Dod yn gynrychiolydd undeb llafur ychydig cyn pandemig Covid-19

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Gan Stacey Keane, bydwraig yng Nghwm Taf Morgannwg ac aelod o Goleg Brenhinol y Bydwragedd.

Yr wyf yn berson rhagweithiol iawn. Pan oeddwn i’n disgwyl fy mabi cyntaf, fe wnes i ddod o hyd i’r polisi mamolaeth ar gyfer fy mwrdd iechyd a gwneud yn siwˆr fy mod i’n ymwybodol o fy hawliau a fy nghyfrifoldebau.

Pan oeddwn yn absennol o’r gwaith yn anffodus yn dilyn colled yn ystod beichiogrwydd, ni chefais fy nhrin â charedigrwydd na thosturi yn ystod cyfarfod absenoldeb tymor hir. Felly, fe wnes i’n siwˆr fy mod i’n gwybod beth oedd y polisi absenoldeb yn ei ddatgan i gefnogi fy hun drwy gyfnod ofnadwy.

Sylwodd fy nghydweithwyr ar y math hwn o ymddygiad, a deuthum yn gyflym yn rhywun y trodd pobl ati i gael cyngor. Gallwn hefyd drwsio’r argraffydd a oedd yn fy ngwneud i’n amhrisiadwy, ac roedd pobl yn fy nhrin fel duwies!

Hoffwn i fod yn gynrychiolydd undeb?

Dod yn gynrychiolydd undeb llafur ychydig cyn pandemig Covid-19

Oherwydd rhai o’r rhinweddau hyn a fy 15 mlynedd o brofiad (ar y pryd) fel bydwraig, cysylltodd cynrychiolydd undeb RCM â mi yn 2019 a gofyn a fyddwn i’n ymgymryd â rôl cangen.

Doeddwn i ddim am ymrwymo i ddechrau gan fod gen i fab ifanc ac roedd y bwrdd iechyd roeddwn i’n gweithio iddo newydd gael ei roi mewn mesurau arbennig. Ac roeddwn i’n ansicr ynghylch beth fyddai disgwyl i mi ei wneud yn y rôl.

Ond erbyn 6 Chwefror, ddau ddiwrnod cyn fy mhen-blwydd yn 40 oed, roeddwn wedi newid fy meddwl ac wedi cael fy ethol yn gynrychiolydd y gweithle.

Roeddwn i’n edrych ymlaen at ddechrau gwella’r amgylchedd gwaith i’r staff.

Ychydig a wyddwn i bryd hynny beth oedd i ddod.

Dechrau yn y swydd fis cyn pandemig byd-eang

Roedd y pandemig byd-eang a’r cyfyngiadau symud wedi fy nhaflu ar fy mhen i’r swydd.

Yn gynnar yn y pandemig, daeth y cyfan yn ormod i rai o swyddogion y gangen a chefais fy ngadael fel yr unig swyddog cangen gweithredol ar fy safle.

Roedd yn rhaid i ni addasu ein cynlluniau’n sylweddol ar gyfer 2020. Fe wnaethon ni symud i rith-gyfarfodydd a defnyddio WhatsApp, Facebook a Microsoft Teams i gadw mewn cysylltiad.

Mae hyn wedi newid am byth y ffordd rydym yn cyfathrebu, yn dathlu ac yn addysgu ein hunain fel proffesiwn a changen undeb llafur.

Yn ddiweddar, rydym wedi dathlu diwrnod rhyngwladol y fydwraig gyda seremoni wobrwyo. Roedd ei gynnal ar-lein yn golygu ein bod ni’n gallu dod at ein gilydd ar draws ein tri safle a chael pawb i ddathlu’r gwaith anhygoel rydyn ni wedi’i wneud yn ein bwrdd iechyd.