Partneriaeth Gymdeithasol: ffordd newydd ymlaen i Gymru

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn ddarn nodedig o ddeddfwriaeth. Mae'n croesawu system lywodraethu gadarnhaol a chydweithredol sy'n golygu bod undebau llafur, llywodraeth Cymru a chyflogwyr yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau gwell canlyniadau i Gymru.

Ond beth mae'n ei olygu i chi a pham fod y Ddeddf mor bwysig?

Cydweithio

Mi fyddwch yn siŵr o fod wedi sylwi ar yr achosion o streicio sydd wedi digwydd dro ar ôl tro ledled y DU. Mae undebau wedi bod yn ymladd yn ôl yn erbyn y wasgfa sylweddol ar eu haelodau, ac mae Cymru wedi gweld nifer fawr o anghydfodau. Fodd bynnag, cymharwch ddull Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth y DU ac fe welwch agwedd wahanol iawn tuag at gysylltiadau diwydiannol.

Yn San Steffan, lle mae agwedd hunanfodlon, drahaus, mae anghydfodau yn Lloegr yn aml wedi gwaethygu a chwerwi. Mae amharodrwydd llywodraeth y DU i ymgysylltu ag undebau, a'u hagwedd elyniaethus y maent prin yn ei chelu tuag atynt, wedi arwain at streiciau hir lle gellid bod wedi dod i gytundeb.

Nid yw wedi bod yn rhwydd yng Nghymru, ond trwy fabwysiadu egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, bu llai o anghydfodau o gymharu. Ac mae'r anghydfodau a ddigwyddodd wedi cael eu datrys yn gyflymach.

Mae undebau llafur yng Nghymru yn cynnal eu pŵer diwydiannol ond, yn wahanol i'r safiad croes a welir yn Lloegr, mae ganddynt lywodraeth yng Nghymru sydd wedi ymrwymo i ddeialog a dod o hyd i atebion.

Llais y gweithwyr

Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol newydd yn rhoi llais gweithwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru. O dan ddarpariaethau'r ddeddfwriaeth, erbyn hyn mae 'Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol' ar bob corff cyhoeddus. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt bennu amcanion llesiant fel y'u diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn golygu y byddant nawr yn gwneud hynny mewn ymgynghoriad â'u hundebau llafur cydnabyddedig, gan ymgynghori â nhw wrth wneud penderfyniadau strategol i gyflawni'r amcanion hyn.

Yr elfen allweddol yma yw'r rheidrwydd cyfreithiol i ymgynghori ag undebau. Mae'r hyn a oedd unwaith yn anffurfiol i raddau helaeth ac yn gwahaniaethu rhwng cyflogwyr, bellach wedi'i safoni ac yn gyfreithiol rwymol.

Rhaid i gyrff cyhoeddus ymgynghori a gweithio gydag undebau o dan y Ddeddf. Nid yw bellach y bosibl ceisio osgoi’r ddyletswydd hon, na chau undebau allan o broses wneud penderfyniadau, heb ganlyniadau.

Trwy'r darpariaethau hyn, a thrwy rôl newydd i undebau fel cynghorwyr statudol ar y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, mae'r Ddeddf yn sicrhau lle haeddiannol undebau llafur fel partneriaid hanfodol wrth lunio polisi cyhoeddus.

Gwaith teg a chyfrifoldeb cymdeithasol

Mae TUC Cymru wedi ymgyrchu'n hir dros waith teg ac i wneud Cymru'n genedl gwaith teg. Mae hyn wedi golygu mynd i'r afael â phroblemau ym marchnad lafur Cymru. A chael gwared ar arferion llafur anniogel a chamfanteisiol.

Mae'r model partneriaeth gymdeithasol yn allweddol wrth gyflawni'r nod hwn.

Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddod o hyd i nwyddau, gwasanaethau a deunyddiau mewn ffordd gymdeithasol gyfrifol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr. Felly ni fydd modd trin isgontractwyr a staff allanol fel gweithlu eilradd mwyach.

Mae hefyd yn gorfodi prosiectau adeiladu cyhoeddus mawr i ddarparu cyfleoedd gwaith i grwpiau difreintiedig ac ymylol. Rhaid iddynt hefyd ddarparu hyfforddiant priodol. A rhaid iddynt sicrhau bod hawliau cyflogaeth, mynediad at undebau llafur, a chynrychiolaeth undebau llafur yn cael eu gorfodi a'u parchu.

Mae byd amheus o is-gontractio rhad, cau undebau llafur allan, ac osgoi dyletswyddau i gymunedau a'r amgylchedd yn anathema i ni. Mae hefyd yn groes i egwyddorion partneriaeth gymdeithasol.

O fewn y pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, mae gan y Ddeddf y potensial i ddileu'r arferion gwael yma. Edrychwn ymlaen at gyfnod newydd lle mae gweithwyr yn ddiogel, yn cael eu parchu ac yn rhydd i ymuno ag undeb.

O’r diwedd rydym yn falch bod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi diwedd ar y degawdau o’r diffyg urddas a’r ansicrwydd y mae llawer o weithwyr yng Nghymru wedi'i ddioddef.

Dechrau newydd

Er bod y Ddeddf bellach wedi dod i rym yng Nghymru, nid dyma ddiwedd y stori. Rydym yn canolbwyntio nawr ar ymgysylltu â Llywodraeth Cymru a chyflogwyr drwy'r dulliau sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf. Ac, wrth gwrs, parhau i ymgyrchu am fargen well i weithwyr.

Rydym am adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd ac rydym yn obeithiol y bydd dylanwad y Ddeddf yn lledaenu. Rydym am i hyn fod yn gam tuag at sicrhau bod gwaith teg a manteision partneriaeth gymdeithasol i bob gweithiwr.

Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn gam tyngedfennol i Gymru. Mae gweledigaeth gadarnhaol wedi'i chroesawu sy'n rhoi undebau lle dylen nhw fod wedi bod erioed - wrth y bwrdd, yn ymgysylltu, ac yn rhan annatod o lunio polisïau.

Ar ôl blynyddoedd o waith caled, rydym yn falch iawn o weld ymdrechion yr undeb yn cael eu gwireddu yn y ddeddfwriaeth hon. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth mawr y gall y Ddeddf ei wneud i fywydau gweithwyr ledled Cymru.