Gweithwyr Cymru yn coffáu eu cydweithwyr a laddwyd yn y gwaith, wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig fwriadu dileu cyfreithiau Prydain sy’n gwneud gweithleoedd yn ddiogel

Dyddiad cyhoeddi
Ar 28 Ebrill, bydd gweithwyr ledled Cymru a gollodd eu bywydau yn y gwaith yn cael eu cofio mewn seremoni genedlaethol yng Nghaerdydd, yng nghwmni’r Prif Weinidog.
Yn y cyfamser yn San Steffan, mae gweinidogion yn bwriadu dileu mesurau diogelwch Prydeinig ar gyfer gweithwyr mewn ymosodiad ideolegol ar safonau.

Mae TUC Cymru yn cadw Diwrnod Coffa’r Gweithwyr bob blwyddyn.  Bydd y Prif Weinidog ac arweinwyr undebau llafur yn gosod torchau a blodau i goffáu’r rhai a fu farw yn y gwaith.  Bydd undebau’n ailymrwymo i frwydro i amddiffyn pob gweithiwr rhag marwolaeth ac anaf yn y gwaith.

Eleni, mae gan Ddiwrnod Coffa’r Gweithwyr arwyddocâd ychwanegol gan fod gweinidogion di-hid yn Llundain yn ceisio tynnu’n ôl hawl gweithwyr o Gymru i ddiogelwch yn y gwaith drwy gyfraith newydd, sydd wedi cael ei galw’n ‘Ddeddfwriaeth Gwrth-Amddiffyn’.  Mae’r Bil yn cael ei alw’n swyddogol yn ‘Fil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir’ ond mae hyn yn gamarweiniol oherwydd bod y cyfreithiau a’r rheoliadau y mae’n ceisio eu diddymu yn gyfreithiau Prydeinig a basiwyd gan senedd Prydain, a basiwyd i’n hamddiffyn ar draws amrywiaeth o feysydd.

Mater o fywyd a marwolaeth

Mae’r Bil yn destun pryder enfawr oherwydd gall iechyd a diogelwch yn y gweithle fod yn fater o fywyd a marwolaeth.

Dyma dair enghraifft allweddol o ddarnau arwyddocaol o ddeddfwriaeth sydd mewn perygl oherwydd y Bil hwn:

  • Rheoliadau Rheoli Asbestos 2012. Ar hyn o bryd, mae 5,000 o bobl y flwyddyn yn marw ym Mhrydain o ganlyniad i glefydau sy’n gysylltiedig ag asbestos. Mae’r rheoliadau hyn yn darparu fframwaith hanfodol ar gyfer rheoli asbestos, gan gynnwys ar gyfer perchnogion adeiladau a’r rhai sy’n ei dynnu o adeiladau.
  • Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999. Mae hon yn elfen graidd o drefn iechyd a diogelwch y wlad ac mae’n cynnwys gofynion ar gyfer cynnal asesiadau risg, penodi pobl gymwys a threfnu hyfforddiant.
  • Rheoliadau Gweithio ar Uchder 2005. Mae’r rhain yn diogelu gweithwyr drwy fynnu bod gwaith yn cael ei gynllunio’n briodol, bod y rhai sy’n gwneud y gwaith yn gymwys ac yn gosod dyletswyddau i osgoi risgiau o ganlyniad i arwynebau bregus, gwrthrychau sy’n disgyn a mannau peryglus.

Mae’r tri darn hwn o ddeddfwriaeth yn rhoi cipolwg o’r mesurau diogelu sydd mewn perygl.

Y llynedd, ledled Prydain, lladdwyd 123 o weithwyr mewn damweiniau a oedd yn gysylltiedig â gwaith.  Ar gyfartaledd, mae deg marwolaeth y flwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i ddamwain sy’n gysylltiedig â gwaith, yn ôl ystadegau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae cyfradd yr anafiadau angheuol i weithwyr yng Nghymru yn 0.42 fesul 100,000.  Mae hyn yn cymharu â 0.56 yn yr Alban a 0.38 yn Lloegr.  Y gyfradd uchaf ym Mhrydain yw de-orllewin Lloegr gyda chyfradd o 0.63.

Yn ôl ymchwil yr Ymgyrch Peryglon (Hazards Campaign), mae nifer gwirioneddol yr anafiadau angheuol i weithwyr ledled Prydain yn uwch na ffigur yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.  Yn ogystal, maent yn cyfeirio at:

  • Tua 50 achos o weithwyr yn cael eu lladd ar y môr ac yn yr awyr
  • 5 achos o weithwyr yn cael eu lladd ar y rheilffyrdd
  • Tua 460 achos o weithwyr yn cael eu lladd mewn damweiniau ar y ffordd
  • Tua 600 o hunanladdiadau o ganlyniad i bwysau gwaith

Mae’r ffigurau hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi bod undebau’n parhau i roi iechyd a diogelwch wrth galon eu gweithgareddau.  Fel y nodwyd gan y comisiwn Gwaith Teg annibynnol i Gymru, “Mae cyfraniad undebau llafur a gweithwyr wedi bod yn hollbwysig yng nghydymffurfiad cryf y DU â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.”  Ond, mae bygythiad cynlluniau llywodraeth y Deyrnas Unedig i amddiffyniadau iechyd a diogelwch yn golygu ei bod yn hanfodol bod undebau’n parhau i drefnu ar gyfer iechyd a diogelwch yn y gweithle.

The Whole Story - Work-related injuries, illness and deaths - Hazards Campaign, 2021

Ystadegau - Anafiadau angheuol yn gysylltiedig â gwaith ym Mhrydain (hse.gov.uk)

P49  Gwaith Teg yng Nghymru - Adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg (llyw.cymru)