Dyddiad cyhoeddi
Mae adroddiad annibynnol ar Ddyfodol Gwaith a Datganoli yng Nghymru gan yr Athro Jean Jenkins o Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw gan TUC Cymru.

· Mae adroddiad annibynnol ar Ddyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru gan yr Athro Jean Jenkins, Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael ei gyhoeddi heddiw gan TUC Cymru.

· Mae'r adroddiad yn galw am newidiadau enfawr yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â gwaith a gorfodi hawliau llafur yng Nghymru.

· Mae’r adroddiad hefyd yn argymell creu swydd Gweinidog dros Waith yng Nghabinet nesaf Llywodraeth Cymru, a bod undebau llafur yn sefydlu gweithgor ar ymarferoldeb datganoli hawliau cyflogaeth.

· Ar gyfer yr adroddiad, fe wnaeth Opinium Research holi gweithwyr yng Nghymru, ac fe wnaethon nhw ddarganfod bod rhaniad cyfartal rhwng gweithwyr ar fater datganoli hawliau cyflogaeth – gyda gweithwyr iau yn cefnogi datganoli ond gweithwyr hŷn yn ei wrthwynebu.

· Yng Nghyngres TUC Cymru ym mis Mai, bydd undebau yng Nghymru yn gwneud penderfyniad ynglŷn â datganoli.

Mae TUC Cymru wedi cyhoeddi adroddiad terfynol Comisiwn Dyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru heddiw (dydd Mercher 10 Ionawr).

Mae'r adroddiad, a ysgrifennwyd gan yr Athro Jean Jenkins, Ysgol Busnes Caerdydd, yn cyflwyno’r achos i Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r dulliau sydd ganddi i gefnogi gweithwyr yng Nghymru yn well - drwy fuddsoddi mewn gorfodi hawliau yn y gwaith, partneriaethau newydd gyda chyrff gorfodi'r farchnad lafur yn y DU, mwy o dryloywder, a hyfforddiant.

Mae'r Athro Jenkins yn sôn am realiti heriol gwaith yng Nghymru mewn economi sydd â lefelau isel o ddiweithdra, yn ogystal â chyfraddau uchel o anweithgarwch economaidd, ansicrwydd swyddi a chyflogau sydd wedi aros yn fwy neu lai yr un fath ers 15 mlynedd.

Mae hi hefyd yn tynnu sylw at y gwendidau yn y ffordd y mae hawliau cyfreithiol yn cael eu gorfodi yn y gwaith ar hyn o bryd yng Nghymru. Dim ond cyfanswm o £10.45 sy'n cael ei wario ar orfodi hawliau i bob gweithiwr ac mae capasiti cyrff arolygiaeth y farchnad lafur yn safle 27 allan o 33 o wledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Daw'r adroddiad i'r casgliad nad yw ffocws ar ddatganoli hawliau cyflogaeth ar ei ben ei hun yn debygol o arwain at welliannau sylweddol i weithwyr oni bai ei fod yn dilyn gwaith cynllunio hynod ofalus yn ogystal â mwy o gyllid. Mae'r Athro Jenkins yn argymell bod undebau yng Nghymru yn sefydlu gweithgor i edrych yn fanwl ar ymarferoldeb datganoli hawliau cyflogaeth yn fanwl.

Gwyliwch yr Athro Jenkins yn siarad am yr adroddiad: 

Barn y Gweithwyr

Wedi’u holi gan Opinium Research am eu barn ar ddatganoli hawliau cyflogaeth, mae rhaniad cyfartal yn y gweithwyr yng Nghymru – gyda 45% yn credu mai Llywodraeth Cymru ddylai fod â rheolaeth a 44% yn credu mai Llywodraeth y DU ddylai fod. Mae rhaniad rhwng cenedlaethau yn y data – mae gweithwyr iau yn llawer mwy tebygol o gefnogi Caerdydd i reoli hawliau gweithwyr, tra bod gweithwyr hŷn o blaid aros yn San Steffan.

Yn wahanol i hyn, roedd cefnogaeth gryfach i ddatganoli mewn meysydd polisi fel iechyd, addysg a datblygu economaidd.

Dywedodd yr Athro Jean Jenkins, Athro Cysylltiadau Cyflogaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd: "Mae fy adroddiad yn asesiad gonest o sefyllfa gweithwyr yng Nghymru yn 2024. Mae gormod o lawer o bobl wedi cael profiad ansicr, cyflogau sydd wedi aros yn fwy neu lai yr un fath, a system hawliau llafur sy'n darparu ychydig iawn o amddiffyniad.

"Y gwir amdani yw bod llawer o'r cyfreithiau sydd i fod i gefnogi gweithwyr yn bodoli ar bapur yn unig. Ychydig iawn o wledydd eraill sydd â dulliau mor wan o orfodi hawliau, ac mae angen i ni flaenoriaethu newid os ydym eisiau gwidderu’r weledigaeth ar gyfer Gwaith Teg Cymru.

“Rwyf wedi amlinellu set uchelgeisiol o argymhellion sy’n canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei wneud yma ac yn awr yng Nghymru i wella pethau, tra’n gosod map llwybr ar gyfer y gwaith ymarferol y byddai angen ei wneud cyn unrhyw ystyriaeth bellach o ddatganoli hawliau cyflogaeth i Gymru.

"Rwyf yn wirioneddol yn gobeithio bod ein gwleidyddion, undebau a chyflogwyr i gyd yn cydnabod yr angen brys i ddiwygio."

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae argymhellion yr Athro Jenkins yn canolbwyntio ar ail-lunio bywyd gwaith yng Nghymru – drwy fuddsoddi mewn gorfodi hawliau a newid y wladwriaeth ddatganoledig tuag at ailadeiladu'r amodau sy'n angenrheidiol i weithwyr fod yn ymwybodol o’u hawliau llafur sylfaenol.

“Mae Llywodraeth Geidwadol yn y DU wedi ein siomi dros y 14 mlynedd diwethaf gan nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn cefnogi gweithwyr. Bydd undebau yng Nghymru yn pwyso a mesur yr adroddiad pwysig hwn, a byddant yn cyflwyno ein safbwynt ar ddatganoli pellach i Gymru yng nghyfarfod Cyngres TUC Cymru ym mis Mai.”