle gwych i gydnabod y swydd gyda chymhwyster ffurfiol. Mae'r gefnogaeth sydd ar gael yn ardderchog o ran adeiladu ar yr hyn rwy'n ei ddysgu i ddatblygu fy ngyrfa o fewn y diwydiant rheilffyrdd ac rwy'n edrych ymlaen at gwblhau'r gwaith.

Helen Ward o Gaerdydd