Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Bu cynrychiolwyr ifanc TUC Cymru yn cymryd rhan yn y ‘Patrôl Haf LO’ yn nhirweddau hardd Norwy.

Mae Patrôl Haf LO (TUC Norwy) wedi bod yn meithrin twf gweithwyr ifanc ers bron i bedwar degawd. Trefnir y Patrôl gan Gydffederasiwn Undebau Llafur Norwy. Mae’n rhaglen flynyddol dan arweiniad pobl ifanc sy’n ceisio cysylltu â gweithwyr ifanc ledled y wlad a’u grymuso.

Fel rhan o ddirprwyaeth Cymru, cawsom y fraint o gymryd rhan yn y profiad hwn. Dros gyfnod yr haf, cawsom weld effaith undebau llafur ar weithlu ifanc Norwy, yn aml yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf o gyflogaeth.

Dechreuodd ein taith gyda chroeso cynnes yn Bergen, lle gwnaethom ymuno â Phatrôl Haf LO ar gyfer eu sesiwn adrodd ac ôl-drafod ddyddiol. Gyda’r nos, fe aethom i drafodaeth panel, lle'r oedd pizza ar gael i ni. Fe wnaethom rannu gwybodaeth am gyflwr gweithwyr ifanc a deddfwriaeth gwrth-undebau llafur Llywodraeth y DU.

Mae Partneriaeth Gymdeithasol yn fodel newydd i Gymru. Ond mae’r model cysylltiadau diwydiannol yn Norwy wedi cael ei roi ar waith ers dros 100 mlynedd - y model hwnnw yw pan mae undebau, cyflogwyr a’r llywodraeth yn cydweithio (Tripartism yn Saesneg). Roedd y ffocws ar Gymru yn ein galluogi i osod y naws ar gyfer gweddill y daith. Daeth y noson i ben gyda dealltwriaeth glir bod gwahaniaethau rhwng ein gwledydd, ond bod cryfderau a phroblemau cyffredin hefyd.

Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

Ar ein diwrnod cyntaf gyda Phatrôl Haf LO, cawsom wybodaeth am hanes ac amcanion y rhaglen. Fe wnaethom fentro i wahanol weithleoedd ar draws Bergen mewn parau.

Fe wnaethom gynnal arolygon dienw i fapio tueddiadau a chanfod problemau yn y gweithle. Mae LO yn ymfalchïo yn y ffaith mai’r patrôl yn aml yw’r rhyngweithiad cyntaf y bydd gweithwyr ifanc yn ei gael gydag undeb llafur. Ei nod felly yw gwneud y patrôl, a’r rheini sy’n cymryd rhan ynddi, mor hawdd â phosibl.

Yn ystod ein hymweliad, cawsom ein hanrhydeddu i gwrdd â Dirprwy Faer a Maer Bergen, y ddau o dan 30 oed. Fe wnaeth y cyfarfyddiad hwn amlygu'r cynnydd y mae Norwy wedi'i wneud o ran grymuso arweinwyr ifanc i gael swyddi arwyddocaol mewn cymdeithas.

Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

Aeth ein taith â ni i ranbarth diwydiannol Odda, lle gwnaethom ymuno â’r patrôl teithiol a rhannu i barau er mwyn ymweld â gwahanol rannau o’r ardal. Cefais gyfle i ymweld â Ffatri Sinc Boliden. Ar hyn o bryd, mae gwaith ehangu mawr werth biliynau o bunnoedd yn cael ei wneud yno er mwyn dyblu'r cynhyrchiant sinc erbyn 2026. Yn ystod cyfweliadau gyda gweithwyr ifanc, fe ddysgon ni am ddyheadau’r safle i fod y ffatri wyrddaf yn y byd. Mae’n gobeithio cyflawni hyn yn bennaf drwy drawsnewid ac integreiddio awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial.

Mewn cyflwyniad gan gynrychiolydd undeb, fe wnaethom rannu pryderon am rôl deallusrwydd artiffisial mewn gweithleoedd ledled y DU. A buom yn trafod sut mae’r trawsnewid yn Boliden yn ystyried llais y gweithwyr.

Clywsom am sut mae partneriaeth gymdeithasol yn gweithio’n ymarferol. Dyma enghraifft lle’r oedd addysg ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr, undebau a chyflogwyr wrth wraidd y newid hwn.

Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

O’r cychwyn cyntaf, roedd dealltwriaeth y byddai deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i liniaru rolau risg uchel. Ond byddai gweithwyr yn y meysydd hynny’n cael eu hailhyfforddi i lywio’r byd digidol. Anogwyd undebau i geisio cyngor annibynnol am effeithiau deallusrwydd artiffisial ar weithwyr. Ac roedd cyflogwyr hefyd yn cael hyfforddiant ar yr effeithiau er mwyn deall y newid o safbwynt y gweithiwr.

Mewn sgyrsiau â phobl leol, amlygwyd pa mor arwyddocaol oedd hi i gynadleddwyr o Gymru fod yn Odda. Roeddent yn gallu disgrifio sut roedd yr Orsaf Bŵer Hydro yno yn darparu ynni’r gweithfeydd dur lleol i’w cludo i’n pyllau glo yma yn y DU. Dywedwyd wrthym fod perchnogion y safle ym Mhrydain hyd yn oed yn defnyddio tacteg Brydeinig adnabyddus o ddarparu gerddi i weithwyr gyda’u cartrefi rhag iddynt fynd yn rhy drefnus yn eu gweithle. Er gwaethaf hyn, mae Odda yn enwog am ei gyfunoliaeth ac mae’n adnabyddus am fod yn un o ranbarthau mwyaf undebol y wlad.

Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

Arsylwadau gweithwyr ifanc o Gymru o’r daith

Drwy gydol ein taith yn Norwy, gwelsom effeithiolrwydd dull LO o ran grymuso gweithwyr ifanc:

1. Strwythur y Swyddfa: Mae gan LO amrywiaeth eang o weithwyr sy’n goruchwylio gwahanol grwpiau sy’n gysylltiedig â gweithwyr ifanc. Mae hyn yn galluogi cynrychiolaeth gynhwysfawr o fyfyrwyr, prentisiaid, gweithwyr coler las a gweithwyr coler wen. Ac mae’n atal gweithwyr ifanc rhag cael eu homogeneiddio i un categori.

2. Ysgrifenyddion Ifanc: Mae ysgrifenyddion ifanc rhanbarthol yn gwasanaethu am gyfnod o ddwy flynedd. Maent yn cael eu prynu, neu eu secondio, gan eu cyflogwyr os cânt eu hethol i swyddi ysgrifennydd rhanbarthol. Mae hyn yn golygu bod ffocws penodol ar anghenion gweithwyr ifanc ac arweiniad gwleidyddol ar ymgyrchu.

3. Brwydrau Cyfreithiol: Mae LO wedi ymgymryd ag achos arloesol, gan frwydro yn erbyn landlordiaid a oedd yn dal arian blaendal myfyrwyr yn ôl. Cafodd hyn gefnogaeth eang gan y gymuned myfyrwyr.

4. Ymgysylltu â Gwleidyddion: Mae undebwyr llafur ifanc yn arwain ymgyrchoedd blynyddol. Maent yn gwahodd grŵp trawsbleidiol o wleidyddion i gwrdd â gweithwyr ifanc o ddiwydiannau penodol, gan hyrwyddo deialog a phartneriaeth gymdeithasol.

Beth all undebwyr llafur ifanc yng Nghymru ei ddysgu o Norwy?

Roedd Patrôl Haf LO yn enghraifft o sut mae gweithwyr ac ymgyrchwyr ifanc yn chwarae rhan flaenllaw mewn gweithgarwch undeb. Mae gweithwyr ifanc yn arwain ar bartneriaeth gymdeithasol, symudedd ar lawr gwlad ac yn diogelu mudiad yr undebau yn Norwy yn y dyfodol. Mae llawer o bethau i ddysgu oddi wrthynt ac i fod yn obeithiol amdanynt wrth i ni ddychwelyd i Gymru.

Fel TUC Cymru, mae LO yn meithrin diwylliant o rymuso ac addysg. Mae dwysedd uwch o aelodaeth undebau yn Norwy. Mae hyn, a chyd-destun cysylltiadau diwydiannol, yn golygu nad oedd “adain ieuenctid” y mudiad undebau llafur yn seiliedig yn unig ar ymgysylltu ag aelodau. Yn hytrach, gallant greu gofod o fewn y sffêr diwydiannol a gwleidyddol sy’n grymuso llais pobl ifanc. Mae’r llais hwn yn cael ei glywed yn dda mewn cymdeithas.
Wrth i ni ddychwelyd i Gymru, mae gennym ddealltwriaeth werthfawr o ddull gweithredu blaengar Norwy. Maen nhw’n ein hysbrydoli i groesawu’r newid a ddaw yn sgil partneriaeth gymdeithasol, ac yn gweithio i greu amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i’r holl weithwyr, gan eu galluogi i ffynnu a thyfu yn y byd gwaith sy’n esblygu drwy’r amser.

Cymerwch ran yn Rhwydwaith Gweithwyr Ifanc TUC Cymru

Gweithwyr ifanc o Gymru yn cymryd rhan ym Mhatrôl Haf Norwy

Rydym am greu rhwydwaith o weithwyr ifanc yng Nghymru sy’n aelodau o undebau llafur. Bydd y rhwydwaith yn darparu undod, mannau diogel a chyfleoedd i weithio gydag undebwyr llafur eraill.

Ymunwch â Rhwydwaith Gweithwyr Ifanc TUC Cymru

Mae ein digwyddiad nesaf yn sesiwn datblygu ar gyfer actifyddion ifanc ar 28 Medi. Mae'n agored i bob gweithredwr ifanc yng Nghymru yn ogystal â chynrychiolwyr undebau llafur a swyddogion.

Cofrestrwch ar gyfer Rhaglen Datblygu Gweithredwyr Ifanc ar 28 Med