Dod o hyd i hyder a chryfder mewnol drwy fy undeb

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Gan Marjorie Magsino, nyrs yn Ysbyty Treforys ac aelod UNISON

Yn ôl yn 2004, aeth penderfyniad a newidiodd fy mywyd â fi i le nad oeddwn erioed wedi bod yno o’r blaen. Roedd yn lle o’r enw Cymru yn y DU.

Fe wnes i chwilio am ddyfodol gwell yn fy ngyrfa a fy mywyd teuluol, yn ariannol ac o ran gwireddu fy mreuddwydion.

Mae gweithio yn y GIG wedi helpu fy nheulu a’m perthnasau yn ôl yn Ynysoedd y Philippines i gael gwell cymorth ariannol. Yn benodol, mae wedi helpu gyda chostau meddygol, gwelliannau i’r cartref ac anfon plant i’r ysgol. Dyma un o’r rhesymau pam mae nyrsys Ffilipinaidd fel fi yn gweithio dramor.

Mae fy undeb wedi bod yn wal gadarn i bwyso arni

Dod o hyd i hyder a chryfder mewnol drwy fy undeb

Dros y 19 mlynedd diwethaf, rwyf wedi magu fy nheulu fy hun ac wedi ymestyn fy mherthynas â chydweithwyr a ffrindiau. Rwyf wedi helpu pobl mewn angen drwy fod yn rhan o waith allgymorth elusennol, diwylliannol a phersonol.

Roedd bod yn aelod o UNISON yn Ysbyty Treforys yn rhoi hyder a chryfder mewnol i mi. Er gwaethaf amgylchiadau anffafriol yn fy mywyd yma, mae gen i wal gadarn i bwyso arni.

Rydw i hefyd wedi rhoi cyngor i gydweithwyr a ffrindiau sy’n cael anawsterau i gysylltu â chynrychiolwyr undebau a chael help a chefnogaeth a oedd yn ddefnyddiol iawn iddyn nhw.