Dyfodol Datganoli a Gwaith yng Nghymru

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Pan ofynasom i’r Athro Jean Jenkins ystyried y rhyngweithio rhwng datganoli a hawliau cyflogaeth yng Nghymru, nid oeddem yn llwyr werthfawrogi maint yr her yr oeddem wedi’i gosod iddi.

Daeth ambell beth i’r amlwg yn gyflym.

Mae gan y wladwriaeth ddatganoledig lawer o bŵer dros fywydau gweithwyr er bod hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol wedi’u cadw gan San Steffan.

Ychydig iawn o ystyriaeth sydd wedi bod yng Nghymru hefyd o’r hyn y byddai’n ei olygu i ddatganoli cyfraith hawliau cyflogaeth a chysylltiadau diwydiannol, ac felly nid oes llawer o drafodaethau wedi bod ynghylch risgiau a manteision hyn. 

Gall cysylltiadau diwydiannol deimlo’n amhosibl i’w clustnodi gan eu bod yn croesi ffiniau cenedlaethol heb fawr o sylw i ddatganoli mewn rhai achosion ac wedi cael eu hail-lunio’n llwyr mewn rhai eraill.

Mae gan ein mudiad ddyled enfawr i’r Athro Jenkins am ymgymryd â’r dasg enfawr hon.

Mae’r papur terfynol hwn yn ddiddorol dros ben, yn enwedig o ran lle rydym ni nawr. Mae ein marchnad lafur ar ei gliniau. Mae’n siomi cannoedd ar filoedd o weithwyr. Nid yw eu hawliau’n cael eu parchu ac ni allai eu disgwyliadau fod yn is.

Mae TUC Cymru wedi bod yn gefnogwr balch ac wedi siarad o blaid datganoli yng Nghymru, ac mae’n parhau i wneud hynny. Buom yn ymgyrchu dros Senedd i Gymru ac rydym wedi gweld â’n llygaid ein hunain y gwahaniaeth y gall cael ein llywodraeth ein hunain yng Nghaerdydd ei wneud – yn enwedig yn ystod yr argyfwng ariannol, yn ystod Covid ac wrth sefydlu’r strwythurau partneriaeth gymdeithasol sy’n rhoi llais i weithwyr Cymru ar y lefelau uchaf. Felly, ein man cychwyn yw y dylai’r gwaith o reoli gwaith yng Nghymru fod mor agos â phosibl at weithwyr yng Nghymru.

Mae adroddiad yr Athro Jenkins yn sefydlu’r realiti cymhleth a heriol y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag ef wrth edrych ar ddatganoli hawliau cyflogaeth.

Mae nifer o weithwyr yng Nghymru yn cefnogi datganoli hawliau cyflogaeth. Ond nid yw’r mwyafrif yn cefnogi hyn ar hyn o bryd. Mae llawer o’r rheini a allai fod eisiau gweld unrhyw ddatganoli o’r fath yn digwydd yn gyflym yn gwneud hynny o sefyllfa gadarnhaol – maent yn dymuno gweld Llywodraeth Cymru, sydd wedi ceisio diogelu gweithwyr rhag eithafion ymosodiadau olynol gan lywodraeth y DU, yn cymryd yr awenau.

Ond, fel y noda’r Athro Jenkins yn ddeheuig, mae llywodraeth y dydd ymhell o fod yr unig weithredwr perthnasol yn y farchnad lafur.

Mae’r Comisiwn wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar sut y gellir llwyr harneisio’r setliad datganoledig presennol a’r ddeddfwriaeth bresennol, nad yw’n cael ei gorfodi, er mwyn creu’r math o amodau lle gall gweithwyr wedyn benderfynu ar y llwybr iawn ar eu cyfer. Mae’n nodi sut y gellir dechrau cryfhau ac ailadeiladu marchnad lafur Cymru.

Drwy archwilio themâu craidd hawliau llafur, sefydliadau a gorfodi, mae’n edrych ar yr hyn sy’n angenrheidiol i sicrhau nad yw unrhyw ganlyniad – gan gynnwys datganoli pellach neu lawn – yn atgyfnerthu methiannau presennol yn y farchnad lafur. 

Mae angen i hyn fod yn fan cychwyn ar gyfer ein mudiad.  

Mae angen i ni ymdrin â’r materion hyn gyda’n llygaid yn llydan agored ynghylch beth allai’r risgiau hynny fod, gan ystyried yn ofalus sut i liniaru’r rhain, a diogelu’r hyn y mae gweithwyr eisoes wedi’i ennill a’i sicrhau.

Bydd gwneud hynny’n rhoi cyfle i ni greu marchnad lafur unigryw a mwy blaengar a theg yng Nghymru.

Mae angen i ni hefyd fod yn barod i fanteisio ar y cyfleoedd posibl i ddenu gweithwyr i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae symud tuag at breifateiddio a rhoi gweithwyr ar gontractau allanol wedi bod yn ffactor pwysig o ran tanseilio hawliau ac atebolrwydd gweithwyr dros y 40 mlynedd diwethaf. Gan fod Plaid Lafur y DU wedi ymrwymo i’r “don fwyaf o fewnoli mewn cenhedlaeth” mae angen i ni ystyried sut y gallwn fanteisio ar y cyfle hwn yng Nghymru.

Mae argymhellion yr Athro Jenkins yn canolbwyntio ar ail-lunio sefydliadau'r farchnad lafur yn llwyr yng Nghymru, drwy fuddsoddi mewn gorfodi a newid y wladwriaeth ddatganoledig tuag at ailadeiladu'r amodau sy'n angenrheidiol i weithwyr gael mynediad at eu hawliau llafur sylfaenol. Rwyf hefyd yn nodi ei hargymhelliad ar sut y dylai TUC Cymru fod yn datblygu gallu’r undeb i edrych ar ymarferoldeb datganoli pellach posibl. 

Rwy'n siarad ar ran ein holl aelodau cyswllt wrth ddiolch o waelod calon i'r Athro Jenkins am ei hymrwymiad a'i gwaith wrth ystyried y materion hyn ac ysgrifennu'r adroddiad hwn.

Mater i TUC Cymru yn awr fydd ystyried yr argymhellion hyn a chytuno ar ein camau nesaf fel mudiad i wneud gwaith yn decach i bawb.