Cymru ble mae gan bawb y rhyddid fod yn nhw eu hunain - pam mae’n rhaid i weithleoedd fod yn gynhwysol ar gyfer gweithwyr LHDTC+

Awdur
Phil Jones Guest
Dyddiad cyhoeddi
Mae pob un ohonom yn haeddu cael bod yn ni ein hunain. Mae pob un ohonom yn haeddu urddas, parch a charedigrwydd yn y gwaith.

Fel undebwyr Llafur, rydym yn deall pwysigrwydd triniaeth deg yn y gweithle. Ond fel aelodau o'r gymuned LHDTC+, gall cyflogwyr wahaniaethu yn ein herbyn o hyd, neu beidio â sicrhau bod diogelwch wedi’i warantu. Mae’n rhaid i hyn newid.

Credaf y bydd cynllun gweithredu 10 cam newydd TUC Cymru yn helpu i gyflawni'r newid y mae'n rhaid i ni ei weld.

Mae'r canllaw newydd yn cynnwys 10 cam syml a fydd yn helpu cynrychiolwyr i negydu am weithleoedd gwell ar gyfer gweithwyr LHDTC+.

Lawrlwythwch y 10 cam tuag at weithleoedd cynhwysol LGBTQ+

Camau i'r cyfeiriad cywir ar gyfer gweithwyr LHDTC+

Er bod cymdeithas wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf gyda chyfreithiau gwell, barn y cyhoedd, a derbyn unigolion LHDTC+ yn gymdeithasol, mae casineb tuag at unigolion LHDTC+ yn parhau i fodoli mewn nifer o weithleoedd.

Mae pobl drawsryweddol, yn enwedig, yn fwy tebygol o wynebu gwahaniaethu neu iaith casineb yn y gwaith, yn gyhoeddus neu ar-lein.  Mae’n llai tebygol iddyn nhw ddod o hyd i waith yn y lle cyntaf, hyd yn oed.

Rydym am weld gwelliannau yn y modd y mae unigolion LHDTC+ yn cael mynediad diogel at ofal iechyd, tai, addysg, gweithleoedd a mannau cymunedol.  Rhaid i ni sicrhau bod ein cofnod hawliau dynol yng Nghymru yn datgan ei fod yn lle croesawgar, diogel a chynhwysol i fyw a gweithio ynddo.

Fel mudiad undeb llafur, rydym wedi mynychu trafodaethau â'r llywodraeth, wedi cyfrannu tuag at ymgynghoriadau LHDTC+, wedi dylanwadu ar bolisïau, ac wedi gwneud llawer o newidiadau a chynlluniau.  Ond rydym yn ymwybodol na fydd y newidiadau yr ydym yn dymuno eu cael ond yn digwydd yn sgil gwaith caled ac ymroddiad aelodau'r undebau llafur.

Eich 10 cam tuag at weithle mwy cynhwysol ar gyfer pobl LHDTC+

Fel cadeirydd fforwm LHDTC+ TUC Cymru, rwyf yn falch fy mod wedi gweithio ar y canllaw gweithle newydd sy'n nodi sut y gall cynrychiolwyr undebau a gweithleoedd:

  1. Ymgorffori iaith niwtral o ran rhywedd
  2. Sicrhau fod y profiad o fynegi rhagenwau yn y gweithle yn un cyfforddus i weithwyr
  3. Cefnogi gweithwyr sy’n trawsnewid
  4. Ystyried polisïau'r gweithle
  5. Datblygu hyfforddiant a chynnydd
  6. Peidio â thanbrisio grym negygu
  7. Ystyried arferion gwrth-fwlio yn y gweithle
  8. Sefydlu grŵp neu rwydwaith LHDTC+ a gefnogir gan staff yr undeb
  9. Cofio'r gorffennol drwy anrhydeddu'r dyfodol
  10. Adeiladu undeb cryf

Y gweithleoedd mwyaf diogel a chynhwysol yn y byd

Os byddwn yn cydweithio er mwyn cyflawni’r newidiadau hyn, credaf y gallwn greu'r gweithleoedd mwyaf diogel a chynhwysol yn y byd.  
Bydd angen ymdrech, ymrwymiad a pharodrwydd i sefyll dros yr hyn sy'n iawn, ond gallwn gyflawni hyn.

Fel undebwyr llafur, ein cyfrifoldeb ni yw brwydro dros hawliau pob gweithiwr, beth bynnag yw eu hunaniaeth rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol.

Trwy weithio gyda'n gilydd a chefnogi ein gilydd, gallwn greu byd ble mae pawb yn rhydd i fod yn nhw eu hunain ac yn teimlo'n ddiogel wrth wneud hynny.  Gallwn greu dyfodol gwell ar gyfer pob gweithiwr a sicrhau fod Cymru’n arweinydd hawliau LHDTC+.