Mae naw o bob deg ohonom yn teimlo bod ein gwaith wedi gwaethygu ein hiechyd meddwl - mae angen newidiadau brys yn y gweithle

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae Linsey Imms yn datgelu ystadegau brawychus o'n harolwg iechyd meddwl diweddar, ac mae'n esbonio beth allwn ni ei wneud i wneud bywyd yn well i holl weithwyr Cymru.

Rhwng Hydref 2021 a Chwefror 2022 fe wnaethon ni gynnal arolwg oedd yn agored i unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yng Nghymru.  Roeddem am gael gwybod sut roedd pobl yn teimlo bod eu hiechyd meddwl a'u bywyd gwaith wedi newid, neu beidio, drwy'r pandemig. Bydd adroddiad llawn o ganlyniadau'r arolwg hwn ar gael yn fuan, ond yn y cyfamser, dyma'r prif bwyntiau:

O 1174 o ymatebwyr, mae

  • 78% yn cytuno bod y pandemig wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl
  • 93% yn cytuno bod gwaith yn effeithio ar eu hiechyd meddwl
  • 89% yn cytuno bod gwaith wedi gwaethygu eu hiechyd meddwl
  • Soniodd 43% o'r ymatebwyr fod ffynhonnell o gefnogaeth i'w hiechyd meddwl yn y gwaith, ond, o'r rhai a soniodd fod rhai ffynonellau cefnogi ar gael, dim ond 22% fyddai'n teimlo'n gyfforddus wrth gael mynediad ato.

Dychwelyd yn raddol?

Dychwelyd yn raddol?Yn ôl yr adborth cyffredinol nid yw dychwelyd yn raddol ar ôl cyfnod o salwch meddwl yn ateb ar ei ben ei hun.

O'r rhai a gafodd amser i ffwrdd oherwydd salwch meddwl, dychwelodd y mwyafrif yn raddol i’w gwaith- sy'n swnio'n dda mewn theori.

Ond dyna lle mae’n stopio - gwelsom fod pobl yn dychwelyd i weithle lle'r oedd nifer o broblemau’n parhau. Er enghraifft, llwyth gwaith enfawr lle nad oedd unrhyw un wedi cwblhau eu gwaith yn eu habsenoldeb, a dim newidiadau i'w gwaith na'u hamodau i’w hatal rhag mynd yn sâl eto. Fe wnaeth pobl hefyd adrodd am anawsterau gyda chydweithwyr nad oedd yn gwybod beth i'w ddweud wrthyn nhw, stigma, a synhwyro agweddau tuag atynt - teimlo eu bod yn ddiog neu'n llaesu dwylo.

Arweiniodd hyn at staff gwerthfawr yn ymddeol yn gynnar, yn mynd yn rhan amser a cholli arian na allen nhw fforddio ei golli, neu hyd yn oed achosi iddyn nhw fynd i ffwrdd yn sâl eto.

Effeithiau'r pandemig

Cafodd pawb ei effeithio gan y pandemig, ond gwelsom fod materion iechyd meddwl yn wahanol yn dibynnu ar ble roeddech chi'n gweithio.

  • Roedd y rhai a oedd yn gweithio gartref yn delio ag unigrwydd, yn methu â  pheidio â meddwl am waith, ac yn teimlo’r straen o greu gweithle mewn cartref prysur.
  • Dywedodd staff rheng flaen eu bod wedi teimlo’n flin ac wedi ymladd ar ôl bod ar y rheng flaen ers y diwrnod cyntaf o'r pandemig heb unrhyw seibiant a dim digon o ddiogelwch, tra bod eraill ar ffyrlo neu'n gallu gweithio gartref. Nid yn unig yn y GIG, cartrefi gofal ac ysgolion, ond hefyd mewn swyddi llai cyhoeddus, megis manwerthwyr, cemegwyr a fferyllfeydd, meddygfeydd a deintyddfeydd.
  • Dywedodd gweithwyr oedd yn delio’n uniongyrchol â chwsmeriaid wrthym eu bod yn wynebu ymddygiad dilornus yn ddyddiol gan gleientiaid/cwsmeriaid/aelodau o'r cyhoedd a wrthodai wisgo mygydau/cadw pellter cymdeithasol/ciwio. Yn ddealladwy, roedd hyn yn aml yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.
  • Dywedodd llawer o weithwyr hefyd eu bod wedi colli hyder. Mae hyn yn dal i fod yn broblem i lawer, mewn gwaith a thu allan i'r gwaith.  Y rhain oedd y straeon anoddaf i wrando arnynt, ac effeithiodd ar bobl o bob grŵp.

“Dydw i ddim yn chwerthin mwyach, dydw i ddim yn mynd allan mwyach na gwneud fawr ddim y tu allan i fy nhŷ”

Datrysiadau i broblemau iechyd meddwl presennol  yn y gweithle 

Mae'n ddigon hawdd darganfod pa mor wael yw'r darlun, ond beth allwn ni ei wneud, fel cynrychiolwyr ac eiriolwyr yn y gweithle, i wella bywydau yn y gwaith?

Rydym angen:

Polisïau Iechyd Meddwl sy'n effeithiol a chwbl hysbys  - nid oes unrhyw werth iddynt os ydynt yn eistedd ar silff - y mae staff, rheolwyr a chynrychiolwyr yn cael hyfforddiant arnynt.

Polisïau gwaith hyblyg effeithiol sy'n caniatáu i bobl weithio ble a sut maen nhw'n ffynnu orau - heb fod yn gyfyngedig i staff sy’n gweithio wrth ddesg. Dylai hyn hefyd gynnwys y gallu i gywasgu oriau e.e. yn ystod y tymor/cyfnodau prysur i'r busnes, neu newid amseroedd cychwyn/gorffen i gyd-fynd ag anghenion/osgoi amseroedd cymudo prysur.

Rhwydwaith o lysgenhadon/Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl hyfforddedig – ar lawr siop, mewn swyddfeydd, yn y ffreutur.  Po fwyaf sydd gennym, y gorau y caiff y rôl ei hyrwyddo, y mwyaf rydyn ni'n agor y sgwrs. Hefyd dylai llysgenhadon/Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl fynychu cyfarfodydd o gangen yr undeb a’u cynnwys fel eitem ar yr agenda.

Dull unigoledig o gefnogi iechyd meddwl ar lefel rheolwr. Mae hyn yn rhywbeth mae Cynrychiolwyr Dysgu'r Undeb wedi bod yn ei wneud o ran dysgu yn y gweithle ers degawdau. Yn syml, dydyn nhw ddim yn cynnig cam 1 mewn Sbaeneg i'r holl staff heb wirio beth mae pobl eisiau neu ei angen mewn gwirionedd.  Dylai rheolwyr gymryd yr un agwedd at anghenion iechyd meddwl aelodau unigol o staff.

Mae Rhaglenni Cymorth i Weithwyr (EAPs) yn werthfawr a dylid eu hannog, ond nid yw hyn yn ddigon ynddo'i hun - mae llawer o ymatebwyr yn gweld hynny fel trosglwyddo’r gefnogaeth i sefydliad arall.

Norm lle mae'r rheolwyr yn annog cynrychiolwyr i fynychu cyfarfodydd perthnasol yn y gweithle i glywed barn aelodau ac annog deialog ar i fyny yn ogystal ag i lawr.

Normaleiddio newid - rhaid i ni neilltuo amser a lle i drafod materion sy'n effeithio ar weithwyr. Mae gan waith y potensial i fod yn flanced gysur, nid yn faich dyddiol.

Am fwy o syniadau a chyngor, lawrlwythwch ein pecyn cymorth Iechyd Meddwl a'r Gweithle sydd wedi'i anelu at gynrychiolwyr undeb a gweithwyr. Mae'n darparu gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth i weithwyr â phroblemau iechyd meddwl a gall eich helpu i ddelio â rhai o'r pwyntiau uchod.