Chwalu rhwystr iaith drwy ddysgu yn y gweithle

Dyddiad cyhoeddi
Fel plentyn roeddwn i bob amser yn teimlo bod y Gymraeg yn rhywbeth ‘arall’, yn rhywbeth gwahanol nad oedd yn rhan o fy mywyd i. Ond yn ddiweddar, rydw i wedi sylweddoli gymaint o ddylanwad mae hi wedi’i gael ar fy mywyd i a sut mae'r iaith wedi bod o fy nghwmpas i erioed, hyd yn oed pan nad oeddwn i’n sylwi arni.

Roedd yr ysgol fabanod roeddwn i'n mynd iddi mewn hen adeilad Fictoraidd wedi’i rannu’n ddau. Gan fod y plant Saesneg eu hiaith yn chwarae ar eu iard hwy, a bod y plant o’r ysgol Gymraeg yn chwarae ar eu hochr nhw, roeddem yn ymwybodol o sut roeddem yn gallu gweld ein gilydd ond roeddem ar wahân. Dyma oedd fy mhrofiadau cynharaf o gael fy ngwahanu gan rwystr iaith.

Rwy’n dod o deulu dosbarth gweithiol yng Nghwm Rhondda. Roedd fy nhad wedi dechrau gweithio ym mhwll glo Maerdy yn 15 oed a doedd neb erioed wedi dysgu’r iaith iddo. Yr hyn rydw i'n ei olygu wrth hynny yw nad oedd yr iaith wedi cael ei phasio ymlaen iddo yn fwriadol. Roedd ei nain a’i daid, y ddau yn siarad Cymraeg yn rhugl o Orllewin Cymru, wedi gwneud dewis bwriadol gan feddwl y byddai cael yr iaith yn anfantais i fy nhad yn ei waith.

Roedd yn benderfyniad oedd yn deillio o gariad, tuag at ŵyr roedden nhw eisiau ei amddiffyn. Roedd gwylio siaradwyr Cymraeg yn cael eu herlid yn beth anodd iawn, felly roedd yn haws helpu eich plant i gydymffurfio.

Mae gan fy mam hanes tebyg fel un oedd yn dod o deulu o lowyr. Ond er bod ei thaid o Ddyfnaint wedi’i restru fel siaradwr Cymraeg yng nghyfrifiad 1911, ni chafodd yr iaith ei phasio ymlaen erioed.

Ac eto, mae’r Gymraeg wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd.

Plentyndod wedi’i fritho â'r Gymraeg

Dismantling my language barrier through workplace learning

Fel rhan o'r atgofion cynnar hynny o’r ysgol fabanod, rwy’n cofio dysgu gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg ac roedd gorfod ei dysgu yn Saesneg yn yr ysgol iau wedi achosi penbleth wirioneddol i mi.

Mae'r iaith Gymraeg wedi dylanwadu ar fy iaith lafar erioed, o ran strwythur a chynnwys. Gan fy mod yn dod o’r Cymoedd, pan fydda i yn siarad Saesneg, rwy’n ‘siarad yn deidi’ ac, i mi, ‘gibbon’ (o'r gair Cymraeg ‘shibwns’) fydd ‘spring onion’ i mi am byth. Gallwch gael ‘swil in the bosh’ (ymolchi yn y sinc); a lôn fach yn rhedeg rhwng y tai teras y cefais fy magu ynddyn nhw yw'r 'gwli’.

Mae un gangen o’r teulu yn byw yn Aberystwyth, ac roedd fy modryb yn ymgyrchydd dros yr iaith Gymraeg. Hi aeth â fi i fy eisteddfod gyntaf fel plentyn a gwneud y Gymraeg yn fwy hygyrch i mi.

Ond er hynny dydw i erioed wedi teimlo fy mod i’n perthyn yn llwyr i’r gymuned hon oherwydd nad oeddwn i’n siarad yr iaith, felly mae fy mlynyddoedd fel oedolyn wedi bod yn gyfle i drwsio fy mherthynas doredig â hyn.

Newid fy mherthynas â’r Gymraeg drwy ddysgu yn y gweithle

Daeth gwaith yn lleoliad colynnol o ran fy mherthynas â’r iaith Gymraeg. Talodd TUC Cymru i mi ddilyn cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna bûm yn gwrando ar wersi'r rhaglen ‘Say Something in Welsh’ - fformat a oedd yn ddefnyddiol iawn i mi.

Gyda mwy o ffocws ar y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn cyflwyno polisi ‘Cymraeg 2050’ ynghyd â’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, roeddwn yn teimlo bod yr iaith yn mynd i ddod yn bwysicach mewn swyddi yn y dyfodol.

Felly, fe wnaeth hynny ddylanwadu ar fy newisiadau ynghylch addysg fy mhlant. Hefyd, roedd y grwpiau babanod Cymraeg am ddim (sydd bob amser yn help pan ydych chi ar absenoldeb mamolaeth). Fe wnes i fynychu grŵp cymunedol ‘Ti a Fi’ oedd yn cael ei gynnal yn ystafell gymunedol yr ysgol. Rhoddodd hyn gipolwg i mi ar ddiwylliant yr ysgol Gymraeg leol.

Siaradwch â mi yn Gymraeg

Y dyddiau hyn, rwy’n deall y Gymraeg yn eithaf da. Rydw i wedi cael gwersi ac oherwydd bod fy mhlant ifanc yn siarad Cymraeg, rydw i wedi ceisio gwneud yn siŵr fy mod i’n gallu deall beth sy’n digwydd. Yn bendant, roedd hyn yn rhywbeth a gafodd ei brofi yn ystod y cyfnodau addysgu gartref adeg Covid.

Wedi dweud hynny, mae fy hyder a fy ngallu i siarad bob amser wedi bod ar ei hôl hi o’i gymharu â fy nealltwriaeth, felly rydw i bob amser yn ddiolchgar pan mae pobl eraill yn barod i ymarfer gyda mi heb boeni am fy atebion sâl. Yn gyffredinol, rwy’n deall beth mae pobl yn ei ddweud wrthyf, hyd yn oed os nad ydw i’n ymateb mewn ffordd debyg.

Wrth ystyried fy mhrofiadau o’r Gymraeg, fel llawer o bethau eraill yn fy mywyd, grwpiau sydd wedi dylanwadu ar y profiad hwnnw. Mae angen cymuned i wneud newidiadau ac mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i wneud y Gymraeg yn hygyrch ac yn gynhwysol i bawb yng Nghymru. Mae’n rhywbeth y gall pob un ohonom gymryd perchnogaeth ohono, hyd yn oed os nad ydym yn siarad nac yn deall yr iaith ..... eto.

Tro nesaf ….. siaradwch gyda fi yn Gymraeg!!

Gallwch chithau hefyd ddysgu Cymraeg yn y gweithle.

Mae sawl ffordd y gallwch chi ddysgu Cymraeg yn y gweithle, er enghraifft: Dysgu Cymraeg a Say Something in Welsh Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu dysgu Cymraeg drwy ddefnyddio Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) p’un ai a ydych chi’n aelod o undeb ai peidio - cysylltwch â'r undeb yn eich gweithle i gael gwybod mwy.