Cyfyngiadau symud oherwydd coronafeirws: beth y gall cynrychiolwyr iechyd a diogelwch ei wneud

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae pandemig Covid-19 wedi gweddnewid arferion gwaith arferol, yn arbennig felly ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch undebau llafur. P’un ai ydyn nhw’n gweithio o’u cartrefi neu fel gweithwyr allweddol, mae pawb yn wynebu ffyrdd newydd a ffyrdd sy’n aml yn rhai anodd i weithio ynddyn nhw.

Ar Ddiwrnod Cofio’r Gweithwyr, rydym yn addo nid yn unig i “gofio’r meirw” ond yn ogystal “brwydro dros y byw”.

Yng nghyd-destun y pandemig hwn, mae hynny’n golygu gwneud y cwbl a allwn ni i gadw gweithwyr yn ddiogel oddi wrth y feirws.

Nid yw pandemig byd-eang yn rhyddhau cyflogwyr o’u dyletswydd gofal i amddiffyn gweithwyr, fel yr amlinellir o dan adran 2 Deddf Iechyd a Diogelwch 1974.

Felly, sicrhewch eich bod chi’n ymwybodol o’ch hawliau fel cynrychiolydd iechyd a diogelwch yn ystod yr amseroedd anodd hyn.

Mae’n rhaid i gyflogwyr ymgynghori â chynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Mae Rheoliadau Cynrychiolwyr Diogelwch a Phwyllgorau Diogelwch 1977 (CDPhD 77) yn amlinellu swyddogaethau cynrychiolydd iechyd a diogelwch.

Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y dylai eich cyflogwr fod yn trafod newidiadau arferion gwaith gyda chi. Mae hyn yn cynnwys asesiadau risg pan fydd yr amser yn dod i ddychwelyd i’r gwaith.

Nid yw eich cyflogwr yn gorfod cymryd eich cyngor, ond mae’n rhaid iddo barhau i roi cyfle i chi roi eich barn a rhoi ymateb rhesymol i chi ynglŷn â’r farn honno.

Hierarchaeth risg

Mae Rheoliad 5 o reoliadau CDPhD yn ymdrin ag archwilio’r gweithle.

Os ydych chi’n weithiwr allweddol, yna dylech chi fod yn gwirio unrhyw weithdrefnau newydd, fel darparu digon o hylif diheintio dwylo, cyfleusterau golchi dwylo, CDP a mannau lle gall tagfeydd ddigwydd, fel drysau a chyfleusterau lles a chantîn.

Gofynnwch i chi eich hun a yw eich cyflogwr wedi gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer y mannau hyn? A oes asesiad risg?

O gofio maint a difrifoldeb y broblem, nid yw gosod posteri yn ddigon.

Dylai cyflogwyr ufuddhau i’r hierarchaeth ganlynol ynglŷn â rheoli risg:

1. Dileu
A ellir dileu’r risg o dorri pellter cymdeithasol drwy ddefnyddio dulliau gwaith amgen fel gweithio o gartref? Os na ellir gwneud hyn:

2. Lleihau
A all y risg o dorri pellter cymdeithasol gael ei leihau drwy gyfyngu ar y nifer o weithwyr mewn unrhyw fan neu ddarparu mwy o gyfleusterau lles? Os na ellir gwneud hynny:

3. Ynysu
A all y risg o dorri pellter cymdeithasol gael ei ynysu drwy wahanu ardaloedd o’r gweithle? Os na ellir gwneud hynny:

4. Rheoli
A all y risg o dorri pellter cymdeithasol gael ei reoli drwy oruchwylio, ardaloedd mynediad sydd wedi’u nodi yn glir a marciau dau fetr tebyg i’r rhai a geir mewn archfarchnadoedd? Os na ellir gwneud hynny – neu os nad yw’n bosibl o hyd i osgoi’r risg yn ddigonol – yna darparwch CDP.

5. Cyfarpar Diogelu Personol
Yn dilyn yr asesiad risg, dylid darparu CDP sydd â chyfarwyddiadau eglur arno yn rhad am ddim. Dywed Rheoliad 4 o’r CDP :

Dylai pob cyflogwr sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddarparu i’w weithwyr a all fod yn agored i risg i’w hiechyd neu’u diogelwch tra maen nhw yn y gwaith ac eithrio lle mae’r risg a’r graddau y mae risg o’r fath wedi cael ei reoli yn ddigonol drwy gyfrwng arall sydd yr un mor effeithiol neu sy’n fwy effeithiol.

Mae hyn yn golygu na ddylai CDP fod y ffordd gyntaf o reoli’r risg o gael Covid-19 yn y gweithle.

6.D isgyblaeth
Drwy hyfforddiant a chyngor cywir ynghyd â pholisïau a rhybuddion eglur a dealladwy, yn cynnwys posteri.

Gweithio gartref

Os ydych chi’n gweithio gartref am y tro cyntaf, ac os nad oes polisi gweithio gartref yn bodoli, hwn yw’r amser i gytuno ar un. Gall ein gweminar ar iechyd a diogelwch yn y cartref hefyd ateb rhai o’ch cwestiynau ynglŷn â gweithio gartref ac ergonomeg, iechyd meddwl ac addasiadau rhesymol.

Mae Rheoliad 2 o’r Cyfarpar Sgrin Arddangos (CSA) yn datgan y dylid cwblhau dadansoddiad digonol a phriodol o weithfannau.

Mae’n rhesymol i’r cyflogwr ofyn i’r gweithiwr gynnal ei asesiad ei hun. Mae'r TUC wedi llunio eNodyn 'Asesiadau risg i weithwyr cartref' er mwyn helpu cynrychiolwyr a gweithwyr i aros yn ddiogel gartref.

Fel cynrychiolydd, dylech chi ymgyfarwyddo eich hun â dogfen gweithio gydag offer sgrin arddangos y GID er mwyn cynghori aelodau ynglŷn â’r problemau gyda hyn.

Os yw aelodau yn anhapus â’u gweithfannau, dylen nhw dynnu lluniau ohonyn nhw er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i’w cynrychiolydd IaD a’u cyflogwr ynglŷn ag unrhyw risgiau posibl.

Gallwch chi barhau i gynnal rhyw fath o archwiliadau o’r gweithleoedd drwy gasglu lluniau o weithfannau’r aelodau.

Pethau i’w hystyried yw ffactorau fel amser gweithio, ystum y corff, amodau ar gyfer eistedd, uchder y weithfan a goleuadau tanbaid.

Mae rhai ohonom ni yn hoffi chwarae ar ein gliniadur ar y soffa neu yn y gwely. Gall hyn fod yn iawn i chwarae gyda’r cyfryngau cymdeithasol am gyfnod byr, ond nid yw’n cymryd lle gweithfan ddiogel!

Parhewch i bwyllgora

Ni ddylai gweithio o gartref roi terfyn ar waith hanfodol pwyllgorau Iechyd a Diogelwch. Os rhywbeth, mae’r gwrthwyneb yn wir. Mae llawer o offer digidol y gallwch chi eu defnyddio i gael cyfarfodydd rhithwir.

Gall yr heriau yr ydych chi’n eu hwynebu fel cynrychiolydd fyth fod yn fwy. Mae cynrychiolwyr IaD yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau diogelwch a lles ein haelodau. Mae ein mudiad yn diolch i chi am eich ymdrechion a’ch gwaith caled.