Cyrraedd gweithwyr iau – sut i adeiladu eich cangen

Dyddiad cyhoeddi
Y tro nesaf y byddwch chi mewn cyfarfod tîm yn y gwaith, neu’n edrych ar eich cydweithwyr i gyd mewn cyfarfod zoom, gofynnwch i chi eich hun, faint o’r bobl yn yr ystafell hon sy’n aelodau o undeb? Faint o’r bobl iau ar yr alwad hon sy’n aelodau o undeb? Os mai’r ateb yw “dim llawer”, dyma bum ffordd gallwch chi adeiladu eich cangen heddiw.

1) Recriwtio aelodau newydd

Y peth cyntaf mae angen i chi ei wneud yw mapio eich gweithle. Mae angen i chi wybod ble mae pobl yn gweithio, ar ba batrymau a pha mor aml. Gallwch chi naill ai gael gafael ar rota staff a’i chroesgyfeirio hi â’ch rhestr o aelodau neu siarad â phobl mewn gwahanol adrannau.

Gan ddibynnu ar faint eich gweithle, gall hyn fod yn dasg fawr, felly peidiwch â theimlo bod angen i chi wneud y cyfan ar unwaith, nac ar eich pen eich hun. Mae gofyn i bobl eraill helpu yn ffordd dda o feithrin gwaith tîm.

Pan fydd y wybodaeth hon gennych chi, bydd yn rhoi darlun mwy cyflawn i chi o’ch sefyllfa. Bydd yn eich helpu i ddeall patrymau yn eich aelodaeth, er enghraifft a yw eich aelodau’n tueddu i fod i gyd mewn un adran neu’n perthyn i un demograffig?  Os ydynt, beth ydych chi’n mynd i’w wneud am y peth?

Mae rhagor o gyfarwyddiadau ar gyfer ymarfer mapio ar gael yn ein Pecyn offer cyrraedd gweithwyr iau

2) Trosglwyddo eich gwybodaeth

Un o’r ffyrdd y gallwn ni gyflwyno cynrychiolwyr newydd yw drwy rannu eich profiadau.

Fel cynrychiolydd mae gennych chi lawer o wybodaeth ac arbenigedd ond beth sy’n mynd i ddigwydd ar ôl i chi symud ymlaen, neu ymddeol?

Mae mentora aelod neu grŵp o aelodau ifanc i gymryd eich lle yn un ffordd o drosglwyddo’r wybodaeth honno fel na chaiff ei cholli ar ôl i chi adael.

Gallwch chi hefyd greu lle i gynrychiolwyr ifanc dyfu, er enghraifft os ydych chi’n gynrychiolydd undeb ac yn gynrychiolydd Iechyd a Diogelwch, allwch chi hyfforddi aelod ifanc i gymryd un o’r safleoedd hynny gennych chi?

3) Defnyddio cyfryngau cymdeithasol

Facebook, Twitter, Instagram, Tik Tok…

Rydyn ni i gyd yn gwybod bod cyfryngau cymdeithasol yn gallu ein helpu ni i gyfathrebu â phobl nad ydyn ni’n eu gweld bob dydd. Ond ble rydych chi’n dechrau ei ddefnyddio yn eich undeb?

Yn gyntaf, meddyliwch pam hoffech chi ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Ai i recriwtio aelodau newydd? Neu i greu cymuned gefnogol i’r aelodau sydd eisoes yn eich cangen?

Yna, meddyliwch am eich cynulleidfa darged.

Pa blatfform maen nhw’n ei ddefnyddio amlaf? Nawr, meddyliwch am gynnwys.

Beth fydd eich cynulleidfa darged yn ei hoffi orau? Cyngor defnyddiol? Memes i godi calon?

Yn olaf, meddyliwch amdanoch chi. Beth mae gennych chi’r amser a’r sgiliau i allu ei gyflawni? Gall eich undeb helpu â hyfforddiant os oes ei angen arnoch.

Cofiwch nad yw cyfryngau cymdeithasol yn cymryd lle sgyrsiau wyneb-yn-wyneb hen-ffasiwn wrth drefnu pethau.

Ond wrth ei ddefnyddio’n dda, gall fod yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, adeiladu perthnasoedd a thynnu sylw at waith gwych eich undeb. Mae hefyd yn gallu bod yn llawer o hwyl, felly ewch ati heddiw!

4) Dal i ddysgu

Mae byd gwaith yn newid yn gyflym ac fel cynrychiolwyr, mae’r sgiliau sydd eu hangen i gynrychioli aelodau ac ymgysylltu â nhw’n newid hefyd. Dyna pam mae angen i ni sicrhau bod ein sgiliau’n gyfredol o hyd.

Mae addysg undebau llafur TUC Cymru yn cynnig pob math o ddysgu ar-lein ac mewn ystafelloedd dosbarth am ddim, ac wrth gwrs, mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yno i helpu hefyd. Gallwch chi hefyd ddysgu awgrymiadau a thriciau gan gynrychiolwyr eraill drwy ddod i un o’n digwyddiadau rhwydweithio.

5) Gofalu amdanoch chi eich hun

Peidiwch ag anghofio gofalu amdanoch chi eich hun.

Maen nhw’n dweud mai hunanofal yw rhoi eich gorau i’r byd, nid beth bynnag sydd ar ôl gennych chi. Mae bod yn gynrychiolydd yn gallu bod yn rôl sy’n rhoi boddhad mawr i rywun.  Ond mae hefyd yn gallu bod yn flinedig – yn emosiynol ac yn gorfforol.

Allwch chi ddim cynrychioli eich aelodau hyd eithaf eich gallu os ydych chi wedi blino eich hun.

Cymerwch amser i ffwrdd pan fydd angen, a cheisiwch rannu’r baich cynrychioli â’r gangen yn hytrach na’i roi i gyd ar eich ysgwyddau chi. Mae’n wych bod hyn yn bwysig i chi, ond mae angen i chi gofio gofalu amdanoch chi eich hun.

Gwnewch restr o bopeth rydych chi’n falch o fod wedi’u cyflawni fel cynrychiolydd. Cadwch hi gerllaw ac edrychwch arni i gael ysbrydoliaeth pan fydd pethau’n teimlo’n anodd.

Beth wnewch chi heddiw i wneud yn siŵr eich bod chi’n rhoi eich gorau i’r byd?

Yn olaf... croesawu newid

Rydyn ni’n gwybod bod aelodau newydd yn golygu syniadau newydd, ffyrdd newydd o wneud pethau a ffyrdd newydd o ennill. Nid oes dim byd gwerth chweil byth yn dod yn hawdd, ond gyda’n gilydd gallem adeiladu mudiad sy’n barod i wynebu heriau’r dyfodol.

Mae wythnos Caru Undebau yn amser gwych i roi rhai o’r awgrymiadau uchod ar waith. Fel undebau, mae angen i ni fod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cysylltu ag aelodau newydd, ac ag aelodau iau. Os oes angen mwy o gyngor arnoch am sut i dyfu eich cangen, cysylltwch â ni yn wtuc@tuc.org.uk