Cyfnod Atal Byr yng Nghymru: beth mae’n ei olygu i chi

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
O 18:00 ddydd Gwener 23 Hydref tan 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd, bydd rheoliadau’r cyfnod atal byr yn cael eu cyflwyno yng Nghymru. Does neb eisiau gorfod dychwelyd at gyfyngiadau symud cenedlaethol, ond oherwydd bod y cyfraddau Covid yn cynyddu, mae wedi dod yn fesur angenrheidiol.

Bydd gan bobl gwestiynau ynglŷn â sut mae hyn yn effeithio arnyn nhw a'u swyddi, felly rydyn ni wedi casglu’r holl bethau hanfodol y mae'n rhaid i chi eu gwybod. Mae gennym hefyd dudalen am gyngor ynglŷn â Covid-19 ar ein gwefan a all helpu gydag unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu’r rheolau canlynol ar gyfer y cyfnod atal byr:

  • Mae’n rhaid i chi weithio gartref os gallwch chi.
  • Mae’n rhaid i siopau sydd ddim yn gwerth bwyd, busnesau lletygarwch, gwasanaethau cysylltiad agos a busnesau digwyddiadau a thwristiaeth gau.
  • Bydd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu hefyd ar gau.
  • Dylid parhau i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.
  • Nid oes unrhyw reidrwydd ar bobl sy’n agored i niwed warchod. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu llythyr at yr unigolion hynny a oedd yn arfer gwarchod eu hunain gyda’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r ffordd orau o warchod eu hunain, ac os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, dylech ddefnyddio adnodd asesu risg Llywodraeth Cymru i ddeall eich lefelau risg.
  • Gall llefydd gofal plant aros ar agor, a gall pobl adael cartref i fynd â'u plant i le gofal plant.
  • Bydd ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig yn ail-agor fel arfer ar ôl hanner tymor, a bydd ysgolion uwchradd yn agor i ddisgyblion blwyddyn 7 ac 8 yn unig, a phlant sy’n cael eu hystyried y rhai mwyaf agored i niwed ar ôl gwyliau hanner tymor. Bydd disgyblion sy’n sefyll arholiadau hefyd yn cael bod ar y safle. Disgwylir i eraill barhau â’u haddysg gartref.

Darllenwch atebion Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin i fusnesau yng Nghrymu. 

Beth mae’r cyfnod atal byr yn ei olygu i weithwyr?

Os gallwch chi, dylech weithio gartref yn ystod y cyfnod atal byr. Ni ddylai eich cyflogwr geisio eich rhwystro rhag gwneud hynny a dylai sicrhau bod yr holl drefniadau yn eu lle er mwyn gallu gweithio gartref.  Os ydych chi'n teimlo nad yw eich cyflogwr yn gwneud y peth iawn, gall eich cynrychiolwyr gweithle helpu i newid hyn.

Darllenwch ein blogiau ynglŷn â’r hyn sydd angen i chi ei wybod wrth weithio gartref ac iechyd a diogelwch wrth weithio gartref.

Os na allwch chi weithio gartref, yna dylech fynd i'ch gweithle. Serch hynny, rhaid i'ch cyflogwr gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau eich diogelwch. Darllenwch ein canllaw cyflym ar asesiadau risg Covid i weld os yw eich cyflogwr yn gwneud y pethau iawn.

Os ydych chi'n teimlo bod eich cyflogwr yn esgeuluso eu cyfrifoldebau, gallwch wrthod mynd i’r gwaith. Darllenwch  am eich hawliau os ydych chi’n wynebu’r sefyllfa hon drwy fwrw golwg ar ein blog ynglŷn â gwrthod gweithio.

Os ydych chi’n gweithio mewn sector sydd ar fin cau, bydd cymorth cyflog ar gael drwy lywodraeth y DU, er bydd yn rhaid i’ch cyflogwr hawlio hwn ar eich rhan.

Mae'r Cynllun Cadw Swyddi, oedd yn wreiddiol yn mynd i ddod i ben ar 31 Hydref, wedi ei ymestyn hyd ddiwedd mis Mawrth 2021. 

Mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu taflen gwybodaeth yn dilyn a chyhoeddiad i ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi. Mae'r daflen hefyd yn amlinellu pa gymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n hunangyflogedig. 

Mae lansiad y Cynllun Cefnogi Swyddi (ar gyfer Eiddo Busnes sydd ar Gau) nawr wedi ei ohirio tan o leiaf mis Ebrill 2021. 

O dan y Cynllun Cadw Swyddi estynedig, mae gweithwyr sydd ar ffyrlo yn derbyn 80% o’u cyflog. Mae'r Trysorlys hefyd wedi cyhoeddi bod pobl sydd wedi cael eu diswyddo ar ôl 23 Medi yn gallu cael eu hail-gyflogi a'u rhoi ar y cynllun ffyrlo estynedig. Bydd angen i'ch cyflogwr wneud cais er mwyn i chi derbyn cymorth o dan y cynllun - mae'n rhaid i'ch cyflogwr talu chi, yna bydd Llywodraeth y DU yn eu talu'n ôl. 

Mae'r rheolau ynglŷn â’r cynlluniau hyn yn gymhleth ac os ydych chi'n poeni nad yw eich cyflogwr yn gwneud y peth iawn neu os nad ydych chi'n siŵr beth ddylech chi fod yn gofyn amdano, siaradwch â'ch undeb llafur cyn gynted â phosib.

Os nad ydych yn aelod o undeb llafur, dewch o hyd i’r undeb cywir drwy ddefnyddio ein hadnodd canfod undeb.

Nid yw TUC Cymru yn credu bod cymhorthdal cyflog y Cynllun Cadw Swyddi yn cynnig digon o sicrwydd i weithwyr, yn enwedig rheini ar gyflog lleiafswm sydd methu fforddio'r gostyngiad mewn cyflog. 

Mae hefyd nifer o gwestiynau sydd heb eu hateb ynglŷn â'r estyniad, yn enwedig o ran gweithwyr mewn sectorau sydd wedi gorfod cau yng Nghymru oedd methu cael y gefnogaeth cyn hyn.

Rydym yn galw am fwy o gymorth oddi wrth lywodraeth y DU i warchod gweithwyr sydd mewn peryg o ddisgyn rhwng y craciau yn y cynllun estynedig. 

Iechyd meddwl

Mae’r cynnydd mewn Covid-19 ac effeithiau’r cyfnod atal byr yn effeithio ar bob un ohonom ni, felly mae’n bwysig cymryd camau i edrych ar ôl eich iechyd meddwl.

Mae gennym ddigonedd o adnoddau ar gael i’ch helpu i ymdopi â’r wythnosau nesaf.

Gall ein sesiynau llesiant ymdopi â Covid eich helpu i ymdopi ag effaith y cyfnod o gyfyngiadau newydd.

Yn gynharach eleni, trefnwyd gweminar ar ymdopi â theimlo’n ynysig y gallwch ei gwylio unrhyw bryd.

Undebau Llafur

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen undebau llafur arnom i'n helpu drwy'r cyfnod ansicr hwn. Gall undebau wneud gweithleoedd yn well, yn fwy diogel, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynhyrchiol. Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd neu ddim yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch chi, gall eich undeb helpu.